IMMERSIVE  ARTS

Dewch i archwilio potensial creadigol celfyddydau ymdrochol drwy raglen arloesol sy’n cael ei chynnal ar draws gwledydd Prydain.

Y Peth Mawr 2026

Dydd Mercher 9 – Dydd Gwener 11 Medi, Llandudno

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd y Peth Mawr yn dychwelyd ym mis Medi, ac yn dod i Landudno.

Bydd yn dod ag artistiaid, pobl greadigol, ymchwilwyr a thechnolegwyr o bob cwr o wledydd Prydain a’r tu hwnt ynghyd i archwilio a siapio dyfodol celfyddydau ymdrochol.

Mae tocynnau cynnar ar werth nawr gyda’r rhaglen lawn yn cael ei lansio ddechrau mis Gorffennaf.

Allwn ni ddim aros i’ch croesawu chi i Landudno!

Dysgu rhagor ac archebu tocynnau

Rownd Olaf Cyllid bellach ar agor

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod rownd derfynol cyllido’r Celfyddydau Ymdrochol bellach ar agor.

Dyma’ch cyfle olaf i wneud cais am gymorth i ddatblygu gwaith gan ddefnyddio technolegau ymdrochol.

Mae’r cyfnod gwneud cais ar agor o heddiw tan ddydd Llun 29 Medi 2025.

Ein Haenau Ariannu

Rownd Olaf Cyllid bellach ar agor

Gweld yr holl newyddion