Amdanon ni

Rhaglen uchelgeisiol sy’n cael ei chynnal ar draws gwledydd Prydain dros gyfnod o dair blynedd yw Celfyddydau Ymdrochol, sy’n defnyddio dull sy’n cael ei arwain gan artistiaid er mwyn gweithio gyda thechnolegau ymdrochol.

Y prosiect

Mae’r rhaglen gyffrous yma’n annog artistiaid o bob cefndir a phrofiad i archwilio, arbrofi neu estyn sut maen nhw’n gweithio, neu sut hoffen nhw weithio, gyda thechnolegau ymdrochol.

OND BETH MAE HYN YN EI OLYGU?

Mae celfyddydau ymdrochol yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ond rydyn ni’n ei ddiffinio fel creu celf gyda thechnoleg er mwyn cynnwys y gynulleidfa.

Hynny yw, realiti rhithwir, ymestynnol ac estynedig:

  • anelu at sawl synnwyr
  • pontio’r bylchau rhwng gofodau ffisegol a digidol
  • cysylltu pobl â’i gilydd a’r amgylchedd
  • newid y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn creu.
  • Does dim rhaid i chi fod yn feistr ar dechnoleg (er y gallwch fod) er mwyn gwneud cais. Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw meddwl chwilfrydig ac ymarfer creadigol. Yna, drwy gymysgedd o gyllid, hyfforddiant, ymchwil a digwyddiadau, bydd rhaglen Celfyddydau Ymdrochol yn eich cefnogi chi i ddarganfod beth a sut rydych chi eisiau ei ddatblygu a’i greu.

YN Y BÔN

Y nod yw chwalu rhwystrau, gan wneud maes sy’n gallu bod yn eitha caeedig yn llawer mwy hygyrch. Yn hynny o beth, rydyn ni eisiau rhoi sylw i gymaint ag y gallwn ni o wahanol leisiau, er mwyn helpu i darfu ar ffyrdd sefydledig o fodoli, gwneud, meddwl a chreu.

Bwriad Celfyddydau Ymdrochol yw bod yn brosiect cydweithredol iawn – rydyn ni am ddysgu gyda chi. Bydd ein hymchwil yn rhannu gwybodaeth am beth sy’n gweithio orau i’r sector celfyddydau ymdrochol. Ac yn helpu i greu cyfleoedd i artistiaid a chynulleidfaoedd o bob cefndir i ddefnyddio technoleg ymdrochol mewn ffyrdd newydd a chreadigol.

Cwrdd â'n tîm cynhyrchu

Allie John

Allie John

Cynhyrchydd dros Gymru (hi)

Wedi’i leoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae Allie yn gyd-sylfaenydd Yello Brick, sy’n creu digwyddiadau a phrofiadau digidol arobryn ers 14 mlynedd. Gyda chefndir mewn theatr, technoleg ddigidol, marchnata a chynhyrchu, mae hi wedi gweithio ar Bordergame (National Theatre Wales), Rescape Innovation (VR ar gyfer y GIG), a The Culture Group, gan reoli prosiectau Google gyda digwyddiadau corfforol ac allbynnau digidol.

Amy Densley

Amy Densley

Cydlynydd, Cynhyrchydd ac Ymchwilydd yn y DCRC (hi)

Based at Watershed, Bristol

Mae Amy yn cydlynu’r Ganolfan Ymchwil Diwylliannau Digidol (DCRC) a rhaglenni ymchwil UWE, gan gynnwys Celfyddydau Ymdrochol a MyWorld. Mae hi hefyd yn ymchwilio i ddulliau arddangos a dosbarthu profiadau celfyddydol ymdrochol. Mae Amy wedi gweithio ar brosiectau fel Alternative Technologies, Grounding Technologies, y Cyngor Ffilm Ddogfennol, Spoken Memories, ac wedi cynhyrchu’r 100fed perfformiad o I Am Echoborg.

