Digwyddiadau

Y Peth Mawr

09 Mehefin

Yn Bersonol

Y Peth Mawr

Y Peth Mawr

Y Peth Mawr yw ein cynulliad blynyddol, lle gall y gymuned gelf ymdrochol — ar unrhyw adeg ar eu taith — ddod ynghyd i gysylltu, sbarduno syniadau newydd, a gwthio ffiniau eu gwaith.

Bydd Y Peth Mawr yn dod ag artistiaid, cynhyrchwyr, technolegwyr, ymchwilwyr a’r ecosystem ehangach o leoliadau, dosbarthwyr, curaduron a chyllidwyr o wledydd Prydain, a thu hwnt, ynghyd.

Gan gynnig gweithdai ymarferol, areithiau i’n hysbrydoli, trafodaethau panel i ysgogi’r meddwl, a llawer mwy.

9 – 11 Mehefin

Bradford Dinas Diwylliant y DU 2025

Ymunwch â ni yn Bradford

Mae’n digwyddiad blynyddol cyntaf ni, Y Peth Mawr yn dod ag artistiaid, pobl greadigol, ymchwilwyr a thechnolegwyr ynghyd o bob rhan o wledydd Prydain a thu hwnt sydd eisiau siapio dyfodol celf ymdrochol.

Dros 3 diwrnod yn Bradford, cewch y cyfle i gysylltu, cael eich ysbrydoli ac esblygu eich gwaith.

Archebwch Tocynnau Cyw Cynnar

Caiff yr Amserlen lawn ei rhyddhau ar 24 Ebrill 2025

Digwyddiadur

Beth i’w ddisgwyl:

  • Sgyrsiau ysbrydoledig
  • Trafodaethau panel sy’n ysgogi’r meddwl
  • Gweithdai ymarferol
  • Profiadau ymdrochol
  • Perfformiadau byw

Cynulliadau artistiaid

A coral background that says,' Immersive Arts...?' with an explanation on what immersive arts is, Verity Mcingtosh, Director stands in front of it.

Archebwch nawr!

Mae’r tocynnau nawr ar werth

Mae’r tocynnau cyw cynnar ar werth tan ddydd Gwener 21 Ebrill 2025. Bydd yr amserlen lawn, fydd yn cynnwys manylion am yr hyn i’w ddisgwyl ar gyfer pob sesiwn, yn fyw ar 24 Ebrill 2025.

Mae’r Peth Mawr yn ofod lle bydd syniadau’n cael eu sbarduno, cyweithiau’n tanio, a dyfodol celf ymdrochol yn cael ei siapio.

Meithrin cymuned

Un o’n nodau ar gyfer y Celfyddydau Ymdrochol yw adeiladu cymuned gelfyddydau ymdrochol fwy cysylltiedig, cynhwysol a hygyrch ar draws gwledydd Prydain ac mae’r Peth Mawr wedi’i greu i wneud hynny.

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer pawb sy’n siapio dyfodol celf ymdrochol. Boed yn newydd-ddyfodiad neu’n artist, cynhyrchydd neu dechnolegydd sefydledig, mae’r Peth Mawr ar eich cyfer chi!

Gwybodaeth Hygyrchedd

1. Beth i'w ddisgwyl

Beth i'w ddisgwyl

Mae’r Peth Mawr yn ddigwyddiad dros sawl diwrnod sy’n dod â chymuned y celfyddydau ymdrochol o bob rhan o wledydd Prydain ynghyd i gysylltu, cydweithio a chael eu hysbrydoli. Bydd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth ddeinamig o ran fformat y sesiynau h.y. sgyrsiau, trafodaethau panel, gweithdai, perfformiadau a digwyddiadau cymdeithasol.

Drwy gydol y digwyddiad bydd cyfle i chi gwrdd â phobl greadigol eraill, artistiaid, ochr yn ochr ag ymchwilwyr academaidd, newyddiadurwyr a chynrychiolwyr o leoliadau fel orielau a theatrau, sefydliadau celfyddydol, asiantaethau a grwpiau cymunedol. Mae’r rhaglen wedi’i chreu ar gyfer lefelau amrywiol o gynefindra â’r celfyddydau ymdrochol, o’r rhai sy’n archwilio’r ffurf am y tro cyntaf, i’r rhai mwy profiadol.

