Sylwadau Rownd Ariannu Gyntaf
Yn 2024, cafodd Celfyddydau Ymdrochol dros 2500 o geisiadau i’n galwad agored gyntaf. Y gwanwyn yma fe gyhoeddon ni ein carfan gyntaf o 83 o artistiaid sy’n cael eu cefnogi, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael clywed gan gymuned greadigol gwledydd Prydain unwaith eto pan fyddwn ni’n ailagor y gronfa i geisiadau yn y dyfodol agos.
Ar ddechrau’r rhaglen, gan ragweld y lefelau uchel o geisiadau, fe wnaethon ni’r penderfyniad anodd i beidio cynnig adborth ar gyfer ceisiadau unigol. Rydyn ni’n gwerthfawrogi pa mor rhwystredig y gall y safbwynt yna fod, a dydyn ni ddim yn tanbrisio pa mor werthfawr y gall adborth fod pan fyddwch chi’n datblygu gwaith newydd neu waith sy’n esblygu.
I gydnabod hyn, rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig rhywbeth arall. Rhywbeth rydyn ni’n gobeithio fydd o werth mewn ffordd wahanol. Rydyn ni wedi casglu a llunio sylwadau gan bawb oedd yn rhan o’r broses asesu rownd gyntaf, gyda’r nod o rannu adborth gonest ar bob lefel. Yma, rydyn ni’n rhannu’r themâu cyffredin a’r themâu anghyffredin y sylwodd adolygwyr arnyn nhw yn y ceisiadau a aseswyd ganddynt. Rhoi adborth mor fanwl ag y gallwn, gan ddiogelu preifatrwydd ymgeiswyr ac adolygwyr.
Feedback for everyone
Yn gryno, dyma adborth pawb. Gobeithio y bydd o fudd i’r rhai wnaeth gais i rhaglen Celfyddydau Ymdrochol yn y rownd gyntaf, a’r rhai sy’n ystyried gwneud cais yn y dyfodol.
Y prif gwestiynau y byddwn yn ceisio’u hateb:
- Pam y barnwyd bod rhai ceisiadau’n anghymwys?
- Beth arweiniodd at symud rhai ceisiadau ymlaen i gael cyllid ond ddim eraill?
Pam y barnwyd bod rhai ceisiadau’n anghymwys?
Yn ogystal ag egluro ein safbwynt mewn perthynas â’r hyn sy’n ‘cyfrif’ fel celfyddydau ymdrochol, mae’r diffiniad yma’n rhan o sut rydyn ni’n deall beth sydd o fewn cwmpas cyllid celfyddydau ymdrochol, a beth sydd ddim.
Y prif resymau dros ddyfarnu bod ceisiadau’n anghymwys oedd:
- Ddim yn amlwg bod y cynnig yn canolbwyntio ar y celfyddydau ac yn cael ei arwain gan artistiaid
- Dim tystiolaeth o’r rôl y byddai technolegau ymdrochol yn ei chwarae yn y cynnig
- Dim esboniad o sut byddai’r gwaith yn mynd ati i gynnwys cynulleidfa ar ryw adeg yn ystod oes y prosiect.
I gynnig ychydig mwy o fanylion:
Wedi’u harwain gan y celfyddydau ac artistiaid
Barnwyd bod rhai cynigion y tu hwnt i gwmpas y rhaglen os nad oedd ganddynt bwyslais clir ar gelfyddydau a diwylliant neu’r sector creadigol. Yn gyffredinol, cynigion oedd y rhain oedd heb enwi artist/sefydliad celfyddydol/technolegydd creadigol fel arweinydd, ac roeddent wedi’u gwreiddio’n bennaf mewn sectorau eraill e.e. hyfforddiant, gofal iechyd, twristiaeth, gweithgynhyrchu, ac ati heb wneud achos cryf dros sut roedd hwn yn gais oedd yn canolbwyntio ar y celfyddydau ac yn cael ei arwain gan artistiaid.
