Pam y barnwyd bod rhai ceisiadau’n anghymwys?
Yn ogystal ag egluro ein safbwynt mewn perthynas â’r hyn sy’n ‘cyfrif’ fel celfyddydau ymdrochol, mae’r diffiniad yma’n rhan o sut rydyn ni’n deall beth sydd o fewn cwmpas cyllid celfyddydau ymdrochol, a beth sydd ddim.
Y prif resymau dros ddyfarnu bod ceisiadau’n anghymwys oedd:
- Ddim yn amlwg bod y cynnig yn canolbwyntio ar y celfyddydau ac yn cael ei arwain gan artistiaid
- Dim tystiolaeth o’r rôl y byddai technolegau ymdrochol yn ei chwarae yn y cynnig
- Dim esboniad o sut byddai’r gwaith yn mynd ati i gynnwys cynulleidfa ar ryw adeg yn ystod oes y prosiect.
I gynnig ychydig mwy o fanylion:
Wedi’u harwain gan y celfyddydau ac artistiaid
Barnwyd bod rhai cynigion y tu hwnt i gwmpas y rhaglen os nad oedd ganddynt bwyslais clir ar gelfyddydau a diwylliant neu’r sector creadigol. Yn gyffredinol, cynigion oedd y rhain oedd heb enwi artist/sefydliad celfyddydol/technolegydd creadigol fel arweinydd, ac roeddent wedi’u gwreiddio’n bennaf mewn sectorau eraill e.e. hyfforddiant, gofal iechyd, twristiaeth, gweithgynhyrchu, ac ati heb wneud achos cryf dros sut roedd hwn yn gais oedd yn canolbwyntio ar y celfyddydau ac yn cael ei arwain gan artistiaid.
Technolegau ymdrochol yn rhan annatod o’r cynnig
Weithiau, naill ai doedd yr ymgeiswyr heb sôn am dechnolegau penodol, neu roeddent wedi methu esbonio pam eu bod yn berthnasol i’r gweithgarwch arfaethedig neu roeddent wedi cyfeirio atynt mewn termau amwys e.e. ‘os oes amser, efallai y byddwn hefyd yn edrych i weld a fyddai’n bosib cymhwyso technolegau ymdrochol i’r prosiect yma’.
Gyda’r adnoddau cyfyngedig, rydyn ni wedi dewis canolbwyntio ar gefnogi artistiaid sydd â diddordeb arbennig mewn archwilio rôl technolegau ymdrochol yn eu harfer creadigol. Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi gwaith sy’n archwilio potensial technolegau ymdrochol fel deunyddiau creadigol a mynegiannol, ochr yn ochr â gwaith sy’n ymgysylltu â goblygiadau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol mwy heriol gweithio gyda’r offer hyn.
Mynd ati i gynnwys y gynulleidfa
Er mwyn bodloni’r meini prawf, gofynnwyd sut byddai’r prosiect yn mynd ati i gynnwys y gynulleidfa darged yn y gwaith celf, a sut byddai’r dechnoleg yn hwyluso’r broses o fynd ati i’w cynnwys mewn rhyw ffordd.
Ar gyfer cronfa Archwilio, gallai hynny fod yn gynulleidfa ddamcaniaethol rywbryd yn y dyfodol. Ar gyfer cronfa Arbrofi, gofynnwyd i ymgeiswyr sôn sut bydden nhw’n profi eu gwaith cynnar gyda chynulleidfaoedd. Ar gyfer cronfa Estyn, roedden ni’n disgwyl i artistiaid rannu syniad mwy cyflawn o sut byddai gwaith gorffenedig yn mynd ati i gynnwys cynulleidfa.
Gall mynd ati i gynnwys y gynulleidfa ddigwydd ar sawl ffurf. Yn y canllawiau, rydyn ni’n rhestru nifer o dechnolegau rydyn ni’n dychmygu y byddant ‘o fewn cwmpas’ y rhaglen, oherwydd y ffordd maen nhw’n mynd ati i gynnwys cynulleidfaoedd. Rydyn ni hefyd yn agored i artistiaid awgrymu technolegau eraill os gallant esbonio sut maen nhw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer mynd ati i gynnwys cynulleidfa.