2. Dyddiadau ac Amseroedd

Dyddiadau ac Amseroedd

Bydd Y Peth Mawr yn cael ei gynnal rhwng dydd Llun 9 Mehefin a dydd Mercher 11 Mehefin 2025. Cynhelir y prif weithgareddau ar 10 ac 11 Mehefin, gyda digwyddiad cynhesu gyda’r nos ar 9 Mehefin.

9 Mehefin – Cysylltu
18:00 i 21:00

Noson agoriadol o gymdeithasu a cherddoriaeth fyw mewn partneriaeth ag UKBlackTech a Diwydiant Ffonograffig Prydain

10 Mehefin – Ysbrydoli
11:00 i 18:00 – Prif areithiau, sgyrsiau, paneli a digwyddiadau cymdeithasol

18:00 i 00:00 – Cymdeithasu dros fwyd a diod, cerddoriaeth fyw a dawnsio

11 Mehefin – Esblygu

10:00 i 17:00 – Trafodaethau, byrddau crwn, gweithdai, sgyrsiau a digwyddiadau cymdeithasol

17:00 i 20:00 – Sylwadau cloi, cymdeithasu dros fwyd a diod

Bydd yr amserlen lawn gan gynnwys manylion am yr hyn sydd i’w ddisgwyl ar gyfer pob sesiwn, yn fyw ar 24 Ebrill.

3. Tocynnau

3. Tocynnau

Gellir prynu tocynnau yn uniongyrchol o’n tudalen docynnau ar: EVENTIVE

Er mwyn prynu tocyn bydd gofyn i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Eventive. Bydd y cyfrif hwn yn caniatáu ichi gadw amserlen ac archebu lle ar gyfer sesiynau lle mae nifer cyfyngedig o leoedd.

Mae dwy haen o docynnau ar gael i leihau rhwystrau ariannol rhag mynychu, sef y Tocyn Llawn a Thocyn Cyfradd Is. Mae’r ddau docyn yn rhoi mynediad cyfartal i bob sesiwn a gweithdy. Mae’r Peth Mawr yn ddigwyddiad nid-er-elw, a bydd yr holl incwm a godir drwy werthu tocynnau yn mynd yn syth yn ôl i gost y digwyddiad a chefnogi eraill i fynychu.

Y Tocyn Llawn

Mae hwn ar gyfer unigolion a sefydliadau sydd â’r modd i dalu’r gyfradd safonol, gan helpu i gynnal Y Peth Mawr a’i gadw’n hygyrch.

Arferol: £140

 Cyw Cynnar: £100

(Daw gwerthiant tocynnau cyw cynnar i ben ddydd Gwener 21 Ebrill)

Y Tocyn Cyfradd Is

Mae hwn ar gyfer unigolion ar incwm is na fyddent o bosibl yn gallu mynychu fel arall.

Arferol: £60

Cyw Cynnar: £50

(Daw gwerthiant tocynnau cyw cynnar i ben ddydd Gwener 21 Ebrill)

Bwrsariaethau

Bydd nifer cyfyngedig o fwrsariaethau ar gael i gefnogi artistiaid i fynychu’r Peth Mawr pan fo costau teithio, llety a thocyn yn rhwystr iddynt fynychu.

Find our more and apply here.

Ad-daliadau a throsglwyddiadau

Yn anffodus, er mwyn cadw’r Peth Mawr mor fforddiadwy â phosibl, ni allwn gynnig ad-daliadau.

Gallwch drosglwyddo tocyn rydych wedi’i brynu drwy eich cyfrif Eventive:

  • I wneud hynny, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:
  • Mewngofnodwch i’ch cyfrif Eventive
  • Cliciwch ar ‘My Passes’ o’r ddewislen
  • Cliciwch ar y botwm ‘Manage’ wrth ymyl y tocyn yr hoffech ei drosglwyddo, yna cliciwch ar ‘Transfer pass’
  • Rhowch gyfeiriad e-bost y derbynnydd a chliciwch ‘Submit’
  • Bydd y derbynnydd yn derbyn e-bost sy’n cynnwys dolen sy’n caniatáu iddynt naill ai ychwanegu’r tocyn at eu cyfrif Eventive presennol neu greu cyfrif newydd os nad oes ganddynt un yn barod.
  • Unwaith y bydd y derbynnydd wedi derbyn y tocyn drwy e-bost, bydd y tocyn wedi’i drosglwyddo’n llwyddiannus.