Bridget Hart

Bridget Hart

Cydlynydd (nhw)

Wedi’i leoli yn Watershed, Bryste

Mae Bridget wedi cydlynu rhaglenni ar gyfer y PM Studio, gan gynnwys Grounding Technologies, Celfyddydau Ymdrochol ac Undershed. Maen nhw hefyd yn awdur, cynhyrchydd creadigol ac yn olygydd. Maen nhw wedi cyhoeddi casgliadau barddoniaeth; Better Watch Your Mouth a Chewing Gum. Mae Bridget wedi cynhyrchu digwyddiadau ar gyfer Shambala, Gŵyl Ymylol Caeredin a Trans Pride.

Chloe Spiby Loh

Chloe Spiby Loh

Cynhyrchydd dros yr Alban (hi)

Wedi’i lleoli yn Cryptic, Glasgow

Mae Chloe wedi cynhyrchu rhaglenni gyda Wellcome Collection, Create London, V&A Dundee, RIBA a’r Sefydliad Pensaernïaeth, gan gydweithio ag artistiaid, dylunwyr a phartneriaid mawr ar ddigwyddiadau byw, gwyliau a chomisiynau. Mae’n arbenigo mewn prosiectau rhyngddisgyblaethol i gynulleidfaoedd cyhoeddus ac mae ganddi brofiad o ddefnyddio dulliau gwrth-hiliaeth a gwrth-ablaeth.

Colm O’Donnell

Colm O’Donnell

Cynhyrchydd dros Ogledd Iwerddon (fe)

Wedi’i leoli yn y Nerve Centre, Derry/Londonderry

Mae gan Colm dros 15 mlynedd o brofiad yn cynhyrchu rhaglenni celfyddydol yng Ngogledd Iwerddon. Mae’n Gyfarwyddwr Creadigol ac yn gyd-sylfaenydd Gŵyl Stendhal. Gyda chefndir mewn pensaernïaeth, mae’n cyfuno dylunio digidol, modelu 3D, animeiddio a dylunio gwe ag adrodd straeon a marchnata. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar fwrdd ArtAbyss, gan gefnogi pobl ifanc drwy’r celfyddydau.

Lisa Heledd Jones

Lisa Heledd Jones

Cynhyrchydd dros Gymru (hi)

Wedi’i lleoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae Lisa yn gynhyrchydd, artist ac yn guradur sy’n archwilio adrodd straeon digidol, technolegau ymdrochol ac ymgysylltu cymunedol. Mae wedi gweithio i sefydliadau megis y BBC, Prifysgol De Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ogystal â chydweithio â nifer o unigolion sydd wedi dylanwadu ar ei gwaith a’i syniadau.

Kat Garoës-Hill

Kat Garoës-Hill

Rheolwr Cyfathrebu (hi)

Wedi’i lleoli yn Watershed, Bryste

Mae gan Kat dros 6 mlynedd o brofiad mewn cyfathrebu creadigol, gan gysylltu pobl drwy gyfryngau digidol ac adrodd straeon. Daeth i Fryste o Bradford ac arhosodd oherwydd ffocws y ddinas ar y celfyddydau. Mae Kat yn DJ (GAROËSS), yn rhan o Booty Bass. Fe’i dewiswyd ar gyfer Prosiect Datblygu Artistiaid Newydd Saffron Music‘ (2023-2024).

Michelle Rumney

Michelle Rumney

Cynhyrchydd dros Loegr (hi)

Wedi’i leoli yn Watershed, Bryste

Mae Michelle yn artist gain sy’n ymarfer ac yn hyfforddwraig gymwysedig gyda chefndir technegol mewn ôl-gynhyrchu ac SFX. Gyda thros dair blynedd yn StoryFutures a StoryTrails, mae hi’n dod ag arbenigedd mewn prototeipio ymdrochol, profi ac ymchwil sy’n seiliedig ar gynulleidfaoedd i gefnogi artistiaid yn y rhaglen.

Ruth McCullough

Ruth McCullough

Cynhyrchydd Gweithredol (hi)

Wedi’i leoli yn Watershed, Bryste

Mae Ruth yn Gynhyrchydd a Chyfarwyddwr Creadigol sy’n arbenigo mewn celf, technoleg a chynaliadwyedd.