Technolegau ymdrochol yn rhan annatod o’r cynnig
Weithiau, naill ai doedd yr ymgeiswyr heb sôn am dechnolegau penodol, neu roeddent wedi methu esbonio pam eu bod yn berthnasol i’r gweithgarwch arfaethedig neu roeddent wedi cyfeirio atynt mewn termau amwys e.e. ‘os oes amser, efallai y byddwn hefyd yn edrych i weld a fyddai’n bosib cymhwyso technolegau ymdrochol i’r prosiect yma’.
Gyda’r adnoddau cyfyngedig, rydyn ni wedi dewis canolbwyntio ar gefnogi artistiaid sydd â diddordeb arbennig mewn archwilio rôl technolegau ymdrochol yn eu harfer creadigol. Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi gwaith sy’n archwilio potensial technolegau ymdrochol fel deunyddiau creadigol a mynegiannol, ochr yn ochr â gwaith sy’n ymgysylltu â goblygiadau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol mwy heriol gweithio gyda’r offer hyn.
Mynd ati i gynnwys y gynulleidfa
Er mwyn bodloni’r meini prawf, gofynnwyd sut byddai’r prosiect yn mynd ati i gynnwys y gynulleidfa darged yn y gwaith celf, a sut byddai’r dechnoleg yn hwyluso’r broses o fynd ati i’w cynnwys mewn rhyw ffordd.
Ar gyfer cronfa Archwilio, gallai hynny fod yn gynulleidfa ddamcaniaethol rywbryd yn y dyfodol. Ar gyfer cronfa Arbrofi, gofynnwyd i ymgeiswyr sôn sut bydden nhw’n profi eu gwaith cynnar gyda chynulleidfaoedd. Ar gyfer cronfa Estyn, roedden ni’n disgwyl i artistiaid rannu syniad mwy cyflawn o sut byddai gwaith gorffenedig yn mynd ati i gynnwys cynulleidfa.
Gall mynd ati i gynnwys y gynulleidfa ddigwydd ar sawl ffurf. Yn y canllawiau, rydyn ni’n rhestru nifer o dechnolegau rydyn ni’n dychmygu y byddant ‘o fewn cwmpas’ y rhaglen, oherwydd y ffordd maen nhw’n mynd ati i gynnwys cynulleidfaoedd. Rydyn ni hefyd yn agored i artistiaid awgrymu technolegau eraill os gallant esbonio sut maen nhw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer mynd ati i gynnwys cynulleidfa.
Ymhlith y technolegau y canfuwyd yn aml eu bod y tu allan i gwmpas y rhaglen, roedd tafluniadau a mapio tafluniadau, sioeau golau, ffilmiau artistiaid, cyngherddau a pherfformiadau oedd yn cynnwys technoleg ond ddim mewn ffordd oedd yn mynd ati i gynnwys y gynulleidfa.
Unrhyw beth arall?
Fe gawson ni nifer o geisiadau oedd yn ymddangos yn addas ar gyfer ffynonellau eraill o gyllid cyhoeddus e.e. Innovate UK neu Ymchwil ac Arloesi y DU, ond nad oeddent yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cyllid Celfyddydau Ymdrochol. Yn gyffredinol, dyma oedd ffurfiau’r ceisiadau hynny:
Datblygu busnes – cynigion i gychwyn, ehangu neu newid trywydd busnes yr ymgeisydd. Er ein bod yn gobeithio y bydd gan gyllid Celfyddydau Ymdrochol fudd eilaidd o gefnogi artistiaid i esblygu a datblygu eu busnesau, pwyslais y cyllid penodol yma yw datblygu eu prosiectau a’u harferion creadigol.
Datblygu offer – cynigion i adeiladu offeryn neu lwyfan penodol fyddai’n hwyluso ymarfer celfyddydol (neu sector arall), ond nid prosiect penodol dan arweiniad artist.
Technoleg ar gyfer marchnata – cynigion i ddefnyddio technolegau ymdrochol i hyrwyddo gwaith celf/profiad e.e. posteri realiti estynedig, yn hytrach nag fel rhan annatod o’r gwaith creadigol ei hunan.
