Amdanon ni
Rhaglen uchelgeisiol sy’n cael ei chynnal ar draws gwledydd Prydain dros gyfnod o dair blynedd yw Celfyddydau Ymdrochol, sy’n defnyddio dull sy’n cael ei arwain gan artistiaid er mwyn gweithio gyda thechnolegau ymdrochol.
Y prosiect
Mae’r rhaglen gyffrous yma’n annog artistiaid o bob cefndir a phrofiad i archwilio, arbrofi neu estyn sut maen nhw’n gweithio, neu sut hoffen nhw weithio, gyda thechnolegau ymdrochol.
OND BETH MAE HYN YN EI OLYGU?
Mae celfyddydau ymdrochol yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ond rydyn ni’n ei ddiffinio fel creu celf gyda thechnoleg er mwyn cynnwys y gynulleidfa.
Hynny yw, realiti rhithwir, ymestynnol ac estynedig:
- anelu at sawl synnwyr
- pontio’r bylchau rhwng gofodau ffisegol a digidol
- cysylltu pobl â’i gilydd a’r amgylchedd
- newid y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn creu.
- Does dim rhaid i chi fod yn feistr ar dechnoleg (er y gallwch fod) er mwyn gwneud cais. Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw meddwl chwilfrydig ac ymarfer creadigol. Yna, drwy gymysgedd o gyllid, hyfforddiant, ymchwil a digwyddiadau, bydd rhaglen Celfyddydau Ymdrochol yn eich cefnogi chi i ddarganfod beth a sut rydych chi eisiau ei ddatblygu a’i greu.
YN Y BÔN
Y nod yw chwalu rhwystrau, gan wneud maes sy’n gallu bod yn eitha caeedig yn llawer mwy hygyrch. Yn hynny o beth, rydyn ni eisiau rhoi sylw i gymaint ag y gallwn ni o wahanol leisiau, er mwyn helpu i darfu ar ffyrdd sefydledig o fodoli, gwneud, meddwl a chreu.
Bwriad Celfyddydau Ymdrochol yw bod yn brosiect cydweithredol iawn – rydyn ni am ddysgu gyda chi. Bydd ein hymchwil yn rhannu gwybodaeth am beth sy’n gweithio orau i’r sector celfyddydau ymdrochol. Ac yn helpu i greu cyfleoedd i artistiaid a chynulleidfaoedd o bob cefndir i ddefnyddio technoleg ymdrochol mewn ffyrdd newydd a chreadigol.
Rydyn ni eisiau chwarae mewn byd sy’n rhyfeddol ac yn rhyfedd.
Byddwn yn ymddiried mewn artistiaid i gymryd risgiau ac i roi cynnig ar bethau nad ydyn nhw erioed wedi’u gwneud o’r blaen.
Rydyn ni eisiau sector celfyddydol sy’n fwy teg.
Byddwn yn dyrannu adnoddau i gynyddu tegwch, gan gadw cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder hinsawdd yn flaenllaw wrth i ni wneud penderfyniadau.
Rydyn ni eisiau i artistiaid ffynnu.
Byddwn yn cefnogi artistiaid i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol ag offer a thechnolegau’r oes.
Rydyn ni eisiau i fwy o bobl gael profi celfyddydau gwych.
Byddwn yn annog artistiaid i feddwl yn ofalus am eu cynulleidfaoedd, gan ystyried hygyrchedd a chynhwysiant a defnyddio technoleg yn fwriadus.
Rydyn ni am fod yn rhan o amgylchedd diwylliannol llewyrchus.
Byddwn yn meddwl y tu hwnt i ymylon y prosiect yma, gan rannu ein gwybodaeth a dysgu gan eraill.
Fyddwn ni ddim yn cael pethau’n iawn bob amser, a fyddwn ni ddim yn amddiffynnol pan fyddwn ni’n gwneud camgymeriadau – rydyn ni eisiau i bobl ddweud wrthon ni pan fyddwn ni’n cael pethau’n anghywir er mwyn i ni allu gwella.
Cwrdd â'n tîm cynhyrchu
Mae ein tîm cynhyrchu hefyd yn weithwyr ymchwil gweithredol, yn gweithio’n agos gyda chymuned yr artistiaid ym mhob un o’r pedair gwlad i ddeall, cefnogi ac eirioli dros newid yn y sector. Maent yn cydweithio â’r tîm ymchwil, dan arweiniad ein Cyfarwyddwr ac Ymchwilydd Penodol, Verity McIntosh.
Cwrdd â'n Tîm Rheoli
Mae ein tîm rheoli yn dod o’n consortiwm o bartneriaid. Maent yn cyfarfod yn rheolaidd i wneud penderfyniadau strategol am y prosiect cyfan, cyfrannu at weithrediadau a chefnogi’r timau cynhyrchu ac ymchwil yn eu gwaith gyda’r artistiaid.
Dewch i gwrdd â'n Tîm Ymchwil
Mae gan ein bwrdd cynghori gyfoeth o brofiad, mewnwelediad a chefnogaeth ym maes y celfyddydau ymdrochol, y gallwn dynnu arnynt ar draws eu rhwydweithiau yn y DU ac yn rhyngwladol. Maent yn darparu arweiniad arbenigol i’n helpu i lywio heriau.
Cyfarfod â'n Bwrdd Cynghori
Partneriaid a chyllidwyr
Mae rhaglen Celfyddydau Ymdrochol yn cael ei chynnal gan gonsortiwm cydweithredol o ddeg partner sydd wedi’u gwreiddio yng nghymunedau ymchwil a chelfyddydau ymdrochol gwledydd Prydain, ac sydd wedi ymrwymo i greu newid cadarnhaol yn y sector.
Chyllidwyr
Darperir cyllid ar gyfer rhaglen Celfyddydau Ymdrochol drwy gywaith rhwng Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (yr AHRC), Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon. Darperir cyllid o Gyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon gan y Loteri Genedlaethol.