Rhwng 2009 a 2023, bu’n Gynhyrchydd ac yna’n Gyfarwyddwr i Abandon Normal Devices, gan arwain yr unig raglen grwydrol ddwyflynyddol ddigidol ym Mhrydain a chydweithio ag artistiaid fel Marshmallow Laser Feast, Matthew Plummer Fernandez, Daito Manabe, Ubermorgen a Studio Roosegaarde.

Orange outline illustration of character with two long legs and a cloudlike head with orange dots for eyes.

Mae ein tîm cynhyrchu hefyd yn weithwyr ymchwil gweithredol, yn gweithio’n agos gyda chymuned yr artistiaid ym mhob un o’r pedair gwlad i ddeall, cefnogi ac eirioli dros newid yn y sector. Maent yn cydweithio â’r tîm ymchwil, dan arweiniad ein Cyfarwyddwr ac Ymchwilydd Penodol, Verity McIntosh.

Cwrdd â'n Tîm Rheoli

Ruth McCullough

Ruth McCullough

Cynhyrchydd Gweithredol (hi)

Wedi’i leoli yn Watershed, Bryste

Mae Ruth yn Gynhyrchydd a Chyfarwyddwr Creadigol sy’n arbenigo mewn celf, technoleg a chynaliadwyedd.

Rhwng 2009 a 2023, bu’n Gynhyrchydd ac yna’n Gyfarwyddwr i Abandon Normal Devices, gan arwain yr unig raglen grwydrol ddwyflynyddol ddigidol ym Mhrydain a chydweithio ag artistiaid fel Marshmallow Laser Feast, Matthew Plummer Fernandez, Daito Manabe, Ubermorgen a Studio Roosegaarde.

Verity McIntosh

Verity McIntosh

Cyfarwyddwr a Phrif Ymchwilydd (hi)

Celfyddydau Ymdrochol

Mae Verity’n gweithio gydag artistiaid, technolegwyr, ymchwilwyr, a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn effaith technoleg ymdrochol ar gymdeithas. Fel Athro Cyswllt yn UWE Bryste, Verity sefydlodd un o raglenni meistr realiti ymestynnol cyntaf Ewrop a chyd-sefydlu’r Bristol VR Lab. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar foeseg realiti ymestynnol, a hawliau dynol mewn amgylcheddau rhithwir.

Tom Millen

Tom Millen

Cyd-gyfarwyddwr (fe)

Crossover Labs

Cynhyrchydd digidol llwyddiannus yw Tom, ac mae ei waith wedi’i ddangos yn y Barbican, BBC, Ars Electronica, SXSW a MoMA. Mae Tom wedi curadu rhaglenni celf ddigidol ar gyfer gwyliau rhyngwladol gan gynnwys CPH:DOX, Sheffield Doc/Fest, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol India, Gŵyl Gwyddoniaeth a Chyfryngau Silbersalz, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Bergen a Gŵyl Cyrion Adelaide.

Tom Abba

Tom Abba

Cyd-Ymchwilydd (fe)

Celfyddydau Ymdrochol

Mae Tom yn Athro Cyswllt mewn Celf a Dylunio yn UWE Bryste, ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Diwylliannau Digidol. Bu’n llywio prosiect Ambient Literature rhwng 2016 a 2019, a chydweithiodd â ffigurau cyhoeddi allweddol er mwyn herio effaith technolegau digidol ar ysgrifennu. Cafodd ei enwi’n un o’r 40 arloeswr mwyaf aflonyddgar gan Bookseller.

Jo Lansdowne

Jo Lansdowne

Uwch Gynhyrchydd (hi)

Pervasive Media Studio yn Watershed

Mae Jo’n cefnogi partneriaethau ymchwil, datblygiad artistiaid a chymuned eang o drigolion. Mae hefyd yn Athro Gwadd yng Nghanolfan Ymchwil Diwylliannau Digidol UWE Bryste. Mae ganddi ddiddordeb mewn methodolegau sy’n dod â phobl ynghyd mewn ffurfiau cydweithredol ar gynhyrchu yn hytrach na rhai cystadleuol.

