Prosiectau
Tongue & Groove
Tongue & Groove
Digwyddiad sain ymdrochol gyda chynulleidfa yw Tongue & Groove, cegad o goreograffi yn creu trac sain.
Digwyddiad sain ymdrochol yw Tongue & Groove, lle mae tafod a thaflod yn creu trac sain. Mae gan y gynulleidfa synhwyrydd yr un yn eu ceg, a sgript yn eu llaw i’w lefaru. Dyna’r 'tongue'. Mae’r 'groove' yn cael ei lunio gan DJ sy’n prosesu syniau’r gynulleidfa yn y man a’r lle i greu bangar tair munud o hyd i ddanso iddo.
Archwiliwch
Am y prosiect
Mae’n amddiffyniad o dreiglo – nid rheol lafurus mohono ond cegad o goreograffi naturiol. Mae’r sgript yn gor- a cham- a chywir-dreiglo. At hyn, mae’n amddiffyn iaith a ymosodir arni bob dydd.
Darllenais gofnod am ddyn, ers talwm, yn cosbi morwyn tŷ a siaradai Gymraeg gan wthio sebon i’w cheg. A fyddai saco rhywbeth yn ein cegau ni yn unioni’r cam?