Ymchwil

Datblygu Artistiaid a Chynulleidfa

Datblygu Artistiaid a Chynulleidfa

Yn Celfyddydau Ymdrochol, rydyn ni’n defnyddio dull a arweinir gan artistiaid o weithio gyda thechnolegau ymdrochol i gynnwys y gynulleidfa mewn ffordd rhagweithiol - a thrwy'r ymchwil hon, rydyn ni’n gobeithio dysgu mwy am artistiaid sy'n gweithio yn y gofod hwn a sut y gallwn ni ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer gweithiau ymdrochol.

Mae’r bobl ganlynol yn archwilio’r gwaith ymchwil hwn: Paul Clarke (Athro Cyswllt mewn Perfformio a Thechnolegau Creadigol, Prifysgol Bryste), Verity McIntosh (Cyfarwyddwr a Phrif Ymchwilydd, Celfyddydau Ymdrochol, UWE Bryste), Oluwatosin Olufon, sy’n gwneud Doethuriaeth yn y Celfyddydau Ymdrochol ar sail Ymarfer yn UWE Bryste a Chymrawd Ymchwil, sydd eto i ymuno â’r tîm.

Datblygu Artistiaid a Chynulleidfa

Fel man cychwyn, rydyn ni’n archwilio’r apêl sydd gan realiti ymdrochol i artistiaid; yr uchelgais sydd gan artistiaid ar gyfer y ffurfiau newydd hyn; sut maen nhw’n esblygu neu’n ymwahanu oddi wrth ffurfiau celfyddydol a ffyrdd o weithio sy’n bodoli eisoes; y ffyrdd y mae artistiaid yn dylunio ar gyfer gofynion mynediad amrywiol; a’r pryderon sydd gan artistiaid am effaith ffurfiau celfyddydol ymdrochol ar y sector ehangach.

Fel man cychwyn, rydyn ni’n archwilio’r apêl sydd gan realiti ymdrochol i artistiaid; yr uchelgais sydd gan artistiaid ar gyfer y ffurfiau newydd hyn; sut maen nhw’n esblygu neu’n ymwahanu oddi wrth ffurfiau celfyddydol a ffyrdd o weithio sy’n bodoli eisoes; y ffyrdd y mae artistiaid yn dylunio ar gyfer gofynion mynediad amrywiol; a’r pryderon sydd gan artistiaid am effaith ffurfiau celfyddydol ymdrochol ar y sector ehangach.

Rydyn ni hefyd yn ystyried y ffyrdd y mae cynulleidfaoedd profiadau ymdrochol yn wahanol i gynulleidfaoedd celfyddydol traddodiadol; pwy sydd ar goll a pham; effaith ac ystyr gweithiau ymdrochol ar gyfer cynulleidfaoedd; y rhwystrau rhag cyrraedd cynulleidfa; y cyfleoedd hybrid amrywiol y mae cyfryngau ymdrochol yn eu cynnig i gynulleidfaoedd amrywiol a gwasgaredig; a modelau arferion gorau.

Cwrdd â'r tîm ymchwil

Paul Clarke
Oluwatosin (Tosin) Olufon

Oluwatosin (Tosin) Olufon

PHD (hi)

UWE Bryste

Artist ac ymchwilydd ymdrochol yw Tosin sy’n gwirioni ar Realiti Rhithwir ac animeiddio 3D. Gydag ysbrydoliaeth gan chwedlau/traddodiadau plentyndod, mae’n defnyddio technoleg ymdrochol i drawsnewid gwaith adrodd straeon ac archwilio’i effaith. Mae’n waith hynod bersonol, wedi’i wreiddio yn y gred bod profiadau realiti ymestynnol yn ennyn emosiwn, yn tanio chwilfrydedd, ac yn creu profiadau agos-atoch.

Verity McIntosh

Verity McIntosh

Cyfarwyddwr a Phrif Ymchwilydd (hi)

Celfyddydau Ymdrochol

Mae Verity’n gweithio gydag artistiaid, technolegwyr, ymchwilwyr, a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn effaith technoleg ymdrochol ar gymdeithas. Fel Athro Cyswllt yn UWE Bryste, Verity sefydlodd un o raglenni meistr realiti ymestynnol cyntaf Ewrop a chyd-sefydlu’r Bristol VR Lab. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar foeseg realiti ymestynnol, a hawliau dynol mewn amgylcheddau rhithwir.

Tessa Ratuszynska

Tessa Ratuszynska

Immersive Arts Research Fellow (hi/nhw)

UWE Bristol

Artist, cynhyrchydd ac ymchwilydd sy’n byw yn Glasgow yw Tessa, sydd wedi cwblhau PhD ymarferol yn ddiweddar mewn moeseg dogfen realiti ymestynnol. Ochr yn ochr â’u gwaith academaidd, mae’n cynhyrchu profiadau rhyngweithiol, realiti rhithwir a realiti cymysg. Mae eu prosiectau creadigol yn rhannu themâu’n ymwneud â rhywioldeb, rhywedd, hunaniaeth gwiar ac ymgorfforiad. Yn eu gwaith, mae ganddynt ddiddordeb mewn mynediad a gofal cynulleidfaoedd, a democrateiddio’r gwaith o gynhyrchu realiti ymestynnol.

Kerryn Wise

Kerryn Wise

Immersive Arts Research Fellow (hi)

UWE Bristol

Ymchwilydd ar sail ymarfer yw Dr. Kerryn Wise sy’n archwilio’r defnydd o dechnolegau ymdrochol mewn arferion dawns a pherfformio. Nod ymchwil Kerryn yw deall sut mae’r defnydd o dechnolegau newydd yn effeithio ar ddulliau artistig a phrofiad y gynulleidfa o gynnwys celfyddydol a diwylliannol. Mae’n un o gyd-arweinwyr Stiwdio Perfformio Realiti Cymysg Displace, ac mae ei gwaith wedi teithio’n genedlaethol/rhyngwladol i wyliau fel SXSW, FIVARS ac Aesthetica. Mae’n un o gyn-artistiaid dawns QuestLab yn Studio Wayne McGregor ac yn artist cysylltiol yn Stiwdio Gynhyrchu Rithiol ac Ymdrochol Prifysgol Nottingham.

Orange outline illustration of character with two long legs and a cloudlike head with orange dots for eyes.

Rydyn ni hefyd yn awyddus i ddysgu gan yr ymchwil anhygoel sy’n cael ei gwneud gan eraill ledled y byd ac ymhelaethu arni. Os oes gennych chi rywbeth yr hoffech ei rannu gyda ni, cysylltwch â ni.

Ymchwil berthnasol arall

Gweler yr holl ymchwil