Kirsten Cater

Kirsten Cater

Cyd-Ymchwilydd (hi)

Celfyddydau Ymdrochol

Mae Kirsten yn Athro mewn Rhyngweithio rhwng Cyfrifiaduron a Phobl ym Mhrifysgol Bryste. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gyd-ddylunio atebion technegol-gymdeithasol ar gyfer gwella profiadau pobl a’u rhyngweithio â’u hamgylchedd a’i gilydd, yn enwedig drwy ddefnyddio technolegau ymdrochol, ac mae wedi sicrhau mwy na £55m o gyllid ar gyfer ymchwil rhyngddisgyblaethol.

Paul Clarke
Cathie Boyd

Cathie Boyd

Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig(hi)

Cryptic

Cyfarwyddwr a churadur yw Cathie Boyd sydd â 30+ mlynedd o brofiad ym myd opera, cerddoriaeth, y celfyddydau digidol, a ffilm. Hi sefydlodd Cryptic yn 1994, gan greu perfformiadau arloesol, cyfrwng cymysg. Cathie hefyd lansiodd Ŵyl Sonica Glasgow yn 2012, ac mae ei gwaith wedi’i gyflwyno mewn dros 30 o wledydd ledled y byd.

Claire Moran

Claire Moran

Cynhyrchydd (hi)

Cryptic

Astudiodd Claire y Celfyddydau Perfformio, gan arbenigo mewn dawns, ym Mhrifysgol De Montfort, Caerlŷr, ac ar ôl graddio symudodd i faes rheoli’r celfyddydau. Mae wedi bod yn allweddol wrth gyflwyno cyd-gynyrchiadau rhyngwladol a chynhyrchu gwaith sy’n teithio ar draws Ewrop, De America, Awstralia ac Asia.

David Lewis

David Lewis

Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Datblygu (fe)

Nerve Centre

Mae gan David 20 mlynedd o brofiad mewn rhaglennu diwylliannol, rheoli prosiectau, cyfathrebu digidol, a chynhyrchu digwyddiadau. Mae’n arwain strategaeth arloesi Nerve Centre, gan gynnwys datblygu rhaglenni ymgysylltu cyhoeddus mawr. Fe yw arweinydd Celfyddydau Ymdrochol yng Ngogledd Iwerddon ac yn ddiweddar roedd yn Uwch Gynhyrchydd ar gyfer y prosiect llwyddiannus Our Place in Space.

Niall Kerr

Niall Kerr

Pennaeth Treftadaeth a Chysylltiadau Cymunedol (fe)

Nerve Centre

Mae Niall yn gweithio i sefydliad celfyddydau creadigol mwyaf blaenllaw Gogledd Iwerddon, gan weithio ar draws dysgu creadigol, diwylliant a ffilm. Mae Niall yn gyfrifol am amrywiaeth o brosiectau ymgysylltu arloesol, creadigrwydd digidol a chelfyddydau, gan gydweithio â phartneriaid diwylliannol a threftadaeth ledled Gogledd Iwerddon a’r tu hwnt.

David Massey

David Massey

Uwch Gynhyrchydd (fe)

Canolfan Mileniwm Cymru

Uwch Gynhyrchydd profiadol yw David, sy’n arwain tîm Profiadau Ymdrochol y Ganolfan, gan raglennu Bocs a chefnogi cynyrchiadau realiti ymestynnol. Mae’n cyd-greu prosiectau realiti ymestynnol llwyddiannus gyda phartneriaid fel y BBC, BFI, ac Opera Cenedlaethol Cymru ac yn helpu i yrru rhaglen Celfyddydau Ymdrochol, gan chwalu rhwystrau i artistiaid ymgysylltu â gwaith adrodd straeon ymdrochol.

Mark Atkin

Mark Atkin

Cyfarwyddwr (fe)

Crossover Labs

Mae Mark yn arloeswr ym maes cynhyrchu ac arddangos realiti ymestynnol. Mae’n curadu’r arddangosfa Inter:Active yn CPH:DOX ac Electric Dreams, gŵyl adrodd straeon ymdrochol. Fel Pennaeth Astudiaethau CPH:LAB, mae’n datblygu ffurfiau adrodd straeon ffeithiol newydd. Drwy Crossover Labs, mae’n hyfforddi, yn ariannu, ac yn cynhyrchu gwaith ymdrochol llwyddiannus sy’n cael ei arddangos ledled y byd.

