Arbrofi

Ydych chi’n barod i roi eich syniadau ar waith a phrofi eich darn gyda chynulleidfa?

Gwnewch gais am £20,000 a chael mynediad at weithdai a chymorth wedi’u teilwra i arbrofi gyda syniad neu ddatblygu prosiect.

YN DDELFRYDOL AR GYFER...

Nod y ffrwd ariannu Arbrofi yw cefnogi artistiaid:

  • i greu gweithiau arbrofol, profion o gysyniad neu brototeipiau i’w profi gyda chynulleidfaoedd bach
  • i arbrofi gyda thechnoleg ymdrochol mewn ffordd sy’n datblygu eu hymarfer
    • i ystyried materion hygyrchedd, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n berthnasol i’w prosiect.

 

FFOCWS

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi am hyd at naw mis (h.y. am gyfnod eu prosiectau) gyda:

  • hyfforddiant drwy ein Labordai Datblygu (sy’n cael eu cynnal gan Crossover Labs), a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu syniadau, profiad y defnyddiwr, ymagwedd a strategaeth cynulleidfa
    • cyfleoedd i brofi a mireinio prototeipiau gyda chynulleidfaoedd bach.

 

Amserlenni

  • 2 Rhagfyr 2024 Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau rownd un
  • Chwefror 2025 Cyhoeddi enwau’r artistiaid buddugol
  • Mawrth – Tachwedd 2025 Prosiectau’n digwydd

Dysgwch fwy yng nghanllawiau Celfyddydau Ymdrochol ac yna dechreuwch eich cais.

Pam gwneud cais?

Ydych chi’n artist sydd â meddwl chwilfrydig ac sydd am wthio terfynau eich ymarfer? Rydyn ni’n gobeithio mai dyna pam eich bod chi’n darllen hwn, a pham y byddwch chi’n gwneud cais.

Gallech chi ddefnyddio’r cyllid ar gyfer:

  • cynllunio, ymchwilio a datblygu, neu gynnal prosiect celfyddydau ymdrochol newydd
  • mynychu cyrsiau preswyl, digwyddiadau a gweithdai perthnasol
  • cael mynediad at hyfforddiant a mathau eraill o gymorth
  • prynu deunyddiau, trwyddedau meddalwedd ac offer technegol eraill
  • talu artistiaid, technolegwyr a chydweithwyr eraill
  • llogi gofod stiwdio neu ofod ar gyfer ymarfer, arddangos neu gynnal digwyddiadau
  • ymchwilio ac integreiddio opsiynau ar gyfer anghenion hygyrchedd cynulleidfaoedd
  • gwneud profion cynulleidfa neu arddangosfeydd yn fwy hygyrch, amrywiol a chynhwysol (drwy, er enghraifft, dalu am ddehonglwyr BSL, fformatau hygyrch, capsiynau, ac ati)
  • marchnata eich prosiect a datblygu eich cynulleidfa (Estyn ac Arbrofi yn unig)
  • Gweler canllawiau Celfyddydau Ymdrochol am ddadansoddiad llawn o gostau cymwys.

Gweler canllawiau Celfyddydau Ymdrochol am ddadansoddiad llawn o gostau cymwys.

Pwy sy’n gymwys

Rydych chi’n gymwys i wneud cais am grant Celfyddydau Ymdrochol:

  • os ydych chi’n artist unigol, yn ymarferydd creadigol neu’n dechnolegydd creadigol
  • os ydych chi’n sefydliad celfyddydol, yn grŵp bach neu’n gasgleb (deg o bobl neu lai ar gyfer Arbrofi ac Archwilio, hyd at 50 o bobl ar gyfer Estyn)
  • os ydych chi’n byw yng ngwledydd Prydain
  • os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn
  • os oes gennych gyfrif banc yng ngwledydd Prydain yn eich enw eich hunan.

 

Ewch i’n cyfrif Youtube i wylio ein Gweminar Ariannu a Diwrnod Ysbrydoliaeth yn ôl.

