Arbrofi

Ydych chi’n barod i roi hwb i’ch syniadau a rhoi cynnig ar eich gwaith gyda chynulleidfa?

Gwnewch gais am £20,000 a chael mynediad at weithdai pwrpasol a chefnogaeth i arbrofi gyda syniad neu ddatblygu prosiect.

A scribbly blue character with white eyes and one spring like foot jumps out of a small blue hole.

Yn addas ar gyfer…

Nod ffrwd Arbrofi yw helpu artistiaid i:

  • greu gweithiau arbrofol, profion cysyniad neu brototeipiau i’w profi gyda chynulleidfaoedd bach
  • arbrofi gyda thechnoleg ymdrochol mewn ffordd sy’n datblygu eu hymarfer
  • ystyried hygyrchedd, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n berthnasol i’w prosiect
A blue spring like character with one spring like leg and a question mark over its head peers across to the right of the screen.

Ffocws

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cymorth am hyd at naw mis
(h.y. am hyd eu prosiectau) gyda:

  • hyfforddiant drwy’n Labordai Datblygu (a drefnir gan Crossover Labs) ar ddatblygu syniadau, profiad y defnyddiwr, dylunio a strategaeth cynulleidfa
  • cyfleoedd i brofi a mireinio prototeipiau gyda chynulleidfaoedd bach
A big round blue blurry character with white eyes peers across to the left of the screen.

Llinell Amser

  • 30 Medi 2025 Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
  • Ionawr 2026 Hysbysu ymgeiswyr
  • Chwef - Tach 2026 Prosiectau Arbrofi’n cael eu cynnal

Pam gwneud cais am Arbrofi?

Gallech ddefnyddio’r cyllid ar gyfer:

  • cynllunio, ymchwilio a datblygu prosiect celfyddydau ymdrochol newydd
  • mynychu preswyliadau, digwyddiadau a gweithdai perthnasol
  • cael hyfforddiant a ffurfiau eraill o gefnogaeth
  • prynu deunyddiau, trwyddedau meddalwedd ac offer technegol eraill
  • talu artistiaid, technolegwyr a chydweithwyr eraill
  • llogi stiwdios, mannau ymarfer, arddangosfeydd neu ddigwyddiadau
  • ymchwilio i opsiynau hygyrchedd ar gyfer anghenion mynediad cynulleidfaoedd
  • gwneud profion cynulleidfa/defnyddiwr yn fwy hygyrch, amrywiol a chynhwysol (e.e. drwy dalu am gyfieithu BSL, fformatau hygyrch, is-deitlau ac ati)
  • marchnata’ch prosiect i gynulleidfaoedd neu ddefnyddwyr prawf

Gweler ein canllawiau cyllido isod am fanylion llawn o’r costau cymwys.

 

nghyd â’r cyllid, rydym yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth bwrpasol:

  • Labordai Datblygu (gweler y canllawiau am ragor o wybodaeth)
  • 3 x cyfarfod gyda Chynhyrchydd Celfyddydau Ymdrochol

Rhwydwaith cyfoedion wedi’i hwyluso
Digwyddiadau a chyfleoedd cenedl-benodol

Cymhwyster Arbrofi

Rydych chi’n gymwys i wneud cais am gyllid Arbrofi os ydych chi:

  • yn artist unigol, ymarferydd creadigol neu dechnolegydd creadigol
    (neu)
  • yn gwneud cais ar ran sefydliad sy’n seiliedig ar y celfyddydau, grŵp bach neu gasgliad (10 person neu lai)

ac os ydych chi hefyd:

  • yn byw yn y DU
  • yn 18 oed neu’n hŷn
  • yn meddu ar gyfrif banc yn y DU yn eich enw eich hun
  • gyda chais sy’n cael ei arwain gan artist ac/neu wedi’i chanolbwyntio ar y celfyddydau
  • gyda chynnig sy’n cynnwys creu prototeip neu brofi gwaith celf ymdrochol sy’n defnyddio technoleg i gynnwys y gynulleidfa’n weithredol (dyma’n diffiniad ni o gelfyddyd ymdrochol)
  • yn gwneud cais am y swm llawn
  • gyda’ch cyllideb yn cynnwys taliad am eich amser a’r rhai sy’n ymwneud â’r prosiect, ac heb gynnwys unrhyw gostau anghymwys (gweler ein canllawiau am ragor o fanylion)

Mae artistiaid cymwys yn gallu cyflwyno un cais yn unig yn y rownd hon o gyllid — i Archwilio, Arbrofi neu Ehangu. Gallwch wneud cais yn y rownd hon hyd yn oed os gwnaethoch chi wneud cais mewn rownd flaenorol.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais drwy sain, fideo neu destun — yn Gymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain — gan ddefnyddio ein porth cais ar-lein.

Mae ein canllawiau cyllido ar gael i’w lawrlwytho isod yn y ffurfiau canlynol: Cymraeg, Saesneg, print bras, Darllen Hawdd, Iaith Arwyddion Prydain ac sain.

Pryd i wneud cais

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun 29 Medi 2025 am 14:00.

Cefnogaeth mynediad ar gyfer eich cais

Mewn rhai achosion, gallwn eich helpu gyda’ch cais drwy gyfrannu at gostau mynediad fel gweithwyr cymorth neu gyfieithwyr. Y dyddiad cau i ofyn am gefnogaeth mynediad yw Dydd Llun 1 Medi 2025 am 17:00.


Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gefnogaeth mynediad a sut i gysylltu â ni ar ein tudalen cefnogaeth mynediad.

Cwestiynau?

Ffrydiau cyllido eraill

Mae tair ffrwd wahanol o gyllid:


Archwilio (£5,000)
Arbrofi (£20,000)
Ehangu (£50,000)

Gallwch ddarganfod mwy ar ein tudalen Cyllid.

 

Ddim yn siŵr pa ffrwd sy’n iawn i chi?