Jo Verrent

Jo Verrent

Cyfarwyddwr (hi)

Unlimited

Mae Jo yn credu mai peth blasus, nid peth croes, yw bod yn ‘wahanol’. Mae’n gweithio yn y celfyddydau a diwylliant gan wreiddio’r gred bod amrywiaeth yn ychwanegu gwead, a throi polisi yn weithredu go iawn. Cenhadaeth Unlimited yw comisiynu gwaith rhyfeddol gan artistiaid anabl nes bod y sector diwylliannol cyfan yn gwneud hynny.

Nina Salomons

Nina Salomons

Cyd-sylfaenydd (hi)

Menter Amrywiaeth XR

Gwneud ffilmiau yw cefndir Nina, sydd wedi ei harwain i fod yn newyddiadurwr sy’n canolbwyntio ar dechnolegau ymdrochol ar gyfer VRFocus yn creu cynnwys fideo ar-lein. Cyd-sefydlodd Fenter Amrywiaeth XR ac mae’n cynnal gweithdai ers 2018, gan hyfforddi dros 255 o gyfranogwyr sydd heb ddim profiad mewn technolegau ymdrochol i greu profiad mewn un diwrnod.

Asha Easton

Asha Easton

Cyd-sylfaenydd (hi)

Menter Amrywiaeth XR

Asha yw Arweinydd Ymdrochol Innovate UK KTN. Mae’n arbennig o angerddol am helpu i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant. Mae’n un o aelodau gwreiddiol cangen Llundain o gymuned Menywod mewn Technoleg Ymdrochol (WiiT), mae’n gyd-sylfaenydd Menter Amrywiaeth XR, ac yn gynghorydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gronfa Metaverse gyntaf Ewrop, FOV Ventures.

Orange outline illustration of character with two long legs and a cloudlike head with orange dots for eyes.

Mae ein tîm rheoli yn dod o’n consortiwm o bartneriaid. Maent yn cyfarfod yn rheolaidd i wneud penderfyniadau strategol am y prosiect cyfan, cyfrannu at weithrediadau a chefnogi’r timau cynhyrchu ac ymchwil yn eu gwaith gyda’r artistiaid.

Dewch i gwrdd â'n Tîm Ymchwil

Verity McIntosh

Verity McIntosh

Cyfarwyddwr a Phrif Ymchwilydd (hi)

Celfyddydau Ymdrochol

Mae Verity’n gweithio gydag artistiaid, technolegwyr, ymchwilwyr, a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn effaith technoleg ymdrochol ar gymdeithas. Fel Athro Cyswllt yn UWE Bryste, Verity sefydlodd un o raglenni meistr realiti ymestynnol cyntaf Ewrop a chyd-sefydlu’r Bristol VR Lab. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar foeseg realiti ymestynnol, a hawliau dynol mewn amgylcheddau rhithwir.

Tom Abba

Tom Abba

Cyd-Ymchwilydd (fe)

Celfyddydau Ymdrochol

Mae Tom yn Athro Cyswllt mewn Celf a Dylunio yn UWE Bryste, ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Diwylliannau Digidol. Bu’n llywio prosiect Ambient Literature rhwng 2016 a 2019, a chydweithiodd â ffigurau cyhoeddi allweddol er mwyn herio effaith technolegau digidol ar ysgrifennu. Cafodd ei enwi’n un o’r 40 arloeswr mwyaf aflonyddgar gan Bookseller.

Kirsten Cater

Kirsten Cater

Cyd-Ymchwilydd (hi)

Celfyddydau Ymdrochol

Mae Kirsten yn Athro mewn Rhyngweithio rhwng Cyfrifiaduron a Phobl ym Mhrifysgol Bryste. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gyd-ddylunio atebion technegol-gymdeithasol ar gyfer gwella profiadau pobl a’u rhyngweithio â’u hamgylchedd a’i gilydd, yn enwedig drwy ddefnyddio technolegau ymdrochol, ac mae wedi sicrhau mwy na £55m o gyllid ar gyfer ymchwil rhyngddisgyblaethol.