Cyllid i gynnal rhaglen ariannu arall – cynigion i ddylunio a chyflwyno gŵyl neu raglen gymorth i nifer o artistiaid e.e. cynnig hyfforddiant, digwyddiadau, preswylfeydd neu fwrsariaethau.
Ymchwil academaidd – cynigion oedd yn cynnwys costau ar gyfer ymchwil academaidd, fel amser academydd neu gyfrifiad o ‘gost economaidd lawn’ o fewn eu cyllidebau. Yn unol â’n canllawiau, gellir defnyddio ein cyllid i gael mynediad at gyfleusterau penodol neu gymorth technegol o fewn prifysgolion, colegau a sefydliadau ymchwil annibynnol ond nid ar gyfer addysgu nac ymchwil. Rydyn ni’n dal i fod yn fwy na pharod i ymgeiswyr gynnal partneriaethau gweithredol gyda sefydliadau ymchwil e.e. prifysgolion, ond rydyn ni’n disgwyl i gostau academaidd mewn partneriaeth o’r fath gael eu talu o ffynonellau eraill.
Cynnig aneglur – treuliodd rhai ymgeiswyr rannau helaeth o’u cais yn rhannu manylion am eu cefndir a’u cyd-destun personol. Er ein bod yn croesawu’r wybodaeth hon yn fawr pan fo’n berthnasol i’r cynnig, roedd yna geisiadau oedd yn canolbwyntio ar hyn, heb fynd ymlaen i roi eglurhad clir o’r hyn y byddent yn ei wneud gyda’r cyllid. Yn yr achosion hyn, doedd gan yr adolygwyr ddim digon o wybodaeth i asesu’r cynnig.
Beth arweiniodd at symud rhai ceisiadau ymlaen i gael cyllid ond ddim eraill?
Rydyn ni’n gwybod bod pawb yn dweud hyn… ond roedd safon y ceisiadau yn anhygoel. Fe gawson ni’n syfrdanu’n llwyr gan y creadigrwydd, y dadansoddi, yr arloesedd a’r uchelgais gafodd ei rhannu gan yr ymgeiswyr, yn ogystal ag ehangder y ffurfiau ar gelfyddyd, y straeon, y cysyniadau a’r syniadau a gynigiwyd. Digon yw dweud bod canran uchel iawn o’r gweithiau wnaeth ddim llwyddo i fynd drwodd i gael cyllid yn weithiau rhagorol, ac mewn maes llai cystadleuol, byddent wedi bod yn fwy na chymwys i gael cyllid.
Felly beth wnaeth y gwahaniaeth?
Gan fod y cwestiynau a’r meini prawf yn wahanol ar gyfer pob un o’r tri math o gyllid oedd ar gael, rydyn ni wedi clystyru’r adborth o gwmpas yr haenau hynny.
Grantiau Archwilio, £5,000
Pethau wnaeth sgorio’n dda:
Syniad clir o beth yn union y bydd y cyllid yn ei alluogi.
Mae Archwilio wedi’i gynllunio i gefnogi artistiaid yng nghyfnodau cynnar eu datblygiad gyda thechnoleg ymdrochol. Yn aml, roedd ceisiadau llwyddiannus yn rhoi syniad da o’r hyn yr oeddent am ei wneud, neu beth fyddai eu man cychwyn.
Gallai hyn fod yn set glir o gwestiynau neu’n syniadau i’w harchwilio, dechrau gweithio gyda chydweithiwr posib, cynnal gweithgaredd bach i ymgyfarwyddo â thechnoleg benodol, cymryd rhan mewn digwyddiadau penodol, ac ati.
Pethau wnaeth ddim sgorio cystal:
Cynigion rhy amwys neu rhy ymylol i gwmpas y rhaglen.
