Digwyddiadau

Y Peth Mawr

09 Medi

Mewn Person

Y Peth Mawr

Y Peth Mawr

Y Peth Mawr yw ein cynulliad blynyddol, lle gall y gymuned gelf ymdrochol — ar unrhyw adeg ar eu taith — ddod ynghyd i gysylltu, i sbarduno syniadau newydd, ac i wthio ffiniau eu gwaith.

Mae’r Peth Mawr yn dod ag artistiaid, cynhyrchwyr, technolegwyr, ymchwilwyr a’r ecosystem ehangach o leoliadau, dosbarthwyr, curaduron a chyllidwyr o wledydd Prydain a’r tu hwnt ynghyd.

Gyda gweithdai ymarferol, gweithiau celf ymdrochol, prif anerchiadau ysbrydoledig, trafodaethau sy’n ysgogi’r meddwl, a llawer mwy, gallwch brynu tocynnau ar Eventive.

Dydd Mercher 9 – dydd Gwener 11 Medi 

Sawl lleoliad, Llandudno

Ymunwch â ni yn Llandudno

Mae’r ail ddigwyddiad blynyddol, y Peth Mawr, yn dod ag artistiaid, pobl greadigol, ymchwilwyr a thechnolegwyr ynghyd o bob rhan o wledydd Prydain a’r tu hwnt sydd eisiau siapio dyfodol celfyddydau ymdrochol. 

Dros gyfnod o dri diwrnod yn Llandudno, cewch gyfle i gysylltu, i gael eich ysbrydoli ac i esblygu eich gwaith.

Beth sy'n digwydd?

Beth i’w ddisgwyl:

  • Sgyrsiau ysbrydoledig
  • Trafodaethau sy’n ysgogi’r meddwl
  • Gweithdai ymarferol
  • Perfformiadau byw 
  • Cynulliadau artistiaid
  • Trafodaethau ar faterion allweddol

Archebwch nawr

Mae tocynnau cynnar ar werth nawr. 

Bydd yr amserlen lawn gan gynnwys manylion am yr hyn sydd i’w ddisgwyl ar gyfer pob sesiwn yn fyw ar Eventive ddechrau mis Gorffennaf 2026.

Mae’r Peth Mawr yn ofod lle bydd syniadau’n cael eu sbarduno, cyweithiau’n tanio, a dyfodol celfyddydau ymdrochol yn cael ei siapio.

Meithrin cymuned

Un o’n nodau ar gyfer Celfyddydau Ymdrochol yw meithrin cymuned celfyddydau ymdrochol fwy cysylltiedig, cynhwysol a hygyrch ar draws gwledydd Prydain, ac mae’r Peth Mawr wedi’i greu er mwyn gwneud hynny yn union.

Mae’r digwyddiad yma ar gyfer pawb sy’n siapio dyfodol celfydyddau ymdrochol. Boed chi’n newydd-ddyfodiad neu’n artist, yn gynhyrchydd neu’n dechnolegydd sefydledig, mae’r Peth Mawr ar eich cyfer chi!

Gwyliwch beth ddigwyddodd yn Y Peth Mawr 2025


Beth Sy’ 'Mlaen?

Beth i’w ddisgwyl:

  • Sgyrsiau ysbrydoledig
  • Trafodaethau panel sy’n ysgogi’r meddwl
  • Gweithdai ymarferol
  • Profiadau ymdrochol
  • Perfformiadau byw

Archebwch nawr

Mae’r tocynnau nawr ar werth

Mae’r tocynnau cyw cynnar ar werth tan ddydd Gwener 21 Ebrill 2025. Bydd yr amserlen lawn, fydd yn cynnwys manylion am yr hyn i’w ddisgwyl ar gyfer pob sesiwn, yn fyw ar 24 Ebrill 2025.

Mae’r Peth Mawr yn ofod lle bydd syniadau’n cael eu sbarduno, cyweithiau’n tanio, a dyfodol celf ymdrochol yn cael ei siapio.

Meithrin cymuned

Un o’n nodau ar gyfer y Celfyddydau Ymdrochol yw adeiladu cymuned gelfyddydau ymdrochol fwy cysylltiedig, cynhwysol a hygyrch ar draws gwledydd Prydain ac mae’r Peth Mawr wedi’i greu i wneud hynny.

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer pawb sy’n siapio dyfodol celf ymdrochol. Boed yn newydd-ddyfodiad neu’n artist, cynhyrchydd neu dechnolegydd sefydledig, mae’r Peth Mawr ar eich cyfer chi!

Gwybodaeth Hygyrchedd

1. Beth i'w ddisgwyl

Beth i'w ddisgwyl

Mae’r Peth Mawr yn ddigwyddiad dros sawl diwrnod sy’n dod â chymuned y celfyddydau ymdrochol o bob rhan o wledydd Prydain ynghyd i gysylltu, cydweithio a chael eu hysbrydoli.

Drwy gydol y digwyddiad, byddwch yn gallu cwrdd â phobl greadigol eraill ochr yn ochr ag ymchwilwyr, technolegwyr, newyddiadurwyr a chynrychiolwyr o orielau, theatrau, sefydliadau celfyddydol, asiantaethau a grwpiau cymunedol. Mae’r rhaglen ar agor i bawb, o’r rhai sy’n dechrau magu chwilfrydedd am y celfyddydau ymdrochol i artistiaid ac ymarferwyr sydd eisoes yn gweithio yn y maes.

Mae’r Peth Mawr yn cynnwys trafodaethau, sgyrsiau a gosodweithiau ysbrydoledig – gan dynnu ar syniadau gwych a phrofiadau bywyd – ochr yn ochr â gweithdai ymarferol sy’n cyflwyno technolegau newydd, arddangosfeydd arloesol a pherfformiadau rhyfedd a rhyfeddol. Mae’r digwyddiad yn ei ail flwyddyn erbyn hyn, a bydd yn bywiogi ac yn ymgysylltu â phobl o bob rhan o’r diwydiannau creadigol, gan feithrin partneriaethau newydd a chryfhau’r cysylltiadau ar draws arferion creadigol.

Bydd yr holl fanylion yn cael eu cyhoeddi pan fyddwn yn lansio’r rhaglen lawn ddechrau mis Gorffennaf.

2. Dyddiadau ac Amseroedd

Dyddiadau ac Amseroedd

Bydd y Peth Mawr yn digwydd rhwng dydd Mercher 9 a dydd Gwener 11 Medi 2026.  Bydd yn cychwyn gyda digwyddiad cynhesu nos Fercher 9 Medi, a’r prif weithgarwch yn digwydd ar 10 ac 11 Medi.

3. Tocynnau

3. Tocynnau

Gellir prynu tocynnau yn uniongyrchol o’n tudalen docynnau ar: EVENTIVE

Er mwyn prynu tocyn bydd gofyn i chi gofrestru i gael cyfrif Eventive. Bydd y cyfrif yma’n caniatáu i chi gadw amserlen ac archebu lle ar gyfer sesiynau lle mae nifer cyfyngedig o lefydd. 

Mae dwy haen o docynnau ar gael i leihau rhwystrau ariannol rhag mynychu, sef y Tocyn Llawn a Thocyn Cyfradd Is. Mae’r ddau docyn yn rhoi mynediad cyfartal i bob sesiwn a gweithdy dros gyfnod o 3 diwrnod. Mae’r Peth Mawr yn ddigwyddiad nid-er-elw, a bydd yr holl incwm a godir drwy werthu tocynnau yn mynd yn syth yn ôl i’r digwyddiad ac i gefnogi eraill i fynychu.

Y Tocyn Llawn

Mae hwn ar gyfer unigolion a sefydliadau sydd â’r modd i dalu’r gyfradd safonol, gan helpu i gynnal y Peth Mawr a’i gadw’n hygyrch.

Arferol: £140

Tocynnau Cynnar: £100

(Mae gwerthiant tocynnau cynnar yn dod i ben ddydd Sul 19 Gorffennaf)

Y Tocyn Cyfradd Is

Mae hwn ar gyfer unigolion ar incwm is na fyddent o bosibl yn gallu mynychu fel arall.

Arferol: £60

Tocynnau Cynnar: £50

(Mae gwerthiant tocynnau cynnar yn dod i ben ddydd Sul 19 Gorffennaf)

Ad-daliadau a throsglwyddiadau

Allwn ni ddim cynnig ad-daliadau, ond os ydych chi wedi prynu tocyn gallwch ei drosglwyddo i rywun arall drwy eich cyfrif Eventive. I wneud hynny, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif Eventive
  2. Cliciwch ar ‘My Passes’ o’r ddewislen
  3. Cliciwch ar y botwm ‘Manage’ wrth ymyl y tocyn yr hoffech ei drosglwyddo, yna cliciwch ar ‘Transfer pass’
  4. Rhowch gyfeiriad e-bost y derbynnydd a chliciwch ‘Submit’
  5. Bydd y derbynnydd yn cael e-bost sy’n cynnwys dolen sy’n caniatáu iddynt naill ai ychwanegu’r tocyn at eu cyfrif Eventive presennol neu greu cyfrif newydd os nad oes ganddynt un yn barod.
  6. Unwaith y bydd y derbynnydd wedi derbyn y tocyn drwy e-bost, bydd y tocyn wedi’i drosglwyddo’n llwyddiannus.

Bwyd a Diod

Mae eich tocyn cynrychiolydd yn cynnwys bwffe i swper nos Iau 10 Medi. Ar gyfer amser cinio a diodydd poeth, bydd tryciau bwyd yn bresennol fydd yn gweini amrywiaeth o seigiau, gan gynnwys opsiynau fegan a llysieuol, fydd ar gael i’w prynu.

