Ymchwil

Offer a Thechnolegau Ymdrochol

Offer a Thechnolegau Ymdrochol

Allwch chi ddim gwneud celfyddyd ymdrochol heb offer a thechnolegau ymdrochol! Mae'r elfen ymchwil hon yn edrych ar y pethau sy'n ei gwneud hi'n bosibl ymgysylltu â synhwyrau lluosog, pontio'r bwlch rhwng gofod ffisegol a digidol, cysylltu pobl â'i gilydd a'r amgylchedd a newid y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn creu!

Y tîm sy'n ymchwilio i hyn yw Kirsten Cater (Athro Rhyngweithio Dynol â Chyfrifiaduron, Prifysgol Bryste), a Tom Abba (Athro Cyswllt Celf a Dylunio, UWE Bryste).

Offer a Thechnolegau Ymdrochol

Gan feddwl am yr offer a’r technolegau ymdrochol sy’n gwneud celf ymdrochol yn bosibl, mae’r tîm yn archwilio’r hyn y mae angen i artistiaid ei wybod i weithio’n hyderus ac yn greadigol gyda ffurfiau ymdrochol:

  • canfyddiad pobl o’r rhwystrau technegol ac o ran sgiliau;
  • yr adnoddau sy’n bodoli i gefnogi llythrennedd creadigol a thechnegol ar gyfer XR;
  • y ffyrdd y gallai artistiaid weithio’n gydgyfeiriol ag XR ac offer eraill fel Deallusrwydd Artiffisial i gynhyrchu profiadau ymdrochol;

a sut mae offer a thechnoleg synhwyro a deongliadol yn arwain at ddealltwriaeth well o brofiad y defnyddiwr gan greu Profiadau XR personol.

Meet the team

Kirsten Cater

Kirsten Cater

Cyd-Ymchwilydd (hi)

Celfyddydau Ymdrochol

Mae Kirsten yn Athro mewn Rhyngweithio rhwng Cyfrifiaduron a Phobl ym Mhrifysgol Bryste. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gyd-ddylunio atebion technegol-gymdeithasol ar gyfer gwella profiadau pobl a’u rhyngweithio â’u hamgylchedd a’i gilydd, yn enwedig drwy ddefnyddio technolegau ymdrochol, ac mae wedi sicrhau mwy na £55m o gyllid ar gyfer ymchwil rhyngddisgyblaethol.

Tom Abba

Tom Abba

Cyd-Ymchwilydd (fe)

Celfyddydau Ymdrochol

Mae Tom yn Athro Cyswllt mewn Celf a Dylunio yn UWE Bryste, ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Diwylliannau Digidol. Bu’n llywio prosiect Ambient Literature rhwng 2016 a 2019, a chydweithiodd â ffigurau cyhoeddi allweddol er mwyn herio effaith technolegau digidol ar ysgrifennu. Cafodd ei enwi’n un o’r 40 arloeswr mwyaf aflonyddgar gan Bookseller.

Orange outline illustration of character with two long legs and a cloudlike head with orange dots for eyes.

Rydyn ni hefyd yn awyddus i ddysgu gan yr ymchwil anhygoel sy’n cael ei gwneud gan eraill ledled y byd ac ymhelaethu arni. Os oes gennych chi rywbeth yr hoffech ei rannu gyda ni, cysylltwch â ni.

Ymchwil berthnasol arall

Gweler yr holl ymchwil