Ar gyfer y llinyn Archwilio, mae’n iawn peidio gwybod ble bydd y daith yn mynd â chi – i raddau, dyna’r pwynt! Fodd bynnag, sgoriodd ceisiadau yn is pan nad oeddent yn cynnig fawr ddim syniad, neu ddim syniad o gwbl, beth fyddai’r ymgeisydd yn ei wneud gyda’r arian pe bai’n llwyddiannus.
Mewn sawl achos, roedd pobl yn adleisio iaith yr alwad yn ôl aton ni gan ddweud y bydden nhw’n defnyddio’r cyllid i gefnogi ‘archwilio technolegau ymdrochol ar gyfnodau cynnar’ ond heb fynd y cam pellach o ddweud beth fydden nhw’n bersonol yn ei wneud â’r cyllid.
Gwneud yr achos o ran pam y byddai’n werthfawr i’r artist
Syniad clir o sut y byddai hyn yn symud, yn gwella, yn trawsnewid neu’n ychwanegu at arfer creadigol yr ymgeisydd
Yn aml, roedd ceisiadau oedd yn llwyddiannus yn rhoi cipolwg ar pam roedd hyn yn bwysig iddyn nhw, a pham mai nawr oedd yr amser iawn iddyn nhw wneud y peth roedden nhw’n ei gynnig.
Roedd yn ddefnyddiol iawn i adolygwyr allu deall beth y gallai’r adnodd, yn y cyfnod yma, ei alluogi i’r ymgeisydd a’u hymarfer, a chael rhyw syniad a fyddai hynny’n werthfawr iddynt yn y tymor hir.
Gwerth a/neu siâp aneglur i’r alwad
Dim syniad clir o’r hyn y byddai’r cyllid yn ei gyfrannu at ymarfer creadigol yr ymgeisydd. Rydyn ni’n deall yn iawn bod cyllid yn brin, ac weithiau nad yw galwad yn gweddu i’r hyn rydych chi am ei wneud ond eich bod chi’n gwneud cais beth bynnag gan mai cyllid yw cyllid.
Roedd rhai cynigion yn cyfleu angerdd dros yr hyn roedd yr ymgeisydd yn ei wneud eisoes yn llwyddiannus iawn, ond byddai’r egni a’r eglurder yn diflannu pan fyddent yn dechrau esbonio’r defnydd o dechnoleg ymdrochol. Weithiau roedd hyn yn darllen fel rhyw fath o ychwanegiad neu rywbeth gafodd ei ystyried wedyn.
Mae gan rai ymgeiswyr i gronfa Archwilio brofiad helaeth yn y celfyddydau ymdrochol eisoes. Roedd y cynigion hyn yn tueddu i fod ar gyfer cynhyrchu/cyflenwi, neu ‘busnes fel arfer’ yn hytrach nag archwilio a datblygu fel y bwriadwyd ar y lefel hon
Cyllidebau clir a phriodol
Roedd ceisiadau oedd yn amlinellu’n glir sut byddent yn treulio’u hamser a’r arian yn gwneud yn dda.
Doedd dim angen na disgwyl llawer o fanylion, ond roedd ceisiadau cryf yn rhoi digon o fanylion i ddangos sut byddai’r cynnig a amlinellwyd yn ymarferol o fewn yr amserlen a nodwyd, bod y gyllideb yn realistig, a bod yr holl gostau’n ymwneud â’r cynnig wedi’u cynnwys.
Cyllidebau problemus
Weithiau roedd pobl yn hepgor pethau pwysig o’u cyllidebau, fel eu hamser eu hunain neu amser cydweithwyr, gan awgrymu nad oeddent yn dyrannu digon o adnoddau i dalu pobl yn unol â’n canllawiau ynghylch tâl teg.
Grantiau Arbrofi, £20,000
Pethau wnaeth sgorio’n dda:
Syniadau penodol
Sgoriodd cysyniadau datblygedig oedd yn barod i ymgymryd â phroses Ymchwil a Datblygu yn dda iawn. Mewn ceisiadau cryf, byddai llawer o le o hyd i arbrofi, darganfod a dysgu, ond syniad digon clir o fwriad/pwrpas i’r unigolyn neu’r tîm allu dechrau arni ar unwaith.