Gofynion Hygyrchedd

Wrth archebu neu gofrestru am docyn, gofynnir i chi nodi eich ceisiadau hygyrchedd ar y ffurflen dalu. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer anghenion hygyrchedd

Darllenwch ein Datganiad Hygyrchedd – a’r darpariaethau Hygyrchedd a amlinellir ar gyfer pob digwyddiad – er mwyn deall beth i’w ddisgwyl gan y trefnwyr a gan y lleoliadau, trafnidiaeth a’r opsiynau llety.

Nodwch eich gwybodaeth hygyrchedd ar adeg prynu neu gofrestru eich tocyn fel y gallwn gynllunio sut orau i’ch cefnogi. Os nad yw hyn yn bosibl, dylai cynadleddwyr anfon unrhyw geisiadau at y trefnwyr drwy e-bost neu dros y ffôn erbyn dydd Llun 12 Mai. Bydd y manylion cyswllt hyn ar gael yn yr e-bost cadarnhau unwaith y bydd cynadleddwyr wedi prynu neu gofrestru eu tocyn.

Bwyd a diod

Mae eich tocyn cynadleddwr yn cynnwys cinio bwffe ysgafn ar 10 ac 11 Mehefin a swper bwffe ar 10 Mehefin.

 

Wrth brynu eich tocyn, cwblhewch y ffurflen gan nodi unrhyw ofynion dietegol fel y gallwn ddarparu ar eich cyfer. Bydd bwydlenni yn rhestru alergenau.

Bydd diodydd poeth a lluniaeth ar gael i’w prynu ger y lleoliadau canolog. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ble i fwyta ac yfed pan fyddwch yn Bradford ar wefan Bradford 2025.

Bydd derbyniadau a digwyddiadau cymdeithasol yn ystod Y Peth Mawr lle bydd diodydd alcoholig a di-alcohol yn cael eu gweini neu ar gael i’w prynu.

 

3. Cyrraedd Yma

Trên

Mae dwy orsaf reilffordd yn agos at y prif leoliadau: Cyfnewidfa Bradford (Bradford Interchange) (6 munud ar droed i Neuadd St George) a Bradford Forster Square (10 munud ar droed i Neuadd St George). Mae’r ddwy orsaf yma yn cysylltu â llawer o lefydd gan gynnwys Caerdydd, Caeredin a Llundain.

Mae gwybodaeth am Gyfnewidfa Bradford ar gael ar wefan National Rail. Mae ffotograffau a rhagor o wybodaeth am yr hygyrchedd ar AccessAble.

Mae gwybodaeth am orsaf Bradford Forster Square ar gael ar wefan National Rail. Mae ffotograffau a rhagor o wybodaeth am yr hygyrchedd yno ar AccessAble.

Car

Mae Bradford yn gweithredu Parth Aer Glân, felly os ydych chi’n gyrru i ganol y ddinas, gallwch wirio a oes angen i chi dalu ar wefan Cyngor Bradford.

Parcio i'r anabl o amgylch y lleoliadau canolog

Mae mannau parcio i bobl anabl yn agos at Neuadd St George a gwesty’r Great Victoria Hotel ar gyfer deiliaid Bathodynnau Glas ar gael gyferbyn â drysau ffrynt y Gwesty ar Drake Street.

Opsiynau parcio eraill

Mae rhestr o feysydd parcio’r Cyngor ar gael ar wefan Cyngor Bradford. Y meysydd parcio agosaf at y lleoliadau canolog yw Maes Parcio’r Llysoedd Barn (Law Courts Car Park) ar Vicar Lane (4 munud ar droed i Neuadd St George) neu Faes Parcio Broadway ar Hall Ings (2 funud ar droed i Neuadd St George).

Hedfan

Mae 3 maes awyr rhanbarthol ar gyfer Bradford:

Maes Awyr Leeds Bradford (LBA) sydd 6.5 milltir o’r ddinas ac mae’r bws yn cymryd ryw awr. Gellir archebu tocynnau drwy www.flyerbytransdev.palisis.com

Mae maes awyr Manceinion (MAN) 36.8 milltir i ffwrdd a gellir ei gyrraedd ar sawl trên ac mae’n cymryd tua 2 awr. Gellir archebu tocynnau drwy www.nationalrail.co.uk/journey-planner

Mae maes awyr Lerpwl (LPL) 55.5 milltir i ffwrdd ac yn cynnwys nifer o drenau a bysiau sy’n cymryd ychydig yn llai na 3 awr. Gellir archebu tocynnau drwy

www.nationalrail.co.uk/journey-planner

Bws

Mae bysiau yn cysylltu Bradford â threfi a dinasoedd gan gynnwys Llundain, Caerdydd a Chaeredin. Mae Gorsaf Fysiau Cyfnewidfa Bradford 6 munud ar droed o Neuadd St George. Gellir archebu tocynnau drwy wefan National Express. Mae gwybodaeth am bolisïau hygyrchedd a chod ymarfer National Express ar gael yma.

