Estyn
Pam gwneud cais am Ehangu?
Gallech ddefnyddio’r cyllid ar gyfer:
- cynllunio, ymchwilio a datblygu — neu gyflwyno — prosiect celfyddydau ymdrochol
- mynychu preswyliadau, digwyddiadau a gweithdai perthnasol
- cael hyfforddiant a ffurfiau eraill o gefnogaeth
- prynu deunyddiau, trwyddedau meddalwedd ac offer technegol eraill
- talu artistiaid, technolegwyr a chydweithwyr eraill
- llogi stiwdios, mannau ymarfer, arddangosfeydd neu ddigwyddiadau
- ymchwilio ac ymgorffori opsiynau hygyrchedd ar gyfer anghenion mynediad cynulleidfaoedd
- gwneud digwyddiadau neu arddangosfeydd yn fwy hygyrch, amrywiol a chynhwysol (e.e. drwy dalu am gyfieithu BSL, fformatau hygyrch, is-deitlau ac ati)
- marchnata’ch prosiect a datblygu’ch cynulleidfa
Gweler ein canllawiau cyllido isod am fanylion llawn o’r costau cymwys.
Ynghyd â’r cyllid, rydym yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth bwrpasol:
- Mentora wedi’i deilwra gan Crossover Labs
- 3 x cyfarfod gyda Chynhyrchydd Celfyddydau Ymdrochol
- Rhwydwaith cyfoedion wedi’i hwyluso
- Digwyddiadau a chyfleoedd cenedl-benodol
Cymhwyster Ehangu
Rydych chi’n gymwys i wneud cais am gyllid Ehangu os ydych chi:
- yn artist unigol, ymarferydd creadigol neu dechnolegydd creadigol
(neu) - yn gwneud cais ar ran sefydliad sy’n seiliedig ar y celfyddydau, grŵp bach neu gasgliad (10 person neu lai)
- yn byw yn y DU
- yn 18 oed neu’n hŷn
- yn meddu ar gyfrif banc yn y DU yn eich enw eich hun
- gyda chais sy’n cael ei arwain gan artist ac/neu wedi’i chanolbwyntio ar y celfyddydau ac sy’n defnyddio technoleg i gynnwys y gynulleidfa’n weithredol (dyma’n diffiniad ni o gelfyddyd ymdrochol)
- gyda phrosiect ar y gweill / prototeip / prawf cysyniad sydd eisoes wedi’i brofi (gan gynnwys yn anffurfiol) gyda chynulleidfaoedd neu ddefnyddwyr
- yn gwneud cais am y swm llawn
- gyda’ch cyllideb yn cynnwys taliad am eich amser a’r rhai sy’n ymwneud â’r prosiect, ac heb gynnwys unrhyw gostau anghymwys
Darllenwch ein canllawiau am ragor o fanylion.
Mae artistiaid cymwys yn gallu cyflwyno un cais yn unig yn y rownd hon o gyllid — i Archwilio, Arbrofi neu Ehangu. Gallwch wneud cais yn y rownd hon hyd yn oed os gwnaethoch chi wneud cais mewn rownd flaenorol.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais drwy sain, fideo neu destun — yn Gymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain — gan ddefnyddio ein porth cais ar-lein.
Mae ein canllawiau cyllido ar gael i’w lawrlwytho isod yn y ffurfiau canlynol: Cymraeg, Saesneg, print bras, Darllen Hawdd, Iaith Arwyddion Prydain ac sain.
Pryd i wneud cais
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun 29 Medi 2025 am 14:00.
Cefnogaeth mynediad ar gyfer eich cais
Mewn rhai achosion, gallwn eich helpu gyda’ch cais drwy gyfrannu at gostau mynediad (e.e. gweithwyr cymorth neu gyfieithwyr).
Y dyddiad cau i ofyn am gefnogaeth mynediad yw Dydd Llun 1 Medi 2025 am 17:00.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gefnogaeth mynediad a sut i gysylltu â ni ar ein tudalen cefnogaeth mynediad.
Canllawiau Cyllido
- Canllawiau Cyllido Lawrlwytho’r canllawiau
- Canllawiau Cyllido – Print Bras Lawrlwytho’r canllawiau
- Canllawiau Cyllido – Fersiwn Hawdd i’w Ddarllen Lawrlwytho’r canllawiau
- Canllawiau Cyllido – Fersiwn Sain
- Gwrando nawr
Canllawiau Cais
- Canllaw cam-wrth-gam i’r porth cais Lawrlwytho’r canllawiau
- Rhagolwg o ffurflen gais Archwilio (PDF) Lawrlwytho’r canllawiau
- Rhagolwg o ffurflen gais Archwilio (Word) Lawrlwytho’r canllawiau
Cwestiynau?
Ffrydiau cyllido eraill
Mae tair ffrwd wahanol o gyllid:
Archwilio (£5,000)
Arbrofi (£20,000)
Ehangu (£50,000)
Gallwch ddarganfod mwy ar ein tudalen Cyllid.
Ddim yn siŵr pa ffrwd sy’n iawn i chi?