FAQs

Croeso i’n Cwestiynau Cyffredin. Rydym wedi llunio atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am Celfyddydau Ymdrochol DU.

Cyffredinol

Beth yw’r rhaglen Celfyddydau Ymdrochol?

Rhaglen uchelgeisiol sy’n cael ei chynnal ar draws gwledydd Prydain dros gyfnod o dair blynedd yw Celfyddydau Ymdrochol, sy’n defnyddio dull sy’n cael ei arwain gan artistiaid o weithio gyda thechnolegau ymdrochol. Mae’r rhaglen gyffrous yma’n annog artistiaid o bob cefndir a phrofiad i archwilio, arbrofi neu estyn sut maen nhw’n gweithio, neu sut hoffen nhw weithio, gyda thechnolegau ymdrochol.

Pwrpas y rhaglen yw:

  • Creu cyfleoedd hygyrch a chynhwysol, gan chwalu’r rhwystrau rhag gweithio gydag offer ymdrochol.
  • Cefnogi artistiaid i ddatblygu gwaith arloesol, waeth beth yw eu lefel profiad neu eu gwybodaeth dechnegol.
  • Meithrin cymuned gref o grewyr ledled gwledydd Prydain i rannu syniadau ac i gydweithio.
  • Hyrwyddo dyfodol mwy amrywiol a chynaliadwy i’r celfyddydau ymdrochol drwy darfu ar ddulliau traddodiadol a hyrwyddo lleisiau newydd.
Beth ydych chi’n ei olygu wrth ‘celfyddydau ymdrochol’?

Rydyn ni’n gwybod bod ‘ymdrochol’ yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ac mewn gwahanol gyd-destunau. Ar gyfer y rhaglen yma, rydyn ni’n diffinio celfyddydau ymdrochol fel celf sy’n defnyddio technoleg er mwyn mynd ati i gynnwys y gynulleidfa. Gallai hyn gynnwys y defnydd o realiti rhithwir, realiti ymestynnol a realiti estynedig wrth greu gwaith celf sy’n pontio rhwng gofodau ffisegol a digidol, yn anelu at sawl synnwyr, ac yn waith celf sy’n cysylltu pobl â’i gilydd a/neu â’u hamgylchedd.

Mae’r diffiniad yma’n eang yn bwrpasol, ac mae’n ceisio cynnig arweiniad heb gyfyngu beth all pobl wneud cais amdano, ac annog arbrofi creadigol.

Pa gyllid sydd ar gael?

Mae tri math o gyllid ar gael:

  1. Archwilio (£5,000): Cefnogi archwilio cyfnod cynnar a datblygu sgiliau gyda thechnolegau ymdrochol. Bydd y prosiectau’n para 3-6 mis, gyda chymorth cynhyrchwyr wedi’i gynnwys.
  2. Arbrofi (£20,000): I ddatblygu prototeipiau a phrofi cysyniadau gyda chynulleidfaoedd. Bydd yn rhedeg am 4-9 mis, gyda chyfleoedd hyfforddiant a mireinio.
  3. Estyn (£50,000) Ar gyfer prosiectau ar gamau datblygedig, i helpu i gynyddu effaith a gwella ymgysylltiad. Bydd yn para 6-12 mis, gyda mentora wedi’i deilwra a chymorth ychwanegol.
Faint o brosiectau fydd yn cael eu hariannu?

Bydd y rhaglen yn ariannu dros 200 o artistiaid ledled gwledydd Prydain rhwng 2024 a 2027. Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu dros dair rownd, gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth drwy un o’r tair ffrwd ariannu: Archwilio, Arbrofi, neu Estyn.

Beth os oes gen i gŵyn?

Os oes gennych chi gŵyn am unrhyw agwedd ar y rhaglen neu unigolyn neu sefydliad sy’n rhan o’r rhaglen, cyfeiriwch at bolisi Gwneud Cwyn Celfyddydau Ymdrochol ar ein gwefan. Rydyn ni’n cymryd pob adborth o ddifri ac rydyn ni’n ymroddedig i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau.

Pwy sy’n gymwys

Pwy sy’n gallu gwneud cais?

Rydych chi’n gymwys i wneud cais am grant Celfyddydau Ymdrochol:

  • os ydych chi’n artist unigol, yn ymarferydd creadigol neu’n dechnolegydd.
  • os ydych chi’n sefydliad celfyddydol, yn gasgleb neu’n grŵp bach (deg o bobl neu lai ar gyfer Arbrofi/Archwilio, hyd at 50 o bobl ar gyfer Estyn).
  • os ydych chi’n byw yng ngwledydd Prydain, yn 18 oed neu’n hŷn, a bod gennych chi gyfrif banc yng ngwledydd Prydain.