Tacsi

Mae sawl cwmni tacsi lleol ac apiau rhannu teithiau gan gynnwys Uber ar gael.

Mae gan dacsis Leap gerbydau hygyrch ac mae Uber Access and Assist ar gael yn Bradford.

Gall pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn modur neu sgwteri archebu cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn (WAV) drwy Uber os ydynt wedi’u cofrestru ymlaen llaw. Mae partneriaid-gyrwyr uberWAV wedi’u hardystio gan drydydd parti i yrru’n ddiogel a chynorthwyo pobl anabl. Mae gwybodaeth ar gael yma.

Beic

Mae raciau parcio beiciau ar gael ar Vicar Lane a ger Llys y Goron. Mae’r ddau le yma 4 munud ar droed o Neuadd St George.

4. Lleoliadau

Lleoliadau

Bydd Y Peth Mawr yn cael ei gynnal yn Bradford, Lloegr. Cynhelir y digwyddiad mewn lleoliadau o amgylch sgwâr Centenary Square, BD1 1SD, yng nghanol y ddinas. Mae pob lleoliad ryw bum i ddeg munud ar droed oddi wrth ei gilydd.

Y prif leoliadau ar gyfer The Big Thing fydd Neuadd St George (St George’s Hall) ar 10 Mehefin a gwesty’r Great Victoria Hotel ar 11 Mehefin.

Neuadd St George

Mae Neuadd St George yn lleoliad cyngerdd mawreddog o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg lle byddwn yn cynnal sgyrsiau, paneli a pherfformiadau ar 10 Mehefin.

 

Mae gan y lleoliad hwn fynediad heb risiau i’r lobi a’r bar, a lifft i lefel y seddau blaen. Mae 12 lle i gadeiriau olwyn yn Neuadd St George a thoiledau hygyrch i gadeiriau olwyn. Y tu allan i’r lleoliad, ar Drake Street, mae man gollwng gyda mynediad i’r ramp i lefel y seddau blaen. Ni all Neuadd St George ddarparu ar gyfer sgwteri a cherbydau eraill sydd wedi’u cynllunio i’w defnyddio yn yr awyr agored.

Bydd staff y lleoliad sydd wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf ar gael drwy gydol y dydd ac mae cadeiriau gwacáu adeilad yn eu lle ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Rhestrir rhywfaint o wybodaeth am hygyrchedd ar wefan Neuadd St George.

Gwesty'r Great Victoria Hotel

Gwesty rheilffordd Fictoraidd yw gwesty’r Great Victoria sydd wedi’i leoli’n gyfleus ar draws y ffordd o orsaf fysiau a threnau Cyfnewidfa Bradford. Bydd y gwesty yn cynnal sgyrsiau, paneli, gweithdai, sesiynau bord gron a chyfarfodydd ar 11 Mehefin.

 

Mae gan y Gwesty ramp i fyny at ei brif fynedfa, a mynediad heb risiau o Drake Street i mewn i ystafell Velasco. Yn y gwesty ei hun, mae mynediad heb risiau i’r holl ystafelloedd sy’n cael eu defnyddio ar gyfer ein digwyddiad ac i rai o’r ystafelloedd gwely (drwy lifft sy’n gweithio). Mae toiled hygyrch ar y llawr gwaelod. Bydd staff y lleoliad sydd wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf ar gael i gynorthwyo gwesteion.

Mae gwesty’r Great Victoria wedi’i restru ar AccessAble ac mae hyn yn cynnwys ffotograffau, gwybodaeth am fynediad at wahanol rannau o’r adeilad, toiledau hygyrch a gwybodaeth arall.

Neuadd y Ddinas Bradford

Mae’r adeilad hwn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda thŵr cloc nodedig yn Centenary Square. Yma cynhelir trafodaethau, cyfarfodydd a derbyniadau.

Mae’r lleoliad hwn wedi’i gofrestru ar wefan AccessAble ac mae’n cynnwys ffotograffau, manylion ystafelloedd a chyfleusterau.

Centenary Square

Y Sgwâr hwn yw canolbwynt nifer o leoliadau’r digwyddiad. Yn ystod Y Peth Mawr, rydyn ni’n gobeithio bydd yr haul yn gwenu fel y gallwn ni wneud cyflwyniadau, meithrin cysylltiadau a chymdeithasu yn y prif sgwâr yma.

