Immersive Geiriau

Mae celf ymdrochol yn faes sy’n tyfu sy’n cyfuno creadigrwydd, adrodd straeon a thechnoleg i greu profiadau pwerus a diddorol i gynulleidfaoedd. Os ydych chi’n newydd i’r maes yma neu’n ystyried gwneud cais am gyllid neu gymorth, mae’n bosib y dewch chi ar draws termau anghyfarwydd. Mae’r canllaw yma’n esbonio rhywfaint o’r iaith gyffredin sy’n cael ei defnyddio mewn ffordd syml a chlir.

Cyffredinol / Strwythur Y Rhaglen

Cymorth Hygyrchedd

Cymorth i sicrhau y gall pawb gymryd rhan drwy ymateb i ofynion hygyrchedd, gan gynnwys pethau fel teithio, dehonglwyr, neu ofodau tawel.

Derbyniwr

Unigolyn neu grŵp sydd wedi cael cyllid neu gefnogaeth.

 

Sgwrs fer

Cyfarfod byr i weld sut mae pethau’n mynd, a thrafod unrhyw gamau gweithredu perthnasol neu gamau nesaf.

Carfan

Grŵp o artistiaid, casglebau, neu gwmnïau a ddewiswyd i gymryd rhan yn yr un rownd o raglen y Celfyddydau Ymdrochol.

Cymhwysedd

Y manylion penodol ynghylch pwy all wneud cais am gyfle neu gyllid.

Mynegi Diddordeb

Ffurflen fyrrach cyn gwneud cais llawn.

Cyfarfod Cychwynnol

Cyfarfod ar ddechrau prosiect sy’n cynnwys cyflwyniadau a thrafod beth fydd yn digwydd nesaf.

Mentora

Cymorth un i un neu ddatblygiad proffesiynol gan rywun sydd â mwy o brofiad.

Myfyrio / Ymarfer Myfyriol

Ffordd o edrych yn ôl ar beth rydych chi wedi’i wneud i ddysgu a gwella gwaith yn y dyfodol. Yn aml yn rhan o ddatblygiad artist neu brosiect.

Panel Adolygu

Grŵp o bobl sy’n adolygu ac yn sgorio ceisiadau.

Digwyddiad Arddangos

Digwyddiad cyhoeddus neu breifat i rannu prosiect sydd naill ai’n dal i fynd rhagddo neu wedi’i gwblhau.

Ffrwd

Rhan, neu fath o gyfle, yn y rhaglen. Yn y rhaglen yma rydyn ni’n cynnig tair ffrwd ariannu wahanol (e.e. Archwilio, Arbrofi, Estyn).

Proses Greadigol / Cynhyrchu

Gweledigaeth Greadigol

Y prif syniad, neu’r cynllun artistig, ar gyfer sut rydych chi eisiau i rywbeth edrych a theimlo.

Trawsddisgyblaethol

Dod â gwahanol ffurfiau ar gelfyddyd neu feysydd arbenigedd at ei gilydd, yn hytrach nag un ffurf ar gelfyddyd, h.y. dawns a thechnoleg ddigidol neu gerddoriaeth a gemau.

Dad-rigio

Tynnu offer i lawr a’i bacio ar ôl digwyddiad.

Prototeip Ymdrochol

Fersiwn weithredol, neu iteriad, o syniad rhyngweithiol neu ddigidol cyn iddo gael ei orffen.

Iteriad

Gwneud newidiadau a gwelliannau dros amser.

Dyluniadau Niwroamrywiol

Dylunio gwaith mewn ffordd sy’n cefnogi gwahanol ffyrdd mae pobl yn meddwl ac yn prosesu’r byd o’u cwmpas fel eu bod yn teimlo’n gynwysedig, yn ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi. Er enghraifft, opsiynau ar gyfer rheoli lefel sain, osgoi trawsnewidiadau cyflym neu ddelweddau prysur.

Prototeipio

Dull hyblyg, profi-a-dysgu lle mai’r nod yw peidio gorffen rhywbeth, ond archwilio beth sy’n bosib, profi syniad neu broses.