Wrth brynu eich tocyn, cwblhewch y ffurflen gan nodi unrhyw ofynion deietegol fel y gallwn ddarparu ar eich cyfer. Bydd bwydlenni’n rhestru alergenau.

Bydd derbyniadau a digwyddiadau cymdeithasol yn ystod y Peth Mawr lle bydd diodydd alcoholig a di-alcohol yn cael eu gweini neu ar gael i’w prynu.

Mae yna hefyd nifer fawr o gaffis a bwytai yn Llandudno.

4. Bwrsariaethau

Lleoliadau

Mae tair haen o fwrsariaeth ar gael, gyda nifer gyfyngedig o bob un:

  • £400 (5 ar gael)
  • £250 (20 ar gael)
  • £150 (20 ar gael)

Bwriad y fwrsariaeth yw cyfrannu at y costau sy’n codi er mwyn mynychu’r Peth Mawr, dylai unigolion ddewis y lefel fydd yn eu galluogi i fynychu. Dydy Celfyddydau Ymdrochol ddim yn gallu rhoi cyngor i ymgeiswyr.

Y broses ddethol

Mae bwrsariaethau’n gyfyngedig ac efallai na fyddwn yn gallu bodloni’r galw i gyd. Os byddwn yn cael mwy o geisiadau nag sydd o fwrsariaethau ar gael, bydd Celfyddydau Ymdrochol yn dewis derbynwyr ar hap. Dim ond am un haen o fwrsariaeth y gall ymgeiswyr wneud cais. Bydd ceisiadau ar gyfer sawl haen gan yr un ymgeisydd yn cael eu tynnu o’r broses. Os bydd bwrsariaeth yn cael ei dyfarnu i ymgeisydd a’u bod wedyn yn peidio mynychu’r Peth Mawr, mae’n bosib y bydd gofyn iddynt ad-dalu’r swm llawn.

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod erbyn 18:00 nos Wener 29 Gorffennaf, 1800.

Boed yn llwyddiannus ai peidio, bydd y neges yn dod gyda dolen at docynnau mynediad am bris gostyngedig (cyfradd y tocynnau cynnar, sef £50).

5. Cyrraedd y Digwyddiad

Trên

Mae dwy orsaf reilffordd yn agos at y prif leoliadau: Llandudno (12 munud o gerdded i Venue Cymru) a Chyffordd Llandudno (10 munud mewn tacsi i Venue Cymru) ac mae’r ddwy yn cysylltu â llawer o leoliadau gan gynnwys Caerdydd, Manceinion a Llundain. Mae trenau’n mynd rhwng y ddwy orsaf drwy’r dydd ac mae’r daith yn cymryd tua 10 munud

Os ydych chi’n gadael gorsaf Llandudno, trowch i’r chwith a dilynwch Stryd Vaughan, gan fynd ymlaen er mwyn ymuno â Mostyn Broadway. O fan hyn, ewch ymlaen i lawr Mostyn Broadway a bydd Venue Cymru ar eich ochr chwith, ychydig heibio i Ganolfan Nofio Llandudno.

Mae amseroedd trenau, prisiau tocynnau a gwybodaeth am orsafoedd ar gael o: 

Mae rhagor o wybodaeth am orsaf Cyffordd Llandudno a gorsaf Llandudno ar gael ar wefan National Rail. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am hygyrchedd.

Car

Mae Venue Cymru bedair milltir o’r A55 ac mae’n cymryd tua wyth munud mewn car, gan roi mynediad wedyn i ogledd-orllewin Lloegr a’r tu hwnt drwy’r M62/M56. O Gyffordd 19 yr A55, dilynwch yr arwyddion am Landudno a chymerwch yr A470 (Ffordd Frenhinol Cymru), o’r fan honno dilynwch yr arwyddion ffordd brown sy’n nodi Venue Cymru. Venue Cymru. Cod post: LL30 1BB.

Dewisiadau parcio

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithredu maes parcio Talu ac Arddangos yn tu ôl i Venue Cymru, gyda llefydd parcio dynodedig i bobl anabl i’r chwith o’r brif fynedfa.  Does dim modd gwarantu lle yn y maes parcio yn ystod cyfnodau prysur. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser i deithio a pharcio a gweler isod am wybodaeth am opsiynau parcio amgen pan fydd angen. 

Mae modd parcio hefyd ar y Promenâd sy’n cynnig llefydd parcio Talu ac Arddangos tan 4pm, ac ar ôl hynny mae parcio’n rhad ac am ddim.

—————————————————————–

Tariff Talu ac Arddangos Venue Cymru

2 Awr: £3

4 Awr: £5

6 awr: £6

10 Awr: £9

24 Awr: £14.50

Noder nad oes tariff dros nos erbyn hyn. Rhaid i ddeiliaid bathodyn glas dalu oni bai eu bod wedi parcio mewn lle parcio anabl penodol.