Pethau wnaeth ddim sgorio cystal
Meysydd ymholi rhy gyffredinol
Roedd yn annhebygol y byddai syniadau oedd yn teimlo’n amwys, yn gyffredinol, yn generig neu’n ail-law yn mynd drwodd, ac felly hefyd geisiadau oedd ddim yn gwneud llawer mwy nag adleisio iaith dogfen yr alwad.
Y peth iawn ar yr amser iawn
Syniad clir o pam hyn a pham nawr o ran sut byddai’r cynnig yn galluogi’r ymgeisydd i arbrofi â thechnoleg ymdrochol o fewn eu hymarfer creadigol mewn ffordd newydd a/neu mewn ffordd gadarnhaol.
Yr amser anghywir
Cynigion oedd yn teimlo’n gynnar iawn yn eu datblygiad, heb fawr ddim syniad o beth fyddai’r broses arbrofi yn ei olygu, na pha werth y byddai’n ei ychwanegu i ymarfer yr ymgeisydd.
Mewn sawl achos, teimlai’r adolygwyr y byddai ymgeiswyr wedi elwa o ddealltwriaeth well o botensial technoleg ymdrochol cyn gwneud cais i’r llinyn Arbrofi.
Tîm yn ei le neu gynllun yn dangos sut i gyrraedd yno
Eglurder ynghylch pwy fyddai angen bod yn rhan o’r prosiect er mwyn iddo allu dechrau. Naill ai byddai’r tîm yn ei le, neu byddai cynllun yn dangos sut byddai’r ymgeisydd yn dod â thîm ynghyd er mwyn diwallu anghenion y prosiect ar ôl iddo gael ei ariannu.
Tîm ddim yn ei le / disgwyliad y byddai Celfyddydau Ymdrochol yn cynnull tîm
Dim syniad, neu fawr ddim syniad, o pwy fyddai’n rhan o’r prosiect, neu pa fathau o sgiliau/cydweithwyr/partneriaethau y gallai fod eu hangen.
Gorddibyniaeth ar dîm Celfyddydau Ymdrochol i ddod yn aelodau o dîm y prosiect, i ddod o hyd i aelodau o’r tîm neu i’w huwchsgilio’n gyflym.
Agwedd ragweithiol at fynediad, amrywiaeth a chynhwysiant
Esboniodd ceisiadau llwyddiannus sut y byddent yn gweithio’n rhagweithiol i ostwng neu ddileu rhwystrau i ymgysylltu o fewn eu cysyniad, eu dyluniad, eu llif gwaith a/neu ganlyniad eu prosiect bwriadedig ar gyfer ystod o bobl.
Sgoriodd ceisiadau’n arbennig o dda pan oeddent yn trafod darpariaethau penodol i ymgorffori mynediad yn ymarferol neu’n greadigol yn y broses o ddylunio, datblygu ac arddangos y gwaith, gydag amlinelliadau clir o bwy yw eu cynulleidfaoedd bwriadedig.
Agwedd amwys neu symbolaidd at fynediad, amrywiaeth a chynhwysiant
Ar gyfer y gronfa hon, gofynnwn i ymgeiswyr ‘ystyried mynediad, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n berthnasol i’w prosiect’, ac roedd cwestiwn ar y ffurflen gais oedd yn gofyn am wybodaeth am yr hyn roedd hyn yn ei olygu yng nghyd-destun y cynnig. Roedd ceisiadau a sgoriodd yn is yn tueddu i ymateb drwy adleisio iaith y cwestiwn, gan ddweud ‘byddwn yn ystyried mynediad, amrywiaeth a chynhwysiant’ yn hytrach na rhoi manylion ynghylch pa agweddau fyddai’n debygol o fod yn bwysig o ystyried y syniad oedd yn cael ei gynnig, a pha gynlluniau oedd gan yr ymgeisydd/ymgeiswyr i fynd i’r afael â rhwystrau.