Trefniant Technegol

Yr offer, y caledwedd a/neu’r feddalwedd sydd eu hangen i brosiect redeg.

Bwrdd Stori

Cynllun gweledol sy’n dangos beth sy’n digwydd mewn prosiect, gam wrth gam, gan ddefnyddio lluniau neu ddisgrifiadau byr.

Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr

Ffordd o ddylunio sy’n canolbwyntio ar y bobl fydd yn defnyddio neu’n cymryd rhan yn eich profiad. Mae’n golygu eu cynnwys yn eich prosiect yn gynnar, profi syniadau gyda nhw a gwneud newidiadau yn seiliedig ar eu hadborth.

Technoleg Ac Offer

Fideo 360 gradd

Defnyddio technoleg fideo ymdrochol i greu profiadau adrodd straeon deniadol a rhyngweithiol, gan alluogi defnyddwyr i edrych o gwmpas ac archwilio golygfa i bob cyfeiriad.

Sain Ambisonig

Math o sain sy’n dod o bob cyfeiriad. Mae’n gwneud i’r sain deimlo’n fwy naturiol ac ymdrochol.

Realiti Estynedig (AR)

Prosiectau sy’n gosod cynnwys digidol (cynnwys gweledol neu sain fel arfer) ar ben y byd ffisegol drwy ddyfeisiau fel ffonau clyfar, llechi neu sbectol AR, gan ychwanegu at ganfyddiad y defnyddiwr o’u hamgylchedd.

Sain Deuglust

Prosiectau sy’n defnyddio techneg sain stereo sy’n rhoi ymdeimlad o ofod a phellter i gynulleidfaoedd.

Cipio (Cyfeintiol/ Ffotogrametreg/ Symudiad)

Ffyrdd o gofnodi pobl, gwrthrychau neu lefydd go iawn ar gyfer defnydd digidol:

  • Mae cipio Cyfeintiol yn recordio rhywun mewn 3D.
  • Mae Ffotogrametreg yn cynnwys tynnu llawer o luniau a’u gwnïo at ei gilydd i greu model 3D o arwynebau.
  • Mae Fideo Cyfeintiol yn dangos pobl neu lefydd mewn 3D, y gellir eu gweld o wahanol onglau mewn VR neu AR.

 

Realiti Ymestynnol (XR)

Term cyfunol sy’n cwmpasu VR, AR, a MR, gan gyfeirio at yr holl amgylcheddau sy’n cyfuno’r ffisegol a’r rhithwir a rhyngweithiadau rhwng pobl a pheiriannau wedi’u creu gan dechnoleg gyfrifiadurol a thechnoleg wisgadwy.

Exciters

Dyfeisiau bach sy’n troi arwynebau yn seinyddion i greu sain yn seiliedig ar ddirgryniad.

Adborth Cyffyrddiadol a Synhwyraidd

Ymgorffori adborth cyffyrddiadol a thechnolegau synhwyraidd eraill i wella’r profiad ymdrochol, gan wneud i’r rhyngweithiadau digidol deimlo’n fwy real a chyffrous.

Lidar

Offeryn sy’n sganio gofod, yn mesur pellteroedd o bwynt sefydlog, gan ddefnyddio golau ar ffurf laser i wneud map 3D.

Realiti Cymysg (MR)

Datblygiadau sy’n asio bydoedd go iawn a bydoedd rhithwir er mwyn creu amgylcheddau newydd lle mae gwrthrychau ffisegol a digidol yn cydfodoli ac yn rhyngweithio mewn amser go iawn, yn aml gan ddefnyddio pensetiau â galluoedd ‘pasio drwodd’.

Cipio symudiadau

Yn tracio sut mae rhywun yn symud i animeiddio cymeriad digidol.

Sain Cwadraffonig / 5.1

Systemau sain gyda nifer o seinyddion o amgylch yr ystafell i greu effaith amgylchynol.

Amgylcheddau Ymatebol

Gosodweithiau sy’n defnyddio technoleg fel synhwyro dyfnder, symud, sain neu gyffwrdd i gydnabod ac ymateb i bresenoldeb y gynulleidfa mewn ffyrdd creadigol a dychmygus.