Mae gwybodaeth am bwyntiau mynediad a pharcio wedi’i chynnwys yn y cofrestriad ar AccessAble.

Sunbridge Wells

Mae Sunbridge Wells yn gyfadeilad twnnel Fictoraidd sy’n cynnwys bariau, bwytai a siopau ac mae wedi’i leoli ychydig oddi ar Centenary Square. O fewn y twneli mae Wallers Brewery, bar a fydd yn croesawu cynadleddwyr y Peth Mawr ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol.

Rhestrir Sunbridge Wells ar AccessAble. Sylwch nad yw’r llawr yn wastad.

Impressions Gallery

Oriel ffotograffau a chanolfan yw Oriel Impressions sy’n cynnal gweithgareddau diwylliannol ac sydd yr ochr arall i Centenary Square o Neuadd y Ddinas. Bydd yr Oriel yn cynnal digwyddiad cymdeithasol fel rhan o’r Peth Mawr.

Mae Oriel Impressions wedi’i rhestru ar AccessAble. Mae tŷ bach hygyrch ar gael.

5. Llety

Llety

Mae nifer o westai i’w cael yn agos at leoliadau’r digwyddiad. Mae’r gwestai canlynol wedi neilltuo nifer o ystafelloedd i gynadleddwyr archebu’r rhain am bris gostyngol ar gyfer aros ar nosweithiau 9 a/neu 10 Mehefin.

Leonard Hotel Bradford

Leonard Hotel Bradford, 2 Thornton Road, Bradford, BD1 2DH

7 munud ar droed o Neuadd St George a 9 munud ar droed o orsaf reilffordd Cyfnewidfa Bradford.

Pris ystafelloedd dwbl gyda brecwast yw £75.

Mae nifer cyfyngedig o ystafelloedd hygyrch ar gael. (e.e. mynediad heb risiau, cawodydd rholio i mewn, bariau cydio).

Archebwch drwy eu gwefan a dilynwch y camau hyn:

  1. dewiswch ‘Leonardo Bradford Hotel’
  2. ychwanegwch ddyddiadau
  3. Dewiswch ystafell / oedolyn
  4. ychwanegwch y cod hyrwyddo: LHBRAD090625
  5. Cliciwch ar ‘search’

Holiday Inn Express

Holiday Inn Express, Vicar Lane, Bradford BD1 5LD

5 munud ar droed o Neuadd St George a 2 funud ar droed o orsaf reilffordd Cyfnewidfa Bradford.

Pris ystafelloedd dwbl gyda brecwast yw £70.

Nid oes ystafelloedd hygyrch yn y gwesty hwn.

Archebwch gan ddefnyddio’r ddolen hon i’w gwefan a dilynwch y camau hyn:

  1. Cliciwch ar y botwm gwyn ‘View Prices’ ar ochr dde uchaf y sgrin
  2. Ychwanegwch Ddyddiadau
  3. Dewiswch Ystafelloedd a Gwesteion
  4. Anwybyddwch y ddewislen Rate Preference. Does dim angen cod arnoch, bydd y ddolen yn cynhyrchu’r gyfradd ostyngol yn awtomatig.
  5. Cliciwch ar ‘View Prices’.

Mae yna westai eraill yn agos at y lleoliadau canolog. Nid oes ganddynt ystafelloedd wedi’u neilltuo ac ystafelloedd am bris gostyngol ar gyfer cynadleddwyr, ond mae ystafelloedd ar gael ganddynt (dyddiad gwirio, 17 Mawrth 2025).

Premier Inn Bradford Central Hotel

Premier Inn Bradford Central Hotel, Vicar Lane, Bradford, BD1 5LD

5 munud ar droed o Neuadd St George a 2 funud ar droed o orsaf reilffordd Cyfnewidfa Bradford.

Ystafelloedd dwbl ar gael o £52.

Mae gan y gwesty hwn rai ystafelloedd hygyrch a gellir cysylltu â nhw i drafod hyn trwy e-bost pi.accessible@whitbread.com neu ffoniwch 0333 091 9817.

Archebwch drwy eu gwefan neu dros y ffôn 0333 321 9237.