Agwedd gydlynus at gynulleidfa a phrofi
Roedd y cynigion yn disgrifio dull o brofi gyda chynulleidfaoedd oedd yn gwneud synnwyr ar gyfer eu prosiect nhw. Roedden nhw’n amlinellu proses ac uchelgais ar gyfer profi oedd yn ymarferol ac yn debygol o fod yn werthfawr i’r tîm.
Dim ystyriaeth neu fawr ddim ystyriaeth i gynulleidfa a phrofi
Roedd profi naill ai heb ei ystyried neu roedd y cyfeiriadau ato yn haniaethol, heb broses glir, na syniad o sut byddai’n darparu cyfleoedd dysgu i’r ymgeisydd/ymgesiwyr neu’n cefnogi datblygiad y gwaith prawf o gysyniad.
Agwedd realistig at gyllidebau ac amserlenni
Roedd amser pawb fyddai’n cyfrannu at y prosiect wedi ei ystyried yn y gyllideb ar gyfradd briodol.
Roedd yr amserlenni’n realistig, gan awgrymu bod gan ymgeiswyr syniad o’r hyn y gellid ei wneud gyda’r amser a’r adnoddau oedd ar gael, ac na fyddai neb yn profi camfanteisio er mwyn i amcanion datganedig y prosiect gael eu cyflawni.
Agwedd afrealistig at gyllidebau ac amserlenni
Dim digon o adnoddau ar gyfer amser cyfranwyr yn y gyllideb, neu roeddent yn hollol absennol o’r gyllideb, er gwaetha’r ffaith eu bod wedi’u cynnwys yn y gweithgarwch arfaethedig.
Diffyg dealltwriaeth neu agwedd optimistaidd at yr hyn fyddai ei angen o ran sgiliau, amser neu adnoddau.
Grantiau Estyn, £50,000
Pethau wnaeth sgorio’n dda:
Syniad clir o’r hyn sydd eisoes wedi digwydd a’r hyn sydd i ddod nesaf
Mae grantiau Estyn wedi’u cynllunio i gefnogi gwaith sydd eisoes wedi bod drwy rywfaint o ymchwil a datblygu. Roedd ceisiadau cryf yn dangos yn union beth oedd wedi’i gyflawni hyd yn hyn, gan rannu heriau a gwersi a gasglwyd ar hyd y ffordd. Roedd dolenni at ddogfennaeth o gamau cynharach e.e. ffotograffiaeth, fideos arwain, ffeiliau .apk ac ati yn arbennig o ddefnyddiol o ran galluogi adolygwyr i ddeall cam presennol y gwaith.
Roedd ymgeiswyr llwyddiannus yn tueddu i gynnig gweledigaeth glir a gwybodus o’r hyn roedd angen iddo ddigwydd nesaf er mwyn i’w gwaith symud ymlaen, a pha uchelgeisiau neu ddisgwyliadau oedd ganddynt ar gyfer yr hyn maent wedi’i gyflawni neu’r hyn y byddent yn gallu ei gyflawni petai cyllid yn cael ei ddyfarnu iddynt.
Pethau wnaeth ddim sgorio cystal:
Diffyg tystiolaeth o weithgarwch blaenorol a/neu ddiffyg eglurder ynghylch y cam nesaf
Prosiect newydd sbon (ddim o fewn cwmpas yr haen ariannu yma).
Amwysedd ynghylch yr hyn sydd wedi’i ddatblygu hyd yn hyn. Diffyg eglurder ynghylch a yw’r prosiect a ddisgrifir yn dal i fod yn y cyfnod syniadau neu a oes rhyw lefel o arbrofi/datblygu wedi digwydd.
Gwaith sy’n ymddangos fel pe bai eisoes wedi’i gwblhau, heb fawr ddim gwybodaeth am yr hyn y byddai’r cyllid hwn yn ei ychwanegu.
Gwaith sydd eisoes wedi’i gwblhau – cynnig defnyddio’r cyllid i ‘ychwanegu’ neu i ôl-osod technoleg ymdrochol heb syniad clir pam na pha werth y gallai hynny ei ychwanegu i’r gwaith.