Gallwch enwi sefydliadau mwy fel partner ar y cais, ond nid yw hyn yn ddisgwyliedig nac yn ofynnol.

Beth ydych chi’n ei feddwl wrth ‘artist’?

Unrhyw un sy’n rhan o ymarfer creadigol, gan gynnwys artistiaid, crewyr, technolegwyr, ac ymarferwyr o ystod eang o ddisgyblaethau. Gallai hyn gynnwys unigolion neu grwpiau bach sy’n gweithio mewn meysydd fel y celfyddydau gweledol, y celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, ffilm dylunio, llenyddiaeth, pensaernïaeth a mwy.

Pa ffurfiau ar gelfyddyd sy’n gymwys?

Mae pob ffurf ar gelfyddyd yn gymwys am gyllid, dim ond i’r ymgeisydd allu dangos diddordeb go iawn mewn archwilio, arbrofi, neu estyn eu defnydd o dechnolegau ymdrochol yn eu hymarfer creadigol.

Oes rhaid fy mod i wedi fy lleoli yng ngwledydd Prydain?

Oes, mae’n rhaid i chi fod wedi’ch lleoli yng ngwledydd Prydain (h.y. y Deyrnas Unedig) i wneud cais am gyllid Celfyddydau Ymdrochol. Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod yn unigolyn, yn ficro-endid, neu’n gwmni bach wedi’i leoli yng ngwledydd Prydain, gyda chyfrif banc yng ngwledydd Prydain o dan eu henw. Mae hyn yn cynnwys artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

A all artistiaid o Ynysoedd y Sianel (e.e., Jersey) wneud cais?

Dydy artistiaid sy’n byw ar Ynysoedd y Sianel ddim yn gymwys i fod yn brif ymgeiswyr, ond mae modd eu henwi fel partneriaid/cydweithwyr mewn cais sy’n cael ei arwain gan artist sy’n byw yng ngwledydd Prydain.

Oes angen i fi fod yn hunangyflogedig neu fod yn berchen ar gwmni i wneud cais?

Nac oes, does dim angen i chi fod yn hunangyflogedig nac yn berchen ar gwmni i wneud cais. Mae croeso i unigolion, boed nhw’n gweithio’n annibynnol neu mewn sefydliad, wneud cais. Y gofyniad allweddol yw bod gennych chi gyfrif banc yng ngwledydd Prydain o dan eich enw chi.

Ydy cwmnïau cyfyngedig ac elusennau yn gymwys?

Gall cwmnïau cyfyngedig ac elusennau wneud cais cyhyd â’u bod nhw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer maint y sefydliad (hyd at 10 o bobl ar gyfer Archwilio ac Arbrofi, a hyd at 50 o bobl ar gyfer Estyn).

All myfyrwyr wneud cais?

Gall myfyrwyr wneud cais os gallan nhw ddangos bod ganddyn nhw ymarfer creadigol sydd ar wahân i’w hastudiaethau, a bod eu prosiect ar wahân i unrhyw gwricwlwm addysg ffurfiol. Does dim modd defnyddio’r cyllid ar gyfer prosiectau sy’n rhan o ofynion gradd neu gwrs, fel ffioedd dysgu neu waith academaidd.

Oes rhaid i fi ddefnyddio realiti estynedig (XR)?

Nac oes, does dim rhaid i chi ganolbwyntio ar XR yn eich prosiect. Rydyn ni’n annog arbrofi gydag ystod o dechnolegau – cyfrifiadura gofodol, fideo 360-gradd, sain gofodol, sain deuglust, adborth cyffyrddiadol a synhwyraidd neu amgylcheddau ymatebol – sy’n cynnwys y gynulleidfa. Ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau sy’n dadlau’r achos dros ddefnyddio technolegau eraill sy’n galluogi cynulleidfa i chwarae rhan weithredol yn y gwaith celf.

Oes modd i fy mhrosiect i gynnwys partner rhyngwladol neu gostau rhyngwladol?