Sain Ofodol

Prosiectau sy’n defnyddio effeithiau sain 3D i osod sain o gwmpas gwrandäwr mewn 360 gradd.


Sain sy’n newid yn dibynnu ar ble rydych chi neu ble rydych chi’n edrych.

Cyfrifiadura Gofodol

Prosiectau sy’n defnyddio mapiau gofodol a thechnolegau canfyddiad i greu profiadau rhyngweithiol yn y gofod ffisegol, gan alluogi rhyngweithio greddfol rhwng y defnyddiwr a chynnwys digidol.

Synhwyrydd

Dyfais sy’n darllen symudiad, sain, neu gyffyrddiad i sbarduno ymateb.

Realiti Rhithwir (VR)

Prosiectau sy’n creu amgylcheddau digidol, sy’n galluogi defnyddwyr i ryngweithio mewn byd sydd wedi’i greu gan gyfrifiadur gan ddefnyddio dyfeisiau fel rheolyddion symud a phensetiau VR.

Hygyrchedd A Chynhwysiant

Fformatau Hygyrch

Gwybodaeth a gaiff ei rhannu mewn ffordd sy’n ei gwneud hi’n haws i ystod ehangach o bobl ei deall (e.e. print bras, capsiynau, neu ddehongli Iaith Arwyddion Prydain).

Dogfen Hygyrchedd

Dogfen sy’n amlinellu beth sydd ei angen ar artist(iaid) neu aelod(au) o dîm i gymryd rhan lawn mewn prosiect neu ddigwyddiad (er enghraifft, seibiannau rheolaidd, gwahanol fformatau, anghenion synhwyraidd).

Hawdd ei Darllen

Fformat sy’n defnyddio geiriau, brawddegau a lluniau syml i helpu pobl sydd ag anableddau dysgu i ddeall gwybodaeth yn haws.

Model Cymdeithasol o Anabledd

Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd, a ddatblygwyd gan bobl Anabl, yn disgrifio pobl fel eu bod yn cael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas, nid gan eu amhariad neu wahaniaeth.

Profiad Synhwyraidd

Rhywbeth y gallwch chi ei deimlo drwy sain, cyffyrddiad, arogl neu symudiad.

Ymarfer sy’n Seiliedig ar Drawma

Dull sy’n ystyried effaith emosiynol y gwaith ar gyfranogwyr neu gynulleidfaoedd a allai fod wedi profi trawma.

Rhybuddion Sbardun / Nodiadau Cynnwys

Rhybudd ymlaen llaw am themâu a allai fod yn ofidus neu’n llethol, fel y gall pobl wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â chymryd rhan.

Cynulleidfa A Chyfranogiad

Galluedd (ar gyfer defnyddiwr)

Y gallu i ddewis neu reoli beth sy’n digwydd nesaf mewn stori neu brofiad.

Cyd-greu

Creu rhywbeth ar y cyd ag eraill (yn aml gyda’r cynulleidfaoedd neu’r cymunedau a fydd yn elwa o’r canlyniad gorffenedig).

Hwylusydd

Unigolyn sy’n arwain, neu’n cefnogi, eraill i gymryd rhan mewn sesiwn neu weithgaredd.

Rhyngweithiol

Celf sy’n ymateb i’r gynulleidfa neu’n eu gwahodd i gymryd rhan. Er enghraifft, gallai’r gynulleidfa gyffwrdd, siarad neu symud neu wneud dewisiadau sy’n effeithio ar yr hyn sy’n digwydd.

Ymyriad

Camau a gymerir yn ystod digwyddiad, neu brofiad, i arwain neu newid yr hyn sy’n digwydd.

Taith y Defnyddiwr

Y llwybr mae rhywun yn ei gymryd drwy brofiad digidol neu ffisegol.

Profiad y Defnyddiwr (UX)

Sut mae’n teimlo i rywun gymryd rhan yn eich prosiect, gan gynnwys pa mor hawdd, pleserus a hygyrch ydyw.

Ariannu A Chynnal Prosiect

Llinellau Cyllideb

Y gwahanol rannau o gyllideb sy’n dangos sut y bydd arian yn cael ei ddefnyddio.