*Gall prisiau newid. Gwiriwch yr arwyddion parcio wrth gyrraedd.

Gallwch dalu i barcio gan ddefnyddio arian parod, cerdyn neu drwy ddefnyddio’r ap parcio PayByPhone. Gallwch lawrlwytho’r ap yma – https://paybyphone.co.uk. Os ydych chi’n defnyddio’r ap yma, rhaid i chi fod â chyfrif. Rhif y maes parcio yw 804457.

—————————————————————–

Parcio ar y Promenâd – Talu ac Arddangos

Yn daladwy 10:00 – 16:00

Haf: 1 Mai – 30 Medi 

4 Awr: £5.50

Dros 4 Awr: £7.50

Gaeaf: 1 Hydref – 30 Ebrill

Hyd at 2 awr: £2.40

4 Awr: £3.80

Dros 4 Awr: £5.40

Deiliaid bathodyn glas: Am ddim | Gwaherddir carafanau modur rhwng 11pm ac 8am

*Gall prisiau newid.

Mae rhagor o feysydd parcio Talu ac Arddangos Llandudno i’w gweld yma – https://bit.ly/36CQ8n7

Parcio / gollwng yn Venue Cymru i bobl anabl

Mae man gollwng wrth y brif fynedfa gyda digon o le i ddod allan yn ddiogel.

Yn y maes parcio yng nghefn yr adeilad (Mostyn Broadway) mae 18 o lefydd parcio dynodedig i bobl anabl; mae parcio i ddeiliaid bathodynnau anabl yn y llefydd parcio yma yn rhad ac am ddim.

Mae map o ganol tref Llandudno, sy’n dangos ble mae llefydd parcio eraill i bobl anabl, ar gael yma.

Awgrymiadau Pwysig i Ddeiliaid Bathodyn Glas – Parcio ar y Stryd: Gallwch barcio am ddim mewn llefydd parcio dynodedig i bobl anabl heb derfyn amser oni bai bod yr arwyddion yn nodi fel arall.

Hedfan

Dyma’r ddau faes awyr rhanbarthol agosaf at Landudno: 

  • Mae maes awyr Manceinion (MAN) 76.3 milltir i ffwrdd; gellir ei gyrraedd ar drên sy’n cymryd tua dwy awr. 
  • Mae maes awyr Lerpwl (LPL) 59.5 milltir i ffwrdd; mae angen dal sawl trên a bws ac mae’n cymryd ychydig yn llai na thair awr. 

Gallwch gynllunio’ch taith ac archebu tocynnau drwy www.nationalrail.co.uk/journey-planner a https://www.thetrainline.com/

Bws

Mae sawl gwasanaeth bws yn pasio’r tu allan i gefn Venue Cymru (o flaen y maes parcio):

  • 12 – Gorsaf Fysiau’r Rhyl – Gwasanaeth rheolaidd yn rhedeg bob tua 10 munud, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Gwasanaeth cyfyngedig ddydd Sul.
  • 5 / X5 – Bangor – Gwasanaethau rheolaidd yn rhedeg bob tua 20 munud tan 6pm, yna bob tua 60 munud, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Gwasanaeth cyfyngedig ddydd Sul.
  • X1 – Blaenau Ffestiniog – drwy Lanrwst a Betws-y-Coed – Gwasanaeth rheolaidd yn rhedeg bob tua 60 munud, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Gwasanaeth dydd Sul yn rhedeg bob tua 3 awr.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau bysiau Llandudno, cliciwch yma.

Coets

Does dim coetsus uniongyrchol i Landudno ond gallwch gael coets i Lerpwl neu Fanceinion ac yna cael trên oddi yno.

Tacsi

Mae sawl cwmni tacsi lleol ar gael. Mae tacsi o orsaf Cyffordd Llandudno yn costio tua £8-£12 fel arfer. Mae gan Castle Cabs gerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn.

Castle Cabs

  • Tacsis 4-8 sedd, yn teithio o 7am tan yn hwyr, cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn, cludiant i’r maes awyr.
  • 01492 593398  |  info@castlecabsconwy.co.uk  |  www.castlecabsconwy.co.uk

Tacsis Alliance ac Interlink

  • Tacsis 4-8 sedd, gwasanaeth 24/7.
  • 01492 878787  |  01492 860033

Tacsis Sun Valley

  • Tacsis 4-6 sedd, gwasanaeth 24/7, cludiant i’r maes awyr.
  • 01492 354901  |  07700 900 253

Tacsis Rogers

  • Tacsis 4-6 sedd, yn teithio o 6am tan yn hwyr.
  • 01492 572224 |  rogerstaxis1@gmail.com

Beic

Mae raciau beic dynodedig wedi’u lleoli y tu allan i Venue Cymru ar gyfer ymwelwyr. Mae’r raciau ger y brif fynedfa, wrth ymyl y promenâd.