Cyfeiriwch at ganllawiau Celfyddydau Ymdrochol i gael rhagor o wybodaeth.

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais

I wneud cais am grant, bydd angen i chi greu cyfrif yn ein porth ymgeisio. Rydyn ni’n argymell darllen y canllaw cam wrth gam yma cyn i chi ddechrau eich cais.

Gwnewch gais nawr i:

  • Archwilio
  • Arbrofi
  • Estyn

Dylech wneud cais am y swm llawn a nodir ar gyfer pob ffrwd.

Pryd i wneud cais

Mae’r rownd gyntaf o gyllid ar agor tan ganol dydd, dydd Llun 2 Rhagfyr 2024.

Bydd ymgeiswyr Archwilio ac Arbrofi yn cael eu hysbysu ym mis Chwefror 2025.

Byddwn yn cysylltu ag unrhyw un sy’n gwneud cais ar gyfer Estyn ym mis Ionawr 2025, pan fydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Bydd rowndiau dau a thri yn agor yn 2025 a 2026.

Gwnewch gais nawr i Archwilio, Arbrofi neu Estyn.

Lorem ipsum odor amet

Lorem ipsum odor amet, consectetuer adipiscing elit. Risus posuere at dignissim pretium nam scelerisque senectus accumsan, tempus sapien tempus ex vel ullamcorper facilisis fusce venenatis venenatis tincidunt scelerisque aenean euismod urna primis nascetur magnis tempor id feugiat dignissim erat aptent arcu a placerat fames placerat magna a nam?

Gofyn am gymorth hygyrchedd ar gyfer ceisiadau

Os oes angen y wybodaeth yma arnoch chi mewn unrhyw fformat arall, os oes angen cymorth hygyrchedd arnoch i wneud cais, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am hygyrchedd, anfonwch e-bost aton ni neu ffoniwch neu anfonwch neges destun ar 07926699909.

Sylwch mai dim ond yn ystod oriau gwaith y bydd rhywun ar gael i ateb y ffôn – sef 10am-4pm – felly os byddwch chi’n ffonio y tu allan i’r oriau hynny, gadewch neges ac fe wnaiff rhywun eich ffonio’n ôl.

Y dyddiad cau ar gyfer cymorth hygyrchedd yw 11 Tachwedd 2024, sef pedair wythnos cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sy’n rhoi ychydig o amser i ni i sicrhau eich bod chi’n gallu cael y cymorth sydd ei angen arnoch.

Cymorth hygyrchedd ar gyfer prosiectau sy’n cael eu hariannu

Gallwn ddarparu cyllid ychwanegol i ymgeiswyr llwyddiannus i gefnogi ystod o ofynion hygyrchedd (er enghraifft, talu gweithiwr cymorth, sgrifellwr neu ddehonglydd iaith arwyddion).

Gellir addasu cymorth mentora a hyfforddi sy’n cael ei gynnig ochr yn ochr â’r cyllid ar gyfer y rhai sydd â gofynion hygyrchedd a/neu ddyletswyddau gofalu.

Er enghraifft, bydd gan y Labordai Datblygu sy’n cael eu cynnal gan Crossover Labs fel rhan o’r dyfarniadau Arbrofi dri opsiwn amgen, hyblyg:

  • Preswyl – un wythnos (pum diwrnod).
  • Ar-lein – pum diwrnod wedi’u gwasgaru dros bum wythnos.
  • Llwybr hamddenol – deg hanner diwrnod dros gyfnod hirach mewn ymateb i bob carfan, gydag opsiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Cysylltwch â ni i ddysgu mwy.

Ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin yma

Submission Checklist

  • Risus posuere at dignissim pretium nam scelerisque senectus accumsan, tempus sapien
  • Risus posuere at dignissim pretium nam scelerisque senectus accumsan, tempus sapien
  • Risus posuere at dignissim pretium nam scelerisque senectus accumsan, tempus sapien
  • Risus posuere at dignissim pretium nam scelerisque senectus accumsan, tempus sapien