Cynllun cryf i gysylltu â chynulleidfaoedd
Roedd y cynigion yn cynnwys bwriad datganedig i’w gwaith celf gyrraedd cynulleidfaoedd, ac i fynd ati i’w cynnwys, gan ddefnyddio technoleg ymdrochol. Roedd ceisiadau llwyddiannus yn tueddu i roi amlinelliad clir a realistig o’r canlynol:
- y profiad roeddent am ei greu i’r gynulleidfa a pham
- a oedd prif gynulleidfa/cynulleidfa darged
- sut roeddent yn bwriadu cyrraedd y gynulleidfa honno
- cyrhaeddiad / niferoedd cynulleidfa posib
O ran y pwynt olaf, roedd yn ddefnyddiol gwybod beth roedd ymgeiswyr yn ei ddisgwyl neu’n anelu ato; fodd bynnag, ni roddwyd blaenoriaeth i geisiadau oedd â niferoedd uwch neu is o gynulleidfa ddisgwyliedig.
Dim llawer o ystyriaeth i’r gynulleidfa
Canolbwyntio’n llwyr ar ystyriaethau creadigol a/neu dechnegol y cynnig, heb fawr ddim ystyriaeth i’r gynulleidfa a phrofiad y gynulleidfa.
Fawr ddim ystyriaeth i sut, ble, neu ym mha gyd-destun y bydd y gwaith yn cysylltu â chynulleidfaoedd yn y pen draw.
Fawr ddim ystyriaeth ar gyfer pwy mae’r darn, a’r hyn y gallai fod ei angen arnynt er mwyn cysylltu â’r gwaith.
Ystyriaeth o fynediad, amrywiaeth a chynhwysiant
Roedd cynigion yn ystyried sut i fynd ati’n rhagweithiol i gael gwared ar rwystrau o ran ymgysylltu yn eu cysyniad, eu dyluniad, eu llif gwaith a/neu ganlyniad bwriadedig eu prosiect ar gyfer ystod o bobl.
Fawr ddim ystyriaeth i fynediad, amrywiaeth a chynhwysiant
Dim ystyriaeth neu fawr ddim ystyriaeth i rwystrau rhag ymgysylltu neu gynlluniau i fynd ati i roi sylw i hyn yn y gweithgarwch arfaethedig.
Tîm yn ei le
Roedd y cynigion yn dangos bod tîm ar waith, neu y gellid cynnull tîm o fewn amserlen y gweithgarwch arfaethedig. Roedd gan aelodau’r tîm yr holl sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â’r gwaith fel roedd wedi’i gwmpasu, ac mewn rhai achosion roedd cynllun ar gyfer pa gynlluniau wrth gefn oedd ganddynt ar waith pe bai angen i aelodau allweddol o’r tîm gamu’n ôl am unrhyw reswm.
Tîm ddim yn gyson â’r gweithgarwch a gynlluniwyd
Tîm yn anghyflawn heb gynllun realistig i recriwtio o fewn yr amserlen. Diffyg setiau sgiliau allweddol fydd yn angenrheidiol er mwyn cyflawni amcanion y prosiect, neu ddim digon o adnoddau ar gyfer setiau sgiliau o’r fath.
Prosiectau Dethol
I gael syniad o gynigion oedd yn llwyddiannus yn y rownd gyntaf yma o gyllid Celfyddydau Ymdrochol, ewch i prosiectau dethol.
Eich Adborth?
Rhaglen dyfarnu grantiau newydd yw Celfyddydau Ymdrochol ac rydyn ni’n dysgu llawer o’r broses yma, gan gynnwys lle gallwn fod yn gliriach gyda’n canllawiau. Os oes gennych unrhyw adborth i ni ar eich profiad o wneud cais i raglen Celfyddydau Ymdrochol, fe fydden ni’n falch iawn o gael clywed gennych info@immersivearts.uk