6. Lleoliadau

Bydd y Peth Mawr yn digwydd yn Llandudno. Y prif leoliad ar gyfer y Peth Mawr fydd Venue Cymru, Y Promenâd, Cilgant Penrhyn, Llandudno LL30 1BB.

Venue Cymru

Lleoliad theatr a digwyddiadau mawr yw Venue Cymru, ar lan y môr yn Llandudno. Venue Cymru fydd cartref y rhan fwyaf o sgyrsiau, gweithdai a gweithgareddau eraill ar 10 ac 11 Medi. Mae tai bach hygyrch ar gael ar bob llawr. Mae rhywfaint o wybodaeth am hygyrchedd wedi’i rhestru ar wefan Venue Cymru.

Clwb Hwylio Llandudno

Mae’r clwb hwylio wrth ymyl Venue Cymru. Bydd tryciau bwyd a seddi ar gael i fynychwyr y digwyddiad yn eu gofod awyr agored. Mae tai bach a seddi dan do ar gael drws nesaf yn Venue Cymru.

Club 147

Bar a chlwb nos yng nghanol y dref yw Club 147, ychydig oddi ar y brif stryd, sef Stryd Mostyn. Bydd yn cynnal gweithgareddau cymdeithasol gyda’r nos ac yn hwyr. Mae ramp o’r ffordd i lawr i’r fynedfa. Does dim grisiau i’r lleoliad; mae ar lefel y llawr. Tŷ bach hygyrch (heb larwm).

Pier Llandudno

Mae’r pier Fictoraidd yma ym mhen gogleddol y promenâd ac mae’n 700m o hyd, gyda thai bach, bariau, caffi, stondinau ac arcedau ar hyd-ddo. Bydd yn cynnal gweithgareddau cymdeithasol gyda’r nos. Does dim grisiau. Mae croeso i gŵn ar y pier. Tŷ bach hygyrch (heb larwm).

Y Neuadd Ymgynnull

Mae’r Neuadd Ymgynnull yn Neuadd y Dref Llandudno ac mae ychydig oddi ar y brif stryd. Mae ar y llawr gwaelod. Does dim grisiau o gwbl ac mae’r drysau’n agor ac yn cau gyda phŵer. Mae dau dŷ bach hygyrch.

Caffi Providero a ProvStretcher

Mae Providero ym mhen gogleddol y brif stryd. Mae’r adeilad wedi’i rannu’n ddwy ran: mae ProvStretcher ar y chwith a’r caffi ar y dde. Does dim grisiau yn y naill ofod na’r llall, ac mae’r ddau ar y llawr gwaelod. Mae tŷ bach hygyrch (heb larwm) ar gyfer y ddau ofod ac mae mynediad iddo drwy’r caffi. Gofod agored gyda nenfwd uchel yw ProvStretcher.

Bar Langtry, Gwesty'r Grand

Mae Bar Langtry ar waelod Gwesty’r Grand, sydd ar ben gogleddol y promenâd. Mae’r bar yn agor allan i’r pier. Bydd Bar Langtry yn cynnal gweithgareddau cymdeithasol gyda’r nos.

7.Llety

Mae nifer o westai lleoliadau’r digwyddiadau yn Ll. Nid oes gan y rhain ystafelloedd wedi’u neilltuo a gostyngiadau ar gyfer mynychwyr Big Thing, ond mae ganddynt argaeledd ystafelloedd o Dydd Mercher 27 Mai 2026.

8. Gwybodaeth Hygyrchedd

Mae’r adran yma’n cynnwys gwybodaeth hygyrchedd ar gyfer digwyddiad y Peth Mawr yn Llandudno. Yma fe welwch fanylion am y darpariaethau sydd ar waith ar gyfer ein digwyddiadau a sut i wneud ceisiadau hygyrchedd ychwanegol.

 

Rydyn ni’n argymell darllen yr holl wybodaeth isod, yn ogystal â’r adrannau gan gynnwys Cyrraedd Yma, Lleoliadau, a Llety i’ch helpu i gynllunio ar gyfer eich ymweliad â Llandudno a’r Peth Mawr.

Os oes gennych ofynion hygyrchedd nad ydynt wedi’u cynnwys yma, cysylltwch â ni yma: info@xolabs.co.uk. Ein nod yw darparu cymorth ychwanegol i fynychwyr pan fydd modd. Dydyn ni ddim yn gallu talu costau ar gyfer cymorth gofal personol na chymdeithasol.

