Digwyddiadau

Diwrnod Ysbrydoliaeth: Celfyddydau Ymdrochol

12 Medi

Yn Bersonol

Diwrnod Ysbrydoliaeth: Celfyddydau Ymdrochol

Diwrnod Ysbrydoliaeth: Celfyddydau Ymdrochol

Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Ysbrydoliaeth a darganfyddwch mwy am Gelfyddydau Ymdrochol

Hoffech chi archwilio technolegau ymdrochol o fewn eich ymarfer creadigol? Ydych chi’n meddwl neud cais i rownd cyllido 2025 Celfyddydau Ymdrochol? Ymunwch â ni ar ddiwrnod ysbrydoliaeth wedi’i gynllunio i ddatgamylu’r maes a dangos sut y gall offer a thechnegauymdrochol gyfoethogi eich gwaith.

Ar gyfer pwy mae’r Diwrnod Ysbrydoliaeth hwn?

Rydym yn croesawu artistiaid o bob cefndir, pob ffurf gelfyddydol ac unrhyw gam yn eu gyrfa. Mae’r diwrnod yn gyfle i archwilio sut y gall technolegau ymdrochol sbarduno cyfeiriadau newydd yn eich ymarfer creadigol, gyda chyflwyniad i offer, technegau a chyfleoedd. Byddwch hefyd yn clywed gan ein tîm a rhai o’r artistiaid sy’n derbyn cyllid ar hyn o bryd drwy’r rhaglen. Os ydych chi’n newydd i waith ymdrochol, mae’r digwyddiad hwn yn arbennig i chi.

Am Celfyddydau Ymdrochol

Rhaglen ariannu a chefnogi yw Celfyddydau Ymdrochol a lansiwyd yn 2024 ar gyfer artistiaid sy’n byw yn y DU. Mae’n helpu artistiaid i ddatblygu eu gwaith gan ddefnyddio technolegau ymdrochol drwy raglen gynhwysol a hygyrch o ariannu, hyfforddiant, ymchwil a digwyddiadau. Ers Hydref 2024, mae Celfyddydau Ymdrochol wedi cynnig cyfle i artistiaid yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon gael mynediad at gymuned fywiog o gymheiriaid, hyfforddiant, mentora a chyllid hollbwysig.

Cwrdd â'n tîm

Allie John

Allie John

Cynhyrchydd dros Gymru (hi)

Wedi’i leoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae Allie yn gyd-sylfaenydd Yello Brick, sy’n creu digwyddiadau a phrofiadau digidol arobryn ers 14 mlynedd. Gyda chefndir mewn theatr, technoleg ddigidol, marchnata a chynhyrchu, mae hi wedi gweithio ar Bordergame (National Theatre Wales), Rescape Innovation (VR ar gyfer y GIG), a The Culture Group, gan reoli prosiectau Google gyda digwyddiadau corfforol ac allbynnau digidol.

Lisa Heledd Jones

Lisa Heledd Jones

Cynhyrchydd dros Gymru (hi)

Wedi’i lleoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae Lisa yn gynhyrchydd, artist ac yn guradur sy’n archwilio adrodd straeon digidol, technolegau ymdrochol ac ymgysylltu cymunedol. Mae wedi gweithio i sefydliadau megis y BBC, Prifysgol De Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ogystal â chydweithio â nifer o unigolion sydd wedi dylanwadu ar ei gwaith a’i syniadau.

Orange outline illustration of character with two long legs and a cloudlike head with orange dots for eyes.