6. Gofynion Hygyrchedd

Gofynion Hygyrchedd

Wrth archebu neu gofrestru am docyn, gofynnir i chi nodi eich ceisiadau hygyrchedd ar y ffurflen dalu. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer anghenion hygyrchedd

Darllenwch yr adran Hygyrchedd isod i ddeall beth i’w ddisgwyl gan y trefnwyr a’r lleoliadau, cludiant a’r opsiynau llety.

Nodwch eich anghenion hygyrchedd ar adeg prynu neu gofrestru eich tocyn fel y gallwn gynllunio sut orau i’ch cefnogi. Os nad yw hyn yn bosibl, dylai cynadleddwyr anfon unrhyw geisiadau at y trefnwyr drwy e-bost neu dros y ffôn erbyn dydd Llun 12 Mai. Bydd y manylion cyswllt hyn ar gael yn yr e-bost cadarnhau unwaith y bydd cynadleddwyr wedi prynu neu gofrestru eu tocyn.

Toiledau Changing Places

Mae’r toiledau Changing Places (toiledau sy’n fwy na’r toiledau hygyrch safonol) agosaf i’r lleoliadau canolog wedi’u nodi isod ac mae rhagor o fanylion am ble i ddod o hyd iddynt yma.

Cefnogaeth mynediad

Bydd Cydlynydd Mynediad pwrpasol ar gael yn y lleoliadau canolog ar ddau ddiwrnod y digwyddiad. Bydd gwirfoddolwyr ar gael i gefnogi a thywys cynrychiolwyr rhwng gorsafoedd trenau neu fysiau, lleoliadau, mannau gollwng, neu westai cyfagos. Rhaid gofyn am y cymorth hwn ymlaen llaw erbyn dydd Llun 12 Mai.

Cŵn

Mae croeso i gŵn cymorth hyfforddedig. Bydd dŵr yn cael ei ddarparu ar gyfer cŵn. Bydd gwirfoddolwyr yn gallu eistedd gyda chŵn am gyfnodau cyfyngedig o amser os bydd angen, gofynnwch i’r Cydlynydd Mynediad am hyn yn y lleoliad.

Os oes gan gynadleddwyr alergedd at gŵn, dylent roi gwybod i ni ar y ffurflen gofynion mynediad wrth brynu eu tocyn. Yna gallwn gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y person hwnnw’n cael bach iawn o gyswllt, os o gwbl, â chŵn drwy sicrhau nad yw mannau yn y lleoliad yn cynnwys cŵn.

Deunydd print

Bydd deunydd print cyfyngedig ar gyfer y digwyddiad, ond gellir cynhyrchu fformatau amgen ar gais, gan gynnwys print bras, sain, braille a hawdd ei ddarllen. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am fformatau amgen yw dydd Llun 12 Mai.

Deunydd gweledol

Bydd cyflwyniadau sy’n sgrolio yn cael eu dangos ar wahanol adegau yn ystod y digwyddiad, gan gynnwys fideo a sain a fydd yn cynnwys capsiynau. Gofynnir i bob cyflwynydd ddisgrifio’r delweddau a ddefnyddiwyd ar ffurf sain a chrynhoi cynnwys gweledol y deunydd fideo a ddefnyddiwyd.

Gofod gorffwys

Bydd man gorffwys ar gael drwy gydol y digwyddiad. Dyma le i gymryd seibiant o’r digwyddiad a bydd offer i’ch helpu i ymlacio, gan gynnwys masgiau llygaid, clustffonau canslo sŵn, blancedi, teganau fidget, a mwy. Bydd gan y gofod gorffwys amrywiaeth o opsiynau i eistedd neu orwedd.

 

Digwyddiad hamddenol

Bydd agwedd ymlaciedig tuag at sŵn a symudiadau yn y digwyddiad ac mae rhyddid i bobl fynd a dod ym mhob sesiwn fel y mynnant. Cedwir y golau ymlaen yn isel yn yr awditoriwm er mwyn caniatáu symud yn hawdd a bydd sain yn ystod cyflwyniadau yn cael ei chadw ar lefel gyfforddus.

Yn ystod perfformiadau gyda’r nos efallai y bydd effeithiau goleuo a sŵn uchel ac fe nodir hyn yn yr eitem ar yr amserlen.

Dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Darperir dehongliad BSL ar gyfer y digwyddiadau llafar ffurfiol yn y lleoliadau canolog. Gall nifer cyfyngedig o ddehonglwyr fod ar gael yn ystod y sesiynau rhwydweithio, y trafodaethau a’r byrddau crwn. Rhowch wybod i ni os bydd angen cymorth o’r fath arnoch erbyn dydd Llun 12 Mai.