Soniwch wrthon ni am eich gofynion hygyrchedd

Pan fyddwch chi’n prynu tocyn ar gyfer y Peth Mawr gallwch chi ddweud wrthon ni beth yw eich gofynion hygyrchedd yn yr adran berthnasol ar y ffurflen gofrestru. Rhowch y wybodaeth yma i ni erbyn dydd Llun 10 Awst 2026 er mwyn rhoi digon o amser i ni ddarparu’r cymorth cywir. 

Bydd darpariaethau hygyrchedd ar gyfer pob digwyddiad yn cael eu nodi yn y rhaglen lawn, a fydd ar gael ar ôl ei lansio yn yr wythnos sy’n dechrau ar 6 Gorffennaf.

Tocyn Gweithiwr Cymorth

Gall mynychwyr ddod â gweithiwr cymorth, cynorthwyydd personol neu ofalwr fydd yn cael Tocyn Gweithiwr Cymorth am ddim fel y gallant fynychu’r rhaglen gyfan gan gynnwys y darpariaethau prydau bwyd/diod safonol. Gellir gwneud cais am Docyn Gweithiwr Cymorth wrth gofrestru neu brynu tocyn yn yr adran “Gofynion hygyrchedd” y man cofrestru. Byddwn wedyn yn cysylltu â’r mynychwyr i gael gwybodaeth ychwanegol er mwyn cofrestru’r Tocyn Gweithiwr Cymorth.

Tai Bach Changing Places

O ran tai bach Changing Places (sef tai bach sy’n fwy o faint na’r tai bach hygyrch safonol), mae’r rhai agosaf i’r lleoliadau canolog wedi’u nodi isod ac mae rhagor o fanylion am ble i ddod o hyd iddynt yma.

  • Venue Cymru
  • Gorsaf Reilffordd Llandudno (12 munud o gerdded o Venue Cymru)

Cymorth Llywio

Bydd Cydlynydd Hygyrchedd pwrpasol ar gael yn Venue Cymru ar 9, 10 ac 11 Medi. Bydd staff ar gael i gefnogi ac arwain y mynychwyr rhwng gorsafoedd trên, lleoliadau, mannau gollwng, neu westai cyfagos. Gofynnwch am y cymorth yma ymlaen llaw erbyn dydd Llun 10 Awst.

Defnyddwyr cadeiriau olwyn

Mae pob man cyhoeddus ac ystafell gynadledda yn Venue Cymru yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Yn yr Awditoriwm ac mewn mannau perfformio eraill, mae gofodau i gadeiriau olwyn ar lefel Seddi’r Llawr.  Rhowch wybod i ni os ydych chi’n bwriadu dod â sgwter modur erbyn dydd Llun 10 Awst gan y bydd angen i ni ystyried hyn wrth ystyried capasiti’r ystafelloedd. Mae nifer gyfyngedig iawn o gadeiriau olwyn ar gael i’w llogi i gael mynediad i’r lleoliad, rhaid archebu’r rhain cyn cyrraedd, felly cysylltwch ag info@xolabs.co.uk.

Cŵn Cymorth

Mae croeso i gŵn cymorth hyfforddedig yn Venue Cymru.  Cysylltwch â fel y gall y lleoliad wedyn ddyrannu’r seddi mwyaf priodol i chi. Gellir darparu dŵr i gŵn. Bydd staff yn gallu eistedd gyda chŵn am gyfnodau cyfyngedig o amser os bydd angen; holwch y Cydlynydd Hygyrchedd am hyn yn y lleoliad.

Os oes gan fynychwyr alergedd i gŵn, dylent roi gwybod i ni ar y ffurflen gofynion hygyrchedd wrth brynu eu tocyn. Yna gallwn gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y person hwnnw’n cael cyn lleied â phosib o gyswllt gyda chŵn, os o gwbl, drwy sicrhau bod mannau yn y lleoliad yn cael eu cadw’n ddi-gŵn.

Deunydd print

Bydd deunydd print cyfyngedig ar gyfer y digwyddiad, ond gellir cynhyrchu fformatau amgen ar gais, gan gynnwys print bras, sain, braille a hawdd ei ddarllen. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am fformatau amgen yw dydd Llun 10 Awst

Deunydd gweledol

Bydd cyflwyniadau sy’n sgrolio yn cael eu dangos ar wahanol adegau drwy gydol y digwyddiad, gan gynnwys gyda fideo ac sain. Bydd capsiynau adrodd lleferydd-i-destun (STTR) yn cael eu harddangos ar gyfer pob sesiwn rhwng dydd Mercher 10 a dydd Iau 11 Medi. Gofynnir i bob cyflwynydd ddisgrifio’r delweddau a ddefnyddir ar lafar a chrynhoi cynnwys gweledol y deunydd fideo a ddefnyddir.

Digwyddiad hamddenol

Bydd agwedd hamddenol tuag at sŵn a symudiadau yn y digwyddiad ac mae rhyddid i bobl fynd a dod ym mhob sesiwn fel y mynnant. Cedwir y golau ymlaen yn isel yn yr ystafelloedd er mwyn caniatáu symud yn hawdd a bydd sain yn ystod cyflwyniadau yn cael ei chadw ar lefel gyfforddus.