Paul Clarke
Asha Easton

Asha Easton

Cyd-sylfaenydd (hi)

Menter Amrywiaeth XR

Asha yw Arweinydd Ymdrochol Innovate UK KTN. Mae’n arbennig o angerddol am helpu i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant. Mae’n un o aelodau gwreiddiol cangen Llundain o gymuned Menywod mewn Technoleg Ymdrochol (WiiT), mae’n gyd-sylfaenydd Menter Amrywiaeth XR, ac yn gynghorydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gronfa Metaverse gyntaf Ewrop, FOV Ventures.

Anthony Cartwright

Anthony Cartwright

Cymrawd Celfyddydau Ymdrochol x DCRC (fe)

DCRC and Immersive Arts

Mae gwaith ffuglen Anthony yn canolbwyntio ar fywydau teuluoedd dosbarth gweithiol yn yr Ardal Ddu yng nghanolbarth Lloegr. Mae ei waith yn cynnwys y nofelau Heartland, How I Killed Margaret Thatcher ac Iron Towns. Bydd Necrosmologies, sef casgliad o waith ffuglen fer dychmygus, yn cael ei gyhoeddi gan The Braag yn hydref 2025.

Oluwatosin (Tosin) Olufon

Oluwatosin (Tosin) Olufon

PHD (hi)

UWE Bryste

Artist ac ymchwilydd ymdrochol yw Tosin sy’n gwirioni ar Realiti Rhithwir ac animeiddio 3D. Gydag ysbrydoliaeth gan chwedlau/traddodiadau plentyndod, mae’n defnyddio technoleg ymdrochol i drawsnewid gwaith adrodd straeon ac archwilio’i effaith. Mae’n waith hynod bersonol, wedi’i wreiddio yn y gred bod profiadau realiti ymestynnol yn ennyn emosiwn, yn tanio chwilfrydedd, ac yn creu profiadau agos-atoch.

Orange outline illustration of character with two long legs and a cloudlike head with orange dots for eyes.

Mae gan ein bwrdd cynghori gyfoeth o brofiad, mewnwelediad a chefnogaeth ym maes y celfyddydau ymdrochol, y gallwn dynnu arnynt ar draws eu rhwydweithiau yn y DU ac yn rhyngwladol. Maent yn darparu arweiniad arbenigol i’n helpu i lywio heriau.

Cyfarfod â'n Bwrdd Cynghori

Alex Rühl

Alex Rühl

Pennaeth Technolegau Datblygol (hi)

PwC

Crëwr realiti rhithwir llwyddiannus yw Alex, sy’n Bennaeth Technoleg Ddatblygol yn PwC. Mae wedi ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu sawl darn realiti rhithwir gan gynnwys Keyed Alike, arbrawf meddwl rhyngweithiol Playing God a’i darn diweddaraf Rock Paper Scissors sef y prosiect realiti rhithwir cyntaf i gael ei ariannu gan Rwydwaith BFI.

Caspar Sonnen

Caspar Sonnen

Pennaeth Cyfryngau Newydd a Churadur (fe)

IDFA DocLab

Sefydlodd Caspar Sonnen IDFA DocLab yng Ngŵyl Ffilmiau Dogfen Ryngwladol Amsterdam yn 2007. Mae’n curadu, yn comisiynu ac yn ymchwilio i gelf ddigidol a chelf ymdrochol, o realiti ymestynnol a deallusrwydd artiffisial i osodweithiau synhwyraidd a theatr ymdrochol. Cyn hynny, cyd-sefydlodd Ŵyl Ffilmiau Awyr Agored Amsterdam.

Catherine Allen

Catherine Allen

Prif Weithredwr a Phrif Ymgynghorydd (hi)

Limina Immersive

Mae Catherine yn arbenigwr mewn technoleg ymdrochol sydd wedi ehangu ei chynulleidfa ac wedi eiriol dros ddefnydd cyfrifol ohoni. Enillodd ei gwaith ddoethuriaeth er anrhydedd iddi o Brifysgol Warwick. Arweiniodd ymdrechion realiti rhithwir cynnar y BBC, a sefydlodd Limina Immersive, gan gyrraedd dros 15,000 o fynychwyr yn fyd-eang drwy ddigwyddiadau realiti rhithwir diwylliannol.