Ymhlith y technolegau y canfuwyd yn aml eu bod y tu allan i gwmpas y rhaglen, roedd tafluniadau a mapio tafluniadau, sioeau golau, ffilmiau artistiaid, cyngherddau a pherfformiadau oedd yn cynnwys technoleg ond ddim mewn ffordd oedd yn mynd ati i gynnwys y gynulleidfa.
Unrhyw beth arall?
Fe gawson ni nifer o geisiadau oedd yn ymddangos yn addas ar gyfer ffynonellau eraill o gyllid cyhoeddus e.e. Innovate UK neu Ymchwil ac Arloesi y DU, ond nad oeddent yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cyllid Celfyddydau Ymdrochol. Yn gyffredinol, dyma oedd ffurfiau’r ceisiadau hynny:
Datblygu busnes – cynigion i gychwyn, ehangu neu newid trywydd busnes yr ymgeisydd. Er ein bod yn gobeithio y bydd gan gyllid Celfyddydau Ymdrochol fudd eilaidd o gefnogi artistiaid i esblygu a datblygu eu busnesau, pwyslais y cyllid penodol yma yw datblygu eu prosiectau a’u harferion creadigol.
Datblygu offer – cynigion i adeiladu offeryn neu lwyfan penodol fyddai’n hwyluso ymarfer celfyddydol (neu sector arall), ond nid prosiect penodol dan arweiniad artist.
Technoleg ar gyfer marchnata – cynigion i ddefnyddio technolegau ymdrochol i hyrwyddo gwaith celf/profiad e.e. posteri realiti estynedig, yn hytrach nag fel rhan annatod o’r gwaith creadigol ei hunan.
Cyllid i gynnal rhaglen ariannu arall – cynigion i ddylunio a chyflwyno gŵyl neu raglen gymorth i nifer o artistiaid e.e. cynnig hyfforddiant, digwyddiadau, preswylfeydd neu fwrsariaethau.
Ymchwil academaidd – cynigion oedd yn cynnwys costau ar gyfer ymchwil academaidd, fel amser academydd neu gyfrifiad o ‘gost economaidd lawn’ o fewn eu cyllidebau. Yn unol â’n canllawiau, gellir defnyddio ein cyllid i gael mynediad at gyfleusterau penodol neu gymorth technegol o fewn prifysgolion, colegau a sefydliadau ymchwil annibynnol ond nid ar gyfer addysgu nac ymchwil. Rydyn ni’n dal i fod yn fwy na pharod i ymgeiswyr gynnal partneriaethau gweithredol gyda sefydliadau ymchwil e.e. prifysgolion, ond rydyn ni’n disgwyl i gostau academaidd mewn partneriaeth o’r fath gael eu talu o ffynonellau eraill.
Cynnig aneglur – treuliodd rhai ymgeiswyr rannau helaeth o’u cais yn rhannu manylion am eu cefndir a’u cyd-destun personol. Er ein bod yn croesawu’r wybodaeth hon yn fawr pan fo’n berthnasol i’r cynnig, roedd yna geisiadau oedd yn canolbwyntio ar hyn, heb fynd ymlaen i roi eglurhad clir o’r hyn y byddent yn ei wneud gyda’r cyllid. Yn yr achosion hyn, doedd gan yr adolygwyr ddim digon o wybodaeth i asesu’r cynnig.
Beth arweiniodd at symud rhai ceisiadau ymlaen i gael cyllid ond ddim eraill?
Rydyn ni’n gwybod bod pawb yn dweud hyn… ond roedd safon y ceisiadau yn anhygoel. Fe gawson ni’n syfrdanu’n llwyr gan y creadigrwydd, y dadansoddi, yr arloesedd a’r uchelgais gafodd ei rhannu gan yr ymgeiswyr, yn ogystal ag ehangder y ffurfiau ar gelfyddyd, y straeon, y cysyniadau a’r syniadau a gynigiwyd. Digon yw dweud bod canran uchel iawn o’r gweithiau wnaeth ddim llwyddo i fynd drwodd i gael cyllid yn weithiau rhagorol, ac mewn maes llai cystadleuol, byddent wedi bod yn fwy na chymwys i gael cyllid.
Felly beth wnaeth y gwahaniaeth?
Gan fod y cwestiynau a’r meini prawf yn wahanol ar gyfer pob un o’r tri math o gyllid oedd ar gael, rydyn ni wedi clystyru’r adborth o gwmpas yr haenau hynny.