Newyddion
Newyddion diweddaraf
14 Medi
Celfyddydau Ymdrochol yn cyhoeddi cyllid ail gam o £8.5m

Mae Celfyddydau Ymdrochol wedi sicrhau dros £8.5 miliwn i barhau i gefnogi artistiaid gwledydd Prydain sy’n gweithio gyda thechnolegau ymdrochol tan 2030, yn dilyn lefelau uchel o alw am grantiau a chyfleoedd datblygu yn ystod cam cyntaf y rhaglen.
Ers ei lansio yn 2024 gyda buddsoddiad o £6 miliwn, mae rhaglen Celfyddydau Ymdrochol, sy’n gweithredu ledled gwledydd Prydain, wedi dyfarnu dros £3.24 miliwn mewn grantiau i 225 o dimau creadigol ac wedi creu cyfleoedd cynhwysol a hygyrch i dros 2,300 o artistiaid ledled gwledydd Prydain, i archwilio, arbrofi neu estyn sut maen nhw’n gwneud gwaith sy’n defnyddio technoleg er mwyn mynd ati i gynnwys cynulleidfa.
Bydd y cyllid newydd yn ymestyn y rhaglen am dair blynedd arall, gyda thros £4.7 miliwn yn cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i artistiaid ym mhob cam o’u datblygiad creadigol drwy grantiau, hyfforddiant a chyfleoedd datblygiad proffesiynol.
Bydd hefyd yn gwella cefnogaeth i artistiaid sy’n barod i fasnacheiddio eu gwaith a thyfu busnesau creadigol cynaliadwy, gan gynnig cyngor busnes a buddsoddi wedi’i deilwra, ochr yn ochr â chyfleoedd i gysylltu â chydweithwyr, arianwyr a buddsoddwyr.
Darperir cyllid ar gyfer rhaglen Celfyddydau Ymdrochol drwy gywaith rhwng Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (UKRI), Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, yr Alban Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon. Darperir cyllid o Gyngor Celfyddydau Cymru, yr Alban Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon gan y Loteri Genedlaethol.
Cyhoeddwyd y newyddion gan yr Athro Verity McIntosh o Brifysgol Gorllewin Lloegr Bryste, Prif Ymchwilydd a Chyfarwyddwr Celfyddydau Ymdrochol, yn ystod digwyddiad blynyddol Celfyddydau Ymdrochol, y Peth Mawr, yn Llandudno (9 – 11 Medi).
“Rydyn ni wedi gweld yn barod effaith mor ddofn mae rhaglen Celfyddydau Ymdrochol yn ei chael, gan ddenu ceisiadau gan artistiaid o amrywiaeth anhygoel o ddisgyblaethau creadigol, cefndiroedd a phrofiadau byw,” meddai’r Athro McIntosh. “Mae’r sector yn tyfu’n gyflym, gyda chymuned sy’n llawn cysylltiadau ac sy’n hynod gydweithredol yn ymffurfio ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.”
Mae’r ail gam yma’n adeiladu ar lwyddiannau a gwersi’r tair blynedd gyntaf, gan gynnig parhad a sefydlogrwydd mawr ei angen i sector celfyddydau ymdrochol gwledydd Prydain. Mae pob un o’r pum ariannwr gwreiddiol a deg partner sefydlu’r consortiwm yn parhau i chwarae rhan, gan adnewyddu eu hymrwymiad i gymuned greadigol gwledydd Prydain, gyda rhwydwaith cynyddol o gydweithwyr byd-eang.
Meddai Ruth McCullough o Watershed, Cynhyrchydd Gweithredol Celfyddydau Ymdrochol:
“Rydyn ni’n dechrau gweld effaith cefnogi gweithiau creadigol yn eu camau cynharaf, wrth iddyn nhw gysylltu â chynulleidfaoedd a denu partneriaid o bob cwr o’r byd i wledydd Prydain i ddysgu o’r model yma o arloesedd sy’n cael ei arwain gan artistiaid.
“Bydd y cyllid yn ein galluogi i adeiladu ar y momentwm, gan gynnig cyfleoedd datblygu gwell i artistiaid sydd wedi bod yn gweithio yn y gofod ymdrochol ers amser maith neu ar raddfa fawr, gan barhau i groesawu’r rhai sy’n dechrau archwilio ym maes celfyddydau ymdrochol. Bydd hefyd yn ein galluogi i weithio ar draws y sector a’r pedair gwlad, i gefnogi ac eiriol dros y ffurf ar gelfyddyd yma a’r ecosystem unigryw o’i chwmpas.”
Wrth siarad ar ran arianwyr y rhaglen, sef Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (UKRI), Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, yr Alban Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon (ACNI), meddai Cadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a Hyrwyddwr Sector Diwydiannau Creadigol UKRI, yr Athro Christopher Smith:
“Mae gan dechnolegau ymdrochol botensial enfawr ar gyfer economi greadigol a diwylliannol gwledydd Prydain, a phwy well i archwilio’r potensial yma na’r bobl greadigol a’r artistiaid a fydd yn ei ddefnyddio yn y pen draw?
“Bydd ail gam Celfyddydau Ymdrochol yn adeiladu ar yr hyn mae’r rhaglen wedi’i gyflawni hyd yn hyn i arddangos sut gallai’r technolegau yma drawsnewid y ffordd mae cynulleidfaoedd yn profi perfformiadau a’r celfyddydau.”
Ochr yn ochr â chyllid uniongyrchol i artistiaid, mae Celfyddydau Ymdrochol yn anelu i chwalu rhwystrau, gan wneud maes sy’n gallu bod yn un cyfyngedig yn llawer mwy hygyrch a chynhwysol i bawb.
Mae tîm ymchwil y rhaglen yn ymwneud â rhai o faterion mwyaf y sector, gan ddarparu gwybodaeth fawr ei hangen ar seilwaith arddangos a dosbarthu, profi cynulleidfaoedd a gwerthuso, arferion dylunio hygyrch a chynhwysol, a’r ecosystemau o ran cyfleusterau a chefnogaeth ar gyfer cynhyrchu ymdrochol yng ngwledydd Prydain.
Yn y Peth Mawr, fe ddatgelwyd ymchwil newydd a map rhyngweithiol o gyfleusterau cynhyrchu ymdrochol gwledydd Prydain, ochr yn ochr ag adroddiad ‘Gwneud y cysylltiadau: cysylltu cyfleusterau cynhyrchu ymdrochol gwledydd Prydain â’r sector celfyddydol a diwylliannol’.
Ychwanegodd yr Athro McIntosh:
“Nod yr ymchwil yw gwneud rhwydwaith cynyddol gwledydd Prydain o gyfleusterau cynhyrchu ymdrochol yn fwy gweladwy i’r rhai sy’n gweithio yn y sector celfyddydau a diwylliant, a dechrau sgwrs am yr hyn sydd ei angen arnon ni er mwyn ffynnu. Gyda’r cyllid ychwanegol yma, byddwn yn gallu parhau i ddatblygu ymchwil, rhannu gwybodaeth a chreu mwy o gyfleoedd i artistiaid ymwneud â thechnolegau ymdrochol.”
Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys cyfleoedd ariannu sydd i ddod, yn cael eu rhannu yn y Flwyddyn Newydd. I gael rhagor o wybodaeth, cofrestrwch i gael cylchlythyr Celfyddydau Ymdrochol neu ewch i immersivearts.uk/cy