Lleferydd-i-destun

Bydd lleferydd i destun byw yn cael ei ddarparu ar y brif sgrin a ddefnyddir gan gyflwynwyr yn Neuadd St George ar 10 Mehefin. Bydd lleferydd i destun ar gael ar gyfer dyfeisiau sgrin unigol (er enghraifft, ffonau clyfar a llechi) yn ystod fformatau sgwrs eraill ar 11 Mehefin. Darperir hyn drwy fewngofnodi i ddolen we a ddarperir gan y capsiynau. Bydd y ddolen yn cael ei harddangos yn amlwg ym mhob ystafell lle bydd cyflwyniadau’n digwydd.

Dolenni sain

Mae gan Neuadd St George system dolenni sain.

Mae system dolen sain ar gyfer fformatau sgwrs a phanel yng ngwesty’r Great Victoria ar gael ar gais. Rhowch wybod i ni os oes angen dolen sain arnoch yn eich gofynion mynediad wrth brynu tocyn ac erbyn dydd Llun 12 Mai.

Partneriaid

Mae’r Peth Mawr yn rhan o’r rhaglen Celfyddydau Ymdrochol. Cynhyrchir rhifyn 2025 mewn partneriaeth â Bradford Dinas Diwylliant y DU 2025 a Bradford Producing Hub.

Cwrdd â Thîm Y Peth Mawr

Max Munday

Max Munday

Rheolwr Cynhyrchu (ef/fo)

Y Peth Mawr

Max yw Rheolwr Cynhyrchu Y Peth Mawr 2025. Wedi’i leoli yn Sheffield, mae’n artist ac ymchwilydd sy’n gweithio gyda symudiad a sain. Mae ganddo brofiad eang ym maes camddefnyddio sylweddau, digartrefedd, cyfathrebu gwleidyddol ac elusennol, cynhyrchu radio ac addysg uwch.

Soph Crockett

Soph Crockett

Cynhyrchydd ac Ymgynghorydd XR (hi/ei)

Crossover Labs

Mae Soph yn gynhyrchydd ac yn guradur XR i Crossover Labs, tîm sy’n creu’r dyfodol drwy gelf, technoleg a straeon. Mae hi wedi curadu arddangosfeydd ymdrochol ledled y byd ac wedi rhedeg sioeau rhyngweithiol yn Adelaide Fringe ac Edinburgh Fringe.

Tom Millen

Tom Millen

Cyd-gyfarwyddwr (fe)

Crossover Labs

Cynhyrchydd digidol llwyddiannus yw Tom, ac mae ei waith wedi’i ddangos yn y Barbican, BBC, Ars Electronica, SXSW a MoMA. Mae Tom wedi curadu rhaglenni celf ddigidol ar gyfer gwyliau rhyngwladol gan gynnwys CPH:DOX, Sheffield Doc/Fest, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol India, Gŵyl Gwyddoniaeth a Chyfryngau Silbersalz, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Bergen a Gŵyl Cyrion Adelaide.

Ruth McCullough

Ruth McCullough

Cynhyrchydd Gweithredol (hi)

Wedi’i leoli yn Watershed, Bryste

Mae Ruth yn Gynhyrchydd a Chyfarwyddwr Creadigol sy’n arbenigo mewn celf, technoleg a chynaliadwyedd.

Rhwng 2009 a 2023, bu’n Gynhyrchydd ac yna’n Gyfarwyddwr i Abandon Normal Devices, gan arwain yr unig raglen grwydrol ddwyflynyddol ddigidol ym Mhrydain a chydweithio ag artistiaid fel Marshmallow Laser Feast, Matthew Plummer Fernandez, Daito Manabe, Ubermorgen a Studio Roosegaarde.

Verity McIntosh

Verity McIntosh

Cyfarwyddwr a Phrif Ymchwilydd (hi)

Celfyddydau Ymdrochol

Mae Verity’n gweithio gydag artistiaid, technolegwyr, ymchwilwyr, a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn effaith technoleg ymdrochol ar gymdeithas. Fel Athro Cyswllt yn UWE Bryste, Verity sefydlodd un o raglenni meistr realiti ymestynnol cyntaf Ewrop a chyd-sefydlu’r Bristol VR Lab. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar foeseg realiti ymestynnol, a hawliau dynol mewn amgylcheddau rhithwir.