Llif Arian

Cynllunio ar gyfer sut, a phryd, y bydd arian yn cael ei ennill (incwm) a’i wario (gwariant) mewn busnes, neu ar gyfer prosiect.

Amser/ Arian wrth gefn

Amser neu arian ychwanegol, sydd wedi’i neilltuo ar gyfer elfennau annisgwyl neu anrhagweladwy prosiect.

Canlyniadau

Y pethau allweddol rydych chi’n cytuno i’w rhannu neu eu cwblhau erbyn diwedd eich prosiect a ariennir, fel cyflwyniad, prototeip neu adroddiad.

Cefnogaeth mewn Nwyddau

Cymorth, neu gefnogaeth, lle nad yw arian yn cael ei gyfnewid (e.e. gofod ar gyfer creu neu berfformio, offer, neu amser sy’n cael ei roi am ddim).

Arian Cyfatebol

Arian neu adnoddau mae angen i’r ymgeisydd eu codi i ‘gyfateb’ i’r cyfraniad gan y cyllidwr.

Adrodd / Adroddiad Terfynol

Crynodeb byr o’r hyn a ddigwyddodd yn ystod eich prosiect. Mae’n aml yn cynnwys eich canlyniadau, beth ddysgoch chi, a dadansoddiad o’r gyllideb.

Cwmpas (gwaith)

Gwahaniaethu rhwng yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn y prosiect neu’r dasg a’r hyn sydd heb ei gynnwys.

Rolau Prosiect

Ymgynghorydd Hygyrchedd

Unigolyn sy’n helpu i sicrhau bod anghenion hygyrchedd rhywun yn cael eu deall, eu cynllunio a’u cefnogi ar draws prosiect.

Technolegydd Creadigol

Rhywun sy’n cymysgu syniadau creadigol â thechnoleg. Maen nhw’n adeiladu rhannau rhyngweithiol o’r prosiect ac yn sicrhau bod y dechnoleg yn gweithio’n iawn.

Uwch Gynhyrchydd

Person uwch sy’n cefnogi’r prosiect.

Maen nhw’n helpu gyda chyllid, yn rhoi cyngor, ac yn cysylltu’r tîm â chysylltiadau defnyddiol.

Dylunydd Profiadau (neu Ddylunydd UX)

Rhywun sy’n cynllunio sut mae pobl yn symud drwy’r profiad.

Maen nhw’n meddwl am ofod, amseru, a sut mae’r daith yn teimlo i’r gynulleidfa.

Cyfarwyddwr Ymdrochol

Yr unigolyn yma sy’n arwain rhannau creadigol y prosiect.

Nhw sy’n penderfynu sut fydd y gynulleidfa’n profi’r stori gan ddefnyddio sain, delweddau a thechnoleg.

Dylunydd Rhyngweithio

Mae’r unigolyn yma’n cynllunio beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn pwyso botwm, yn symud, neu’n siarad.

Maen nhw’n dylunio sut mae’r profiad yn ymateb i’r gweithredoedd hynny.

Cynhyrchydd

Rhywun sy’n helpu i gynllunio a rhedeg prosiect creadigol.

Maen nhw’n sicrhau bod popeth yn digwydd ar amser ac o fewn y gyllideb.

Maen nhw’n cefnogi’r tîm ac yn cadw mewn cysylltiad â phartneriaid, neu gydweithwyr eraill.

Technegydd / Gweithredwr XR

Unigolyn sy’n gosod ac yn rhedeg yr offer ymdrochol.

Maen nhw’n gwneud yn siŵr bod pensetiau, synwyryddion a meddalwedd yn gweithio’n iawn.

Dyluniad Y Prosiect

Afatar

Cymeriad digidol sy’n cynrychioli unigolyn mewn gofod rhithwir.

Gellid ei ddefnyddio ar gyfer aelodau’r gynulleidfa neu berfformwyr.

Labordy Datblygu

Rhaglen fer i helpu artistiaid i roi cynnig ar syniadau cynnar. Mae’n cynnwys gweithdai, mentora, ac amser i brofi cysyniadau newydd. Gallai hyn hefyd gael ei adnabod fel labordy neu breswylfa arloesi.