Oes, ond mae’n rhaid i’r prif ymgeisydd a’r gweithgareddau cynradd fod yng ngwledydd Prydain, gyda’r arian yn mynd i gyfrif banc yn y Deyrnas Unedig. Yn bennaf, dylid defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau yng ngwledydd Prydain. Gellid ystyried costau rhyngwladol os ydyn nhw’n hanfodol i lwyddiant y prosiect.

Mae eisoes gen i gyllid prosiect, alla i wneud cais am gyllid Celfyddydau Ymdrochol?

Gallwch, gallwch wneud cais am gyllid Celfyddydau Ymdrochol er bod gennych chi gyllid prosiect arall, os nad yw arian Celfyddydau Ymdrochol yn cael ei ddefnyddio i dalu costau sydd eisoes yn cael eu hariannu gan ffynhonnell arall. Dylai eich cais ganolbwyntio ar weithgareddau newydd neu ychwanegol yn ymwneud â thechnolegau ymdrochol, nad ydyn nhw wedi’u cynnwys yn eich cyllid presennol.

Beth os nad ydw i’n adnabod technolegydd neu gydweithredwr o ddisgyblaeth arall?

Rydyn ni’n argymell defnyddio eich rhwydweithiau creadigol, mynd i ddigwyddiadau perthnasol, edrych ar enwau’r bobl sydd wedi gwneud gwaith rydych chi’n hoff ohono neu archwilio llwyfannau fel LinkedIn a Rhwydwaith Technoleg Ymdrochol Innovate UK i gysylltu â thechnolegwyr neu arbenigwyr eraill y gallai fod eu hangen arnoch chi. Byddwn ni’n parhau i werthuso’r angen yma wrth i’r rhaglen ddatblygu. Er nad ydyn ni’n cynnig cymorth i gysylltu â phartneriaid posib ar hyn o bryd, gallwch gynnwys yr amser rydych chi’n ei dreulio yn datblygu’r perthnasau yma yng nghyllideb eich prosiect fel ymchwil a datblygu.

Hygyrchedd

Pa gefnogaeth sydd ar gael i fy helpu i wneud cais?
  • Gweminarau Gwybodaeth: Gwyliwch weminarau i ddysgu am y broses a gofyn cwestiynau. Rhagor o wybodaeth yma.
  • Sesiynau Banc Amser: Archebwch sgyrsiau ar-lein gyda Chynhyrchwyr Celfyddydau Ymdrochol i gael arweiniad. Cysylltwch â ni i archebu sesiwn.
  • Cymorth Hygyrchedd: Gwnewch gais am gymorth ariannol ar gyfer anghenion hygyrchedd, fel dehonglwyr neu fformatau amgen i gyflwyno (testun, fideo, sain). Rhagor o wybodaeth yma.

Dogfennau Gwneud Cais: Mae’r holl ddogfennau, gan gynnwys canllawiau, ar gael mewn print bras, fersiynau hawdd eu darllen, sain, ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL). I’w gweld yma.

Alla i wneud fy nghais mewn fformat neu iaith arall?

Gallwch wneud cais drwy sain, fideo neu destun, ac yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn Iaith Arwyddion Prydain. Os oes angen i chi wneud cais mewn fformat gwahanol neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi (fel dehonglwyr iaith arwyddion neu gymorth sgrifellu er enghraifft), yna cysylltwch â ni. Efallai y gallwn ni ddarparu cymorth ariannol.

Pa gymorth hygyrchedd sydd ar gael i’r artistiaid neu’r bobl greadigol sy’n llwyddiannus?

Rydyn ni’n gofyn i’r ymgeiswyr llwyddiannus rannu unrhyw anghenion hygyrchedd sydd ganddyn nhw er mwyn cymryd rhan, a gallwn gynnig cyllid ychwanegol lle bo’n berthnasol. Mae costau ar gyfer gweithwyr neu offer cymorth fel arfer yn cael eu talu drwy Mynediad at Waith, felly rydyn ni’n eich annog chi i drefnu hyn i gael cymorth parhaus.

Gallwn deilwra mentora a hyfforddiant i bobl sydd ag anghenion hygyrchedd neu ddyletswyddau gofalu. Mae Unlimited yn cynnig cymorth gyda cheisiadau Mynediad at Waith, gan gynnwys gweithdai a chymorth ar sail carfan.

Sut galla i ofyn am gymorth hygyrchedd?

Os oes angen y wybodaeth yma arnoch chi mewn unrhyw fformat arall, os oes angen cymorth hygyrchedd arnoch i wneud cais, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am hygyrchedd, anfonwch e-bost aton ni neu ffoniwch neu anfonwch neges destun ar 07926699909.

Sylwch mai dim ond yn ystod oriau gwaith y bydd rhywun ar gael i ateb y ffôn – os byddwch chi’n ffonio y tu allan i’r oriau hynny, gadewch neges ac fe wnaiff rhywun eich ffonio’n ôl. 

Y dyddiad cau ar gyfer cymorth hygyrchedd yw 4 Tachwedd 2024, sef pedair wythnos cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sy’n rhoi ychydig o amser i ni i sicrhau eich bod chi’n gallu cael y cymorth sydd ei angen arnoch.

Gwneud cais

Sut galla i wneud cais?

Dylech gyflwyno ceisiadau drwy’r porth gwneud cais swyddogol.

 

Pa gostau alla i wneud cais amdanyn nhw?
  • Mae costau cymwys yn cynnwys:
  • datblygu prosiect
  • deunyddiau ac offer
  • ffioedd proffesiynol
  • ffioedd hyfforddi
  • teithio, llety a chynhaliaeth
  • marchnata/datblygu cynulleidfa (Archwilio ac Arbrofi yn unig).
  • llogi safleoedd
  • hygyrchedd a chynhwysiant

Nodyn: Does dim angen i ddarpariaethau hygyrchedd ar gyfer artistiaid sy’n cael eu hariannu (e.e. gweithwyr cymorth, dehonglwyr neu gostau teithio sy’n gysylltiedig â dileu rhwystrau i gymryd rhan) gael eu cynnwys yng nghyllideb eich prosiect. Bydd Celfyddydau Ymdrochol yn gweithio gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus i sicrhau bod yr adnoddau priodol yn eu lle yn seiliedig ar anghenion unigol.


I gael rhagor o fanylion am beth all gael ei ariannu a beth na all gael ei ariannu, darllenwch y meini prawf ar gyfer y ffrwd berthnasol yn y canllawiau.

Ar gyfer beth na ellir defnyddio'r arian?

Mae costau nad ydyn nhw’n gymwys yn cynnwys:

  • gwariant cyfalaf
  • gorbenion / costau rhedeg cyffredinol nad ydyn nhw’n gysylltiedig â’r prosiect
  • ad-dalu dyledion
  • gweithgareddau sydd ddim yn artistig
  • digwyddiadau codi arian
  • offer nad ydyn nhw’n uniongyrchol gysylltiedig â’r prosiect
  • ffioedd dysgu ac addysg ffurfiol
  • prosiectau mewn lleoliadau addysg ffurfiol (e.e. gweithgarwch gan fyfyrwyr fel rhan o’u cwricwlwm academaidd) 
  • costau sydd wedi’u talu eisoes gydag incwm neu gyllid arall
  • alcohol.
A ddylai fy nghyllideb gynnwys TAW?

Fel grant, mae’r cyllid yma’n cynnwys unrhyw dreth ar werth (TAW) a allai fod yn berthnasol. Felly dylech gyllidebu ar gyfer unrhyw dreth ar werth berthnasol sy’n gysylltiedig â chynnig eich prosiect. Os nad ydych chi’n siŵr am TAW ar gyfer eich prosiect, mae’n syniad da gofyn am gyngor wrth i chi baratoi eich cyllideb.

Alla i fod yn rhan o fwy nag un cais?

Cewch fod yn brif ymgeisydd ar un cais ym mhob rownd ariannu. Gallwch gael eich enwi fel cydweithiwr neu bartner ar geisiadau eraill.

Alla i wneud cais i fwy nag un ffrwd?

Gall artistiaid cymwys wneud cais i un ffrwd – Arbrofi, Archwilio neu Estyn – ym mhob rownd ariannu. Rydyn ni’n eich cynghori i ddewis y ffrwd sydd fwyaf addas i’ch ymarfer creadigol neu brosiect ar hyn o bryd. Byddwch chi’n gallu gwneud cais arall i rowndiau’r dyfodol boed nhw wedi’u hariannu drwy gais blaenorol ai peidio.

Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais?

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yn y rownd ariannu bresennol yw canol dydd, 2 Rhagfyr 2024. Cofiwch gyflwyno eich cais cyn y dyddiad yma, gan na fyddwn ni’n derbyn ceisiadau hwyr.

Pryd galla i ddechrau fy mhrosiect?