Yn ystod perfformiadau gyda’r nos efallai y bydd effeithiau goleuo a sŵn uchel ac fe nodir hyn yn yr eitem ar yr amserlen.

Gofod gorffwys

Bydd gofod gorffwys ar gael drwy gydol y digwyddiad. Dyma ofod i gymryd seibiant o’r digwyddiad a bydd offer i’ch helpu i ymlacio, gan gynnwys mygydau llygaid, clustffonau canslo sŵn, blancedi, teganau ffidlan, a mwy. Bydd gan y gofod gorffwys amrywiaeth o opsiynau i eistedd neu orwedd.

Dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Darperir dehongliad Iaith Arwyddion Prydain os bydd y mynychwyr yn gofyn am y gwasanaeth yma’n benodol. Y dyddiad cau ar gyfer gwarantu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain yw dydd Llun 10 Awst. Os gwneir cais ar ôl y dyddiad hwnnw, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau dehonglydd ond ni allwn warantu hynny.

Lleferydd-i-destun

Bydd capsiynau adrodd lleferydd-i-destun (STTR) yn cael eu harddangos ar gyfer pob sesiwn ar 10 ac 11 Medi, ac yn y digwyddiad croeso ar 9 Medi. Nodir darpariaethau hygyrchedd ar gyfer pob sesiwn gyda gwybodaeth y sesiwn ar yr amserlen (uchod ac ar lwyfan Eventive).

Technoleg Gwrando Gynorthwyol

Mae Venue Cymru yn defnyddio Sennheiser MobileConnect yn yr Awditoriwm, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr wrando ar ffrwd fyw o berfformiadau llwyfan drwy glustffonau, dolen gwddf neu gymhorthion clyw cydnaws o unrhyw le yn yr awditoriwm. Mae’r system yma’n gweithredu ar WiFi a gall gysylltu â’ch dyfais glyfar neu ddyfais sydd wedi’i ffurfweddu’n barod a ddarperir gan Venue Cymru. I gael cyfarwyddiadau gosod manwl ar gyfer Sennheiser MobileConnect, gweler y dudalen gysylltiedig. Ar gyfer gweithgareddau yn yr ystafelloedd eraill, gellir benthyca clustffonau is-goch, dolenni gwddf neu ddolenni sain gan y lleoliad. Cysylltwch ag events@immersivearts.uk i drefnu hyn gyda thîm Venue Cymru. 

 

Mewn lleoliadau eraill, gellir darparu system dolen glyw dros dro ar gyfer rhai sesiynau. Dylid gwneud ceisiadau am hynny erbyn dydd Llun 10 Awst.

Cwrdd â Thîm Y Peth Mawr

Max Munday

Rheolwr Cynhyrchu (ef/fo)

Y Peth Mawr

Max yw Rheolwr Cynhyrchu Y Peth Mawr 2025. Wedi’i leoli yn Sheffield, mae’n artist ac ymchwilydd sy’n gweithio gyda symudiad a sain. Mae ganddo brofiad eang ym maes camddefnyddio sylweddau, digartrefedd, cyfathrebu gwleidyddol ac elusennol, cynhyrchu radio ac addysg uwch.

Soph Crockett

Soph Crockett

Cynhyrchydd ac Ymgynghorydd XR (hi/ei)

Crossover Labs

Mae Soph yn gynhyrchydd ac yn guradur XR i Crossover Labs, tîm sy’n creu’r dyfodol drwy gelf, technoleg a straeon. Mae hi wedi curadu arddangosfeydd ymdrochol ledled y byd ac wedi rhedeg sioeau rhyngweithiol yn Adelaide Fringe ac Edinburgh Fringe.

Tom Millen

Tom Millen

Cyd-gyfarwyddwr (fe)

Crossover Labs

Cynhyrchydd digidol llwyddiannus yw Tom, ac mae ei waith wedi’i ddangos yn y Barbican, BBC, Ars Electronica, SXSW a MoMA. Mae Tom wedi curadu rhaglenni celf ddigidol ar gyfer gwyliau rhyngwladol gan gynnwys CPH:DOX, Sheffield Doc/Fest, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol India, Gŵyl Gwyddoniaeth a Chyfryngau Silbersalz, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Bergen a Gŵyl Cyrion Adelaide.

Ruth McCullough

Ruth McCullough

Cynhyrchydd Gweithredol (hi)

Wedi’i leoli yn Watershed, Bryste

Mae Ruth yn Gynhyrchydd a Chyfarwyddwr Creadigol sy’n arbenigo mewn celf, technoleg a chynaliadwyedd.