Kat Garoës-Hill

Kat Garoës-Hill

Rheolwr Cyfathrebu (hi)

Wedi’i lleoli yn Watershed, Bryste

Mae gan Kat dros 6 mlynedd o brofiad mewn cyfathrebu creadigol, gan gysylltu pobl drwy gyfryngau digidol ac adrodd straeon. Daeth i Fryste o Bradford ac arhosodd oherwydd ffocws y ddinas ar y celfyddydau. Mae Kat yn DJ (GAROËSS), yn rhan o Booty Bass. Fe’i dewiswyd ar gyfer Prosiect Datblygu Artistiaid Newydd Saffron Music‘ (2023-2024).

Bridget Hart

Bridget Hart

Cydlynydd (nhw)

Wedi’i leoli yn Watershed, Bryste

Mae Bridget wedi cydlynu rhaglenni ar gyfer y PM Studio, gan gynnwys Grounding Technologies, Celfyddydau Ymdrochol ac Undershed. Maen nhw hefyd yn awdur, cynhyrchydd creadigol ac yn olygydd. Maen nhw wedi cyhoeddi casgliadau barddoniaeth; Better Watch Your Mouth a Chewing Gum. Mae Bridget wedi cynhyrchu digwyddiadau ar gyfer Shambala, Gŵyl Ymylol Caeredin a Trans Pride.

Michelle Rumney

Michelle Rumney

Cynhyrchydd dros Loegr (hi)

Wedi’i leoli yn Watershed, Bryste

Mae Michelle yn artist gain sy’n ymarfer ac yn hyfforddwraig gymwysedig gyda chefndir technegol mewn ôl-gynhyrchu ac SFX. Gyda thros dair blynedd yn StoryFutures a StoryTrails, mae hi’n dod ag arbenigedd mewn prototeipio ymdrochol, profi ac ymchwil sy’n seiliedig ar gynulleidfaoedd i gefnogi artistiaid yn y rhaglen.

Lisa Heledd Jones

Lisa Heledd Jones

Cynhyrchydd dros Gymru (hi)

Wedi’i lleoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae Lisa yn gynhyrchydd, artist ac yn guradur sy’n archwilio adrodd straeon digidol, technolegau ymdrochol ac ymgysylltu cymunedol. Mae wedi gweithio i sefydliadau megis y BBC, Prifysgol De Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ogystal â chydweithio â nifer o unigolion sydd wedi dylanwadu ar ei gwaith a’i syniadau.

Allie John

Allie John

Cynhyrchydd dros Gymru (hi)

Wedi’i leoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae Allie yn gyd-sylfaenydd Yello Brick, sy’n creu digwyddiadau a phrofiadau digidol arobryn ers 14 mlynedd. Gyda chefndir mewn theatr, technoleg ddigidol, marchnata a chynhyrchu, mae hi wedi gweithio ar Bordergame (National Theatre Wales), Rescape Innovation (VR ar gyfer y GIG), a The Culture Group, gan reoli prosiectau Google gyda digwyddiadau corfforol ac allbynnau digidol.

Colm O’Donnell

Colm O’Donnell

Cynhyrchydd dros Ogledd Iwerddon (fe)

Wedi’i leoli yn y Nerve Centre, Derry/Londonderry

Mae gan Colm dros 15 mlynedd o brofiad yn cynhyrchu rhaglenni celfyddydol yng Ngogledd Iwerddon. Mae’n Gyfarwyddwr Creadigol ac yn gyd-sylfaenydd Gŵyl Stendhal. Gyda chefndir mewn pensaernïaeth, mae’n cyfuno dylunio digidol, modelu 3D, animeiddio a dylunio gwe ag adrodd straeon a marchnata. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar fwrdd ArtAbyss, gan gefnogi pobl ifanc drwy’r celfyddydau.

Chloe Spiby Loh

Chloe Spiby Loh

Cynhyrchydd dros yr Alban (hi)

Wedi’i lleoli yn Cryptic, Glasgow

Mae Chloe wedi cynhyrchu rhaglenni gyda Wellcome Collection, Create London, V&A Dundee, RIBA a’r Sefydliad Pensaernïaeth, gan gydweithio ag artistiaid, dylunwyr a phartneriaid mawr ar ddigwyddiadau byw, gwyliau a chomisiynau. Mae’n arbenigo mewn prosiectau rhyngddisgyblaethol i gynulleidfaoedd cyhoeddus ac mae ganddi brofiad o ddefnyddio dulliau gwrth-hiliaeth a gwrth-ablaeth.

Orange outline illustration of character with two long legs and a cloudlike head with orange dots for eyes.