Gall prosiectau ddechrau unwaith y bydd yr ymgeiswyr wedi clywed bod eu cais yn llwyddiannus ac wedi llofnodi eu cytundeb ariannu. Ar gyfer y rownd gyntaf yma, byddwch chi’n cael gwybod os ydych chi’n llwyddiannus ym mis Chwefror 2025, a bydd amserlenni’r prosiect yn dechrau mor gynnar â mis Mawrth 2025, yn dibynnu ar y ffrwd ariannu.

A allaf ddefnyddio’r arian i weithio gyda Sefydliad Addysg Uwch (h.y. prifysgol)?

Rydym yn deall y gall cydweithrediadau academaidd a chyfleoedd ymchwil fod yn rhan o’ch arfer creadigol, ac mae’r partneriaethau hyn o fewn cwmpas cyllid y Celfyddydau Ymdrochol. Gellir defnyddio’r grant i dalu costau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â chael mynediad at gyfleusterau prifysgol, e.e. benthyg offer, llogi labordai neu ofodau prawf, cefnogaeth technegydd ac ati. Fodd bynnag, ni ellir defnyddio’r grant ar gyfer gweithgaredd ymchwil academaidd, gan gynnwys amser academyddion. Os yw ymchwilydd academaidd yn cymryd rhan yn eich prosiect, byddem yn disgwyl i’w gostau, gan gynnwys unrhyw Gost Lawn Economaidd (FEC), gael eu darparu drwy foddion eraill.

Dewis/Asesu

Sut mae’r ceisiadau’n cael eu hasesu?

Rydyn ni’n dilyn proses sawl cam i wneud yn siŵr bod pob cais yn cael ei adolygu’n deg:

  1. Gwiriad Cymhwysedd: bydd eich cais yn cael ei adolygu i sicrhau ei fod wedi’i gwblhau’n gywir a’i fod yn bodloni’r meini prawf i fod yn gymwys (e.e. byw yng ngwledydd Prydain ac yn canolbwyntio ar y celfyddydau ymdrochol).
  2. Gwerthuso Meini Prawf: Nesaf, bydd panel o arbenigwyr ym maes y celfyddydau ymdrochol o gefndiroedd amrywiol yn adolygu eich cais yn ofalus yn erbyn y meini prawf ariannu.
  3. Cyfweliadau (ar gyfer ffrwd Estyn yn unig): Os ydych chi ar restr fer ffrwd Estyn, byddwn ni’n eich gwahodd chi i gyfweliad ym mis Chwefror 2025 i drafod eich prosiect yn fanylach.
  4. Cydbwyso Portffolios: Bydd proses derfynol o guradu a chydbwyso’n cael ei chynnal gan bartneriaid cenedlaethol Celfyddydau Ymdrochol, gan sicrhau bod ystod o syniadau, ffurfiau ar gelfyddyd, lleoliad daearyddol a phrofiad byw.
Pryd bydda i’n clywed os yw fy mhrosiect wedi bod yn llwyddiannus?

Byddwch chi’n gael gwybod am ganlyniad eich cais ym mis Chwefror 2025. Bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu, boed nhw’n llwyddiannus ai peidio.

Os na fydd fy nghais i’n llwyddiannus, a fydda i’n cael adborth?

Gan ein bod yn disgwyl nifer fawr o geisiadau, fyddwn ni ddim yn gallu rhoi adborth unigol, ond rydyn ni’n ymroddedig i rannu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu o’r rhaglen. Byddwn yn ysgrifennu adroddiad byr yn myfyrio ar y rownd gyntaf o geisiadau a pham y dewiswyd yr ymgeiswyr oedd ar y rhestr fer.

Os ydw i’n aflwyddiannus mewn un rownd—alla i wneud cais eto?

Gallwch, gallwch wneud cais arall yn y rowndiau dilynol gyda’r un prosiect neu brosiect diwygiedig ar gyfer unrhyw un o’r ffrydiau ariannu – Archwilio, Arbrofi neu Estyn – pa bynnag ffrwd sydd fwyaf addas i’ch arfer ar yr adeg y byddwch chi’n gwneud y cais.

Os bydda i’n llwyddiannus yn y rownd gyntaf, alla i wneud cais i’r rowndiau dilynol?

Gallwch, gallwch wneud cais i un o’r ffrydiau ariannu – Archwilio, Arbrofi neu Estyn – yn y dair rownd. Ni fydd llwyddiant mewn rownd flaenorol yn cael effaith gadarnhaol na negyddol ar eich cymhwysedd yn rowndiau’r dyfodol.