Mapio Amgylcheddol/ Dylunio Goleuadau

Creu golau a gofod mewn bydoedd digidol.

Mae goleuo da yn helpu’r profiad i deimlo’n real ac yn gredadwy.

Peiriant Gemau

Meddalwedd a ddefnyddir i ddylunio, adeiladu a rhedeg profiadau rhyngweithiol digidol, fel Unity neu Unreal Engine.

Gosodwaith

Celfwaith y gall pobl gerdded i mewn iddo neu ryngweithio ag ef.

Gallai ddefnyddio tafluniadau, sain, realiti rhithwir, neu wrthrychau y gellir eu cyffwrdd mewn oriel neu ofod cyhoeddus.

Oedi

Yr oedi rhwng yr hyn mae rhywun yn ei wneud a’r hyn sy’n digwydd yn y profiad.

Mae llai o oedi yn well, yn enwedig mewn VR.

 

Cyfryngau Lleoliadol

Profiadau digidol sy’n newid yn seiliedig ar eich lleoliad. Caiff ei ddefnyddio’n aml mewn AR neu straeon sy’n seiliedig ar le.

Canolwedd

Meddalwedd sy’n helpu gwahanol offer neu systemau i weithio gyda’i gilydd. Mae’n cysylltu pethau fel peiriannau gemau â phensetiau neu synwyryddion.

Moddau Cymysg

Defnyddio gwahanol gyfryngau mewn un prosiect. Er enghraifft: VR gyda pherfformiad byw, sain a fideo.

Ymsefydlu (Cynulleidfa)

Helpu’r gynulleidfa i baratoi ar gyfer y profiad. Gallai hyn gynnwys rhoi cyfarwyddiadau diogelwch, dangos rheolyddion, neu gyflwyno’r sefyllfa.

Piblinell

Y cynllun cam wrth gam ar gyfer creu prosiect ymdrochol. Mae’n cynnwys pethau fel dylunio, codio, sain, profi a gosod.

Presenoldeb

Y teimlad o fod y tu mewn i’r profiad go iawn. Mae ymdeimlad cryf o bresenoldeb yn helpu pobl i deimlo’n fwy cysylltiedig.

Amser Real

Pan fydd rhywbeth yn digwydd ar unwaith, heb oedi. Mewn celf ymdrochol, gallai hyn olygu sain neu ddelweddau sy’n ymateb ar unwaith i symudiad neu weithred rhywun.

Rendro

Creu’r fersiwn derfynol o olygfa ddigidol. Gall hyn ddigwydd mewn amser real (fel mewn VR – Realiti Rhithwir) neu ymlaen llaw (fel mewn fideo 360°).

Pecyn Technoleg

Rhestr o’r offer sydd ei angen i gynnal y profiad. Gallai hyn gynnwys pethau fel pensetiau, systemau sain, neu fynediad i’r rhyngrwyd. Fel arfer, rydych chi’n rhoi un o’r rhain i leoliad cyn iddyn nhw gytuno i ddangos eich gwaith.

Rhyngweithiad sy’n Seiliedig ar Sbardun/ Digwyddiad

Rhywbeth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn gwneud gweithred benodol. Er enghraifft, gallai cerdded i mewn i ofod sbarduno sain neu olau.

Profi Defnyddwyr/ Profi Cynulleidfa/ Lansiad Meddal/ Profi Chwarae

Gadael i gynulleidfa fach roi cynnig ar y prosiect cyn iddo lansio’n llawn. Mae’n ffordd o ddod o hyd i broblemau a gwella’r profiad.

Profi gyda Defnyddwyr

Gadael i bobl roi cynnig ar eich prosiect i weld beth sy’n gweithio a beth sydd ddim. Mae’n helpu i wella’r profiad cyn ei lansio i’r cyhoedd.

Adeiladu Byd

Creu’r byd (dychmygol) ar gyfer eich profiad. Mae hyn yn cynnwys sut olwg sydd arno, sut mae’n swnio, a beth yw rheolau’r byd.