Farah Ahmed

Farah Ahmed

Arweinydd Cyfiawnder Hinsawdd (hi/nhw)

Julie's Bicycle

Farah Ahmed (hi/nhw) yw Arweinydd Cyfiawnder Hinsawdd Julie’s Bicycle. Mae’n rheoli’r rhaglen Cyfiawnder Hinsawdd Creadigol, yn datblygu adnoddau, yn curadu digwyddiadau ac eiriolaeth, gan gysylltu cyfiawnder amgylcheddol, hiliol a chymdeithasol, a gwaith ymgyrchu creadigol. Mae Farah hefyd yn hwylusydd ar y rhaglen Arweinyddiaeth Hinsawdd Greadigol.

Ingrid Kopp

Ingrid Kopp

Cyd-sylfaenydd (hi)

Labordai a Phartneriaethau yn Electric South

Ingrid yw Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Labordai a Phartneriaethau Electric South, sefydliad dielw yn Cape Town sy’n datblygu ffurfiau newydd o adrodd straeon ledled Affrica. Mae Electric South yn gweithio gydag artistiaid rhyngddisgyblaethol ar draws y cyfandir i ddeori ac ariannu gwaith ymdrochol, ac yn ddiweddar mae wedi dechrau gweithio ar fentrau ymchwil a pholisi.

Verity McIntosh

Verity McIntosh

Cyfarwyddwr a Phrif Ymchwilydd (hi)

Celfyddydau Ymdrochol

Mae Verity’n gweithio gydag artistiaid, technolegwyr, ymchwilwyr, a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn effaith technoleg ymdrochol ar gymdeithas. Fel Athro Cyswllt yn UWE Bryste, Verity sefydlodd un o raglenni meistr realiti ymestynnol cyntaf Ewrop a chyd-sefydlu’r Bristol VR Lab. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar foeseg realiti ymestynnol, a hawliau dynol mewn amgylcheddau rhithwir.

Ruth McCullough

Ruth McCullough

Cynhyrchydd Gweithredol (hi)

Wedi’i leoli yn Watershed, Bryste

Mae Ruth yn Gynhyrchydd a Chyfarwyddwr Creadigol sy’n arbenigo mewn celf, technoleg a chynaliadwyedd.

Rhwng 2009 a 2023, bu’n Gynhyrchydd ac yna’n Gyfarwyddwr i Abandon Normal Devices, gan arwain yr unig raglen grwydrol ddwyflynyddol ddigidol ym Mhrydain a chydweithio ag artistiaid fel Marshmallow Laser Feast, Matthew Plummer Fernandez, Daito Manabe, Ubermorgen a Studio Roosegaarde.

Imwen Eke

Imwen Eke

Technolegydd Creadigol (hi)

New Party Rules Labs

Alcemydd chwarae, technolegydd creadigol, hwylusydd, addysgwr a siaradwr TEDx yw Imwen, sy’n arbenigo mewn chwarae fel arf pwerus ar gyfer archwilio a thrawsnewid. Gydag 20 mlynedd o brofiad mewn adloniant ymdrochol, mae ei harbenigedd yn rhychwantu dylunio rhyngweithiol, mecaneg gemau, hwyluso gweithdai, a thechnoleg greadigol, gan wneud trawsnewidiadau cymhleth yn hygyrch drwy fethodolegau chwareus.

Julia Scott-Stevenson

Julia Scott-Stevenson

Ymchwilydd (hi)

Chancellor's Postdoctotal Research Fellow

Ymchwilydd a gwneuthurwr cyfryngau rhyngweithiol ac ymdrochol yw Julia. Fel un o Gymrodyr Ymchwil y Canghellor ym Mhrifysgol Technoleg Sydney, mae’n defnyddio ymchwil sy’n cael ei arwain gan ymarfer i archwilio sut gall cyfryngau ymdrochol fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Julia gyfarwyddodd y profiad sgrin deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol cydweithredol Collective Visions.

