Newyddion

Newyddion diweddaraf

22 Gorffennaf

Y Peth Mawr yn ôl, y tro yma yn Llandudno

Fis Medi yma, mae Y Peth Mawr yn ôl! Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei gynhyrchu gan Crossover Labs, yn dod â dros 70 o weithdai, perfformiadau a digwyddiadau rhwydweithio i Landudno am dridiau rhwng dydd Mercher 9 a dydd Gwener 11 Medi 2026. 

Meddai Cyfarwyddwr Crossover Labs, Tom Millen: 

“Gan adeiladu ar y digwyddiad llawen o adeiladu cymuned gawson ni yn 2025, bydd y Peth Mawr yn 2026 yn jamborî o ysbrydoliaeth a chysylltiad ar gyfer y gymuned celfyddydau ymdrochol o bob rhan o wledydd Prydain a’r tu hwnt. Rydyn ni’n llawn cyffro eleni i fod yn troi ein golygon at Gymru lle mae cymuned ddeinamig o unigolion a sefydliadau creadigol, yn ogystal â rhoi pwyslais ar rôl y gynulleidfa fel cyd-grewyr mewn gwaith ymdrochol drwy ein thema Chwarae yw’r peth.”

Yn dilyn y digwyddiad cyntaf yn Bradford y llynedd, y Peth Mawr yw cynulliad blynyddol Celfyddydau Ymdrochol, lle gall y gymuned celfyddydau ymdrochol – ar unrhyw gam yn eu taith – ddod i gysylltu, sbarduno syniadau newydd, a gwthio ffiniau eu gwaith.

Mae thema eleni, Chwarae yw’r peth, yn archwilio sut mae artistiaid yn gwahodd cynulleidfaoedd i mewn i’w gwaith mewn ffyrdd chwareus ac ystyrlon sy’n grymuso. Mae’r rhaglen yn edrych ar wleidyddiaeth y gwaith rydyn ni’n ei wneud, rôl methiant mewn ymarfer artistig, agweddau cynhwysol tuag at gelfyddyd ymdrochol, ffyrdd amgen o gyrraedd cynulleidfaoedd a’r angen am drafodaeth feirniadol gryfach ar draws y sector.

Mae’r rhaglen yn cynnwys prif anerchiad Dy Lais Di, Dy Ddewis Di gan yr Artist Danielle Brathwaite-Shirley, y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar blethu profiad byw â ffuglen i ail-ddehongli straeon pobl i’w harchifo mewn ffordd ddychmygus a herio naratifau traddodiadol. Yn ogystal bydd Tŷ o’r Enw Chwarae gan Quinns, sy’n efengylu dros y gemau fideo, y gemau bwrdd, y gemau chwarae rôl a’r gemau gwerin rhyfeddaf.

Uchafbwyntiau’r Rhaglen

 

Perfformiadau

 

Gwaith ar y gweill: Pypedau Picsel: y sioe theatr gomig fyw lle mae perfformwyr yn pypedu cymeriadau cartŵn wedi’u gwneud yn arbennig sy’n awyddus i ddianc rhag bywyd modern. Mae dulliau cipio symudiadau amser go iawn yn gwrthdaro â dychan cerddorol, comedi dywyll a dos helaeth o hiraeth i roi hwb rhyngweithiol chwareus i unrhyw un sydd wedi cael llond bol ar gwmnïau technoleg mawr a gorfod bod yn oedolyn.

work.txt: Sioe am waith yw hon. Ond dydy’r gweithiwr ddim yma, felly drosodd i chi. Byddwch chi’n clocio i mewn ar y dechrau. Byddwch chi’n gweithio mewn tîm, ac ar eich menter eich hunan. Byddwch chi’n fòs arnoch chi’ch hunan. Byddwch chi’n rhydd.

Drama sy’n cael ei pherfformio’n gyfan gwbl gan y gynulleidfa yw gwaith.txt. Mae’n archwilio themâu gwaith cyfoes, awtomeiddio, a diwylliant lle mae gwaith yn hollbresennol. Mae rhywun, yn rhywle, wedi gorwedd i lawr ar y ffordd i’r gwaith, ac wedi stopio. Am beth rhyfedd i’w wneud! Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i ddarganfod pam.

Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar Eventive.

Mae’r Peth Mawr yn rhan o Celfyddydau Ymdrochol, sy’n cael ei ariannu drwy gydweithrediad rhwng Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau UKRI (yr AHRC), Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, yr Alban Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon. Darperir cyllid o Gyngor Celfyddydau Cymru, yr Alban Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon gan y Loteri Genedlaethol.

Swyddi perthnasol eraill

Gweld yr holl newyddion