Rhwng 2009 a 2023, bu’n Gynhyrchydd ac yna’n Gyfarwyddwr i Abandon Normal Devices, gan arwain yr unig raglen grwydrol ddwyflynyddol ddigidol ym Mhrydain a chydweithio ag artistiaid fel Marshmallow Laser Feast, Matthew Plummer Fernandez, Daito Manabe, Ubermorgen a Studio Roosegaarde.

Verity McIntosh

Verity McIntosh

Cyfarwyddwr a Phrif Ymchwilydd (hi)

Celfyddydau Ymdrochol

Mae Verity’n gweithio gydag artistiaid, technolegwyr, ymchwilwyr, a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn effaith technoleg ymdrochol ar gymdeithas. Fel Athro Cyswllt yn UWE Bryste, Verity sefydlodd un o raglenni meistr realiti ymestynnol cyntaf Ewrop a chyd-sefydlu’r Bristol VR Lab. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar foeseg realiti ymestynnol, a hawliau dynol mewn amgylcheddau rhithwir.

Kat Garoës-Hill

Kat Garoës-Hill

Rheolwr Cyfathrebu (hi)

Wedi’i lleoli yn Watershed, Bryste

Mae gan Kat dros 6 mlynedd o brofiad mewn cyfathrebu creadigol, gan gysylltu pobl drwy gyfryngau digidol ac adrodd straeon. Daeth i Fryste o Bradford ac arhosodd oherwydd ffocws y ddinas ar y celfyddydau. Mae Kat yn DJ (GAROËSS), yn rhan o Booty Bass. Fe’i dewiswyd ar gyfer Prosiect Datblygu Artistiaid Newydd Saffron Music‘ (2023-2024).

Bridget Hart

Bridget Hart

Cydlynydd (nhw)

Wedi’i leoli yn Watershed, Bryste

Mae Bridget wedi cydlynu rhaglenni ar gyfer y PM Studio, gan gynnwys Grounding Technologies, Celfyddydau Ymdrochol ac Undershed. Maen nhw hefyd yn awdur, cynhyrchydd creadigol ac yn olygydd. Maen nhw wedi cyhoeddi casgliadau barddoniaeth; Better Watch Your Mouth a Chewing Gum. Mae Bridget wedi cynhyrchu digwyddiadau ar gyfer Shambala, Gŵyl Ymylol Caeredin a Trans Pride.

Michelle Rumney

Michelle Rumney

Cynhyrchydd dros Loegr (hi)

Wedi’i leoli yn Watershed, Bryste

Mae Michelle yn artist gain sy’n ymarfer ac yn hyfforddwraig gymwysedig gyda chefndir technegol mewn ôl-gynhyrchu ac SFX. Gyda thros dair blynedd yn StoryFutures a StoryTrails, mae hi’n dod ag arbenigedd mewn prototeipio ymdrochol, profi ac ymchwil sy’n seiliedig ar gynulleidfaoedd i gefnogi artistiaid yn y rhaglen.

Lisa Heledd Jones

Lisa Heledd Jones

Cynhyrchydd dros Gymru (hi)

Wedi’i lleoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae Lisa yn gynhyrchydd, artist ac yn guradur sy’n archwilio adrodd straeon digidol, technolegau ymdrochol ac ymgysylltu cymunedol. Mae wedi gweithio i sefydliadau megis y BBC, Prifysgol De Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ogystal â chydweithio â nifer o unigolion sydd wedi dylanwadu ar ei gwaith a’i syniadau.

Allie John

Allie John

Cynhyrchydd dros Gymru (hi)

Wedi’i leoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae Allie yn gyd-sylfaenydd Yello Brick, sy’n creu digwyddiadau a phrofiadau digidol arobryn ers 14 mlynedd. Gyda chefndir mewn theatr, technoleg ddigidol, marchnata a chynhyrchu, mae hi wedi gweithio ar Bordergame (National Theatre Wales), Rescape Innovation (VR ar gyfer y GIG), a The Culture Group, gan reoli prosiectau Google gyda digwyddiadau corfforol ac allbynnau digidol.

Chloe Spiby Loh

Chloe Spiby Loh

Cynhyrchydd dros yr Alban (hi)

Wedi’i lleoli yn Cryptic, Glasgow

Mae Chloe wedi cynhyrchu rhaglenni gyda Wellcome Collection, Create London, V&A Dundee, RIBA a’r Sefydliad Pensaernïaeth, gan gydweithio ag artistiaid, dylunwyr a phartneriaid mawr ar ddigwyddiadau byw, gwyliau a chomisiynau. Mae’n arbenigo mewn prosiectau rhyngddisgyblaethol i gynulleidfaoedd cyhoeddus ac mae ganddi brofiad o ddefnyddio dulliau gwrth-hiliaeth a gwrth-ablaeth.

Orange outline illustration of character with two long legs and a cloudlike head with orange dots for eyes.