Liz Rosenthal

Liz Rosenthal

Uwch Gynhyrchydd (hi)

Venice Immersive

Liz yw Curadur rhaglen Dethol a Chystadlu Swyddogol Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Biennale Fenis, Venice Immersive. Mae’n Uwch Gynhyrchydd ar nifer o brosiectau ymdrochol llwyddiannus a hi yw Sylfaenydd cwmni Power to the Pixel, sydd wedi creu rhaglenni ac arddangosfeydd rhyngwladol arloesol ar gyfer gweithiau ymdrochol a rhyngweithiol. Roedd ei chefndir ym maes ffilmiau nodwedd annibynnol.

Myriam Achard

Myriam Achard

Pennaeth Partneriaethau Cyfryngau Newydd a Chysylltiadau Cyhoeddus Canolfan PHI (hi)

Fel pennaeth partneriaethau cyfryngau newydd a chysylltiadau cyhoeddus, mae Myriam yn teithio’r byd yn chwilio am y gweithiau mwyaf arloesol ac ymdrochol i’w cyflwyno ym Montreal. Ers 2006, mae’n gweithio gyda Phoebe Greenberg i hyrwyddo ysgogiad creadigol PHI, wedi’i gyrru gan neges uchelgeisiol: datblygu a hyrwyddo arloesedd artistig yn y byd.

Ruthie Doyle

Ruthie Doyle

Cyfarwyddwr, Cyfryngau Datblygol, Rhaglen Ryngddisgyblaethol (hi)

Royal Shakespeare Company (RSC)

Artist a gwneuthurwr ffilmiau yw Ruthie Doyle sy’n byw yn Los Angeles. Ers 2013, mae’n gweithio gyda thîm rhaglen New Frontier Sefydliad Sundance, sy’n cefnogi ac yn arddangos artistiaid sy’n gweithio ar gydgyfeiriant ffilm, celf, y cyfryngau a thechnoleg yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance, a thrwy gydol y flwyddyn drwy labordai a phreswyliadau.

Sarah Ellis

Sarah Ellis

Cyfarwyddwr Datblygu Digidol

Royal Shakespeare Company (RSC)

Cynhyrchydd llwyddiannus yw Sarah Ellis, sydd hefyd yn siaradwr ac yn sylwebydd rheolaidd ar arfer celfyddydau digidol, ac yn Hyrwyddwr Diwydiant ar gyfer Canolfan Polisi a Thystiolaeth y Diwydiannau Creadigol, sy’n helpu i lywio ymchwil academaidd ar y diwydiannau creadigol er mwyn arwain at bolisïau gwell ar gyfer y sector.

Samantha King

Samantha King

Pennaeth Rhaglenni (hi)

Celfyddydau VIVE

Samantha yw Pennaeth Rhaglenni Celfyddydau VIVE, menter gelfyddydol fyd-eang sy’n cefnogi artistiaid a sefydliadau diwylliannol i arbrofi â thechnoleg ymdrochol. Cyn hynny, bu’n Uwch Gynhyrchydd Labordai Cynulleidfa yn y Tŷ Opera Brenhinol, rhaglen arloesi sy’n dod ag artistiaid a thechnoleg ymdrochol ynghyd i greu profiadau opera a bale cyfoes.

Orange outline illustration of character with two long legs and a cloudlike head with orange dots for eyes.

Partneriaid a chyllidwyr

Mae rhaglen Celfyddydau Ymdrochol yn cael ei chynnal gan gonsortiwm cydweithredol o ddeg partner sydd wedi’u gwreiddio yng nghymunedau ymchwil a chelfyddydau ymdrochol gwledydd Prydain, ac sydd wedi ymrwymo i greu newid cadarnhaol yn y sector.

Prifysgol Gorllewin Lloegr (UWE Bryste)

Arweinydd y rhaglen

Bryste

Rhwydwaith Technoleg Ymdrochol Innovate UK

Partneriaid ymchwil

Deyrnas Unedig

Crossover Labs

Partneriaid ar draws gwledydd Prydain

Sheffield

XR Diversity Initiative

Partneriaid ar draws gwledydd Prydain

Llundain

Chyllidwyr

Darperir cyllid ar gyfer rhaglen Celfyddydau Ymdrochol drwy gywaith rhwng Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (yr AHRC), Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon. Darperir cyllid o Gyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon gan y Loteri Genedlaethol.

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Chyllidwyr

Deyrnas Unedig