Cyffredinol
Rhaglen uchelgeisiol sy’n cael ei chynnal ar draws gwledydd Prydain dros gyfnod o dair blynedd yw Celfyddydau Ymdrochol, sy’n defnyddio dull sy’n cael ei arwain gan artistiaid o weithio gyda thechnolegau ymdrochol. Mae’r rhaglen gyffrous yma’n annog artistiaid o bob cefndir a phrofiad i archwilio, arbrofi neu estyn sut maen nhw’n gweithio, neu sut hoffen nhw weithio, gyda thechnolegau ymdrochol.
Pwrpas y rhaglen yw:
- Creu cyfleoedd hygyrch a chynhwysol, gan chwalu’r rhwystrau rhag gweithio gydag offer ymdrochol.
- Cefnogi artistiaid i ddatblygu gwaith arloesol, waeth beth yw eu lefel profiad neu eu gwybodaeth dechnegol.
- Meithrin cymuned gref o grewyr ledled gwledydd Prydain i rannu syniadau ac i gydweithio.
- Hyrwyddo dyfodol mwy amrywiol a chynaliadwy i’r celfyddydau ymdrochol drwy darfu ar ddulliau traddodiadol a hyrwyddo lleisiau newydd.
Rydyn ni’n gwybod bod ‘ymdrochol’ yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ac mewn gwahanol gyd-destunau. Ar gyfer y rhaglen yma, rydyn ni’n diffinio celfyddydau ymdrochol fel celf sy’n defnyddio technoleg er mwyn mynd ati i gynnwys y gynulleidfa. Gallai hyn gynnwys y defnydd o realiti rhithwir, realiti ymestynnol a realiti estynedig wrth greu gwaith celf sy’n pontio rhwng gofodau ffisegol a digidol, yn anelu at sawl synnwyr, ac yn waith celf sy’n cysylltu pobl â’i gilydd a/neu â’u hamgylchedd.
Mae’r diffiniad yma’n eang yn bwrpasol, ac mae’n ceisio cynnig arweiniad heb gyfyngu beth all pobl wneud cais amdano, ac annog arbrofi creadigol.
Mae tri math o gyllid ar gael:
- Archwilio (£5,000): Cefnogi archwilio cyfnod cynnar a datblygu sgiliau gyda thechnolegau ymdrochol. Bydd y prosiectau’n para 3-6 mis, gyda chymorth cynhyrchwyr wedi’i gynnwys.
- Arbrofi (£20,000): I ddatblygu prototeipiau a phrofi cysyniadau gyda chynulleidfaoedd. Bydd yn rhedeg am 4-9 mis, gyda chyfleoedd hyfforddiant a mireinio.
- Estyn (£50,000) Ar gyfer prosiectau ar gamau datblygedig, i helpu i gynyddu effaith a gwella ymgysylltiad. Bydd yn para 6-12 mis, gyda mentora wedi’i deilwra a chymorth ychwanegol.
Bydd y rhaglen yn ariannu dros 200 o artistiaid ledled gwledydd Prydain rhwng 2024 a 2027. Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu dros dair rownd, gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth drwy un o’r tair ffrwd ariannu: Archwilio, Arbrofi, neu Estyn.
Os oes gennych chi gŵyn am unrhyw agwedd ar y rhaglen neu unigolyn neu sefydliad sy’n rhan o’r rhaglen, cyfeiriwch at bolisi Gwneud Cwyn Celfyddydau Ymdrochol ar ein gwefan. Rydyn ni’n cymryd pob adborth o ddifri ac rydyn ni’n ymroddedig i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau.