Newyddion

Newyddion diweddaraf

28 Medi

Y Peth Mawr 2026

A diverse crowd gathers on a pier at dusk, watching an outdoor event beneath a pavilion glowing purple and blue; the mood is lively and expectant.

Yn gynharach y mis yma, cynhaliwyd ein digwyddiad blynyddol Y Peth Mawr am yr ail flwyddyn, gan ddod â’r gymuned celfyddydau ymdrochol ynghyd yn Llandudno fendigedig rhwng dydd Mercher 9 Medi a dydd Gwener 11 Medi.

Mewn digwyddiad a gafodd ei gynhyrchu a’i guradu gan Crossover Labs, roedd thema eleni, Chwarae yw’r Peth, yn archwilio sut mae artistiaid yn gwahodd cynulleidfaoedd i mewn i’w gwaith mewn ffyrdd chwareus ac ystyrlon sy’n grymuso. Dros dridiau fe groesawon ni dros 500 o artistiaid, pobl greadigol ac ymchwilwyr i gymryd rhan mewn dros 70 o weithdai, perfformiadau a digwyddiadau rhwydweithio i gysylltu, arbrofi, rhannu syniadau a chael eu hysbrydoli.

Ar y diwrnod cyntaf fe gawson ni gyfle ymarferol i gynnal cyfres o weithdai gan gynnwys Cyflwyniad i Unity ar gyfer Artistiaid yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan roi cyfle i artistiaid archwilio offer newydd a datblygu sgiliau ymarferol gyda’i gilydd. Ar ôl hynny cyhoeddwyd rhestr hir Gwobr Annwn 2027, y wobr ryngwladol gyntaf yn y byd yn benodol ar gyfer dathlu rhagoriaeth ac arloesedd mewn gwaith adrodd straeon ymdrochol. Yna fe wnaethon ni ymgynnull ar ben draw Pier Llandudno ar gyfer parti hyfryd ym machlud haul gyda pherfformiad anhygoel o Lost Communications: Underwater gan yr artistiaid An-Ting ac Ian Gallagher a ariannwyd gan ffrwd Arbrofi, a ddaeth â’r byd tanddwr oddi tanom yn fyw drwy ddelweddau a chyfansoddiadau sain gwreiddiol.

A hooded figure and equipment silhouette against a vivid digital installation, where a blue eye-like orb swirls amid colorful pixel-like lights, creating a surreal mood.

Ar ddiwrnod dau, daeth ein tîm, arianwyr ac artistiaid sydd wedi’u hariannu ynghyd dros frecwast i’r garfan cyn i ni gael ein croesawu’n swyddogol i’r Peth Mawr yn Saesneg ac yn Gymraeg gan Tom Millen, Cyfarwyddwr Crossover Labs, a Lisa Matthew-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr y Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Roedd ganddon ni hefyd newyddion MAWR i’w rannu: cyhoeddodd ein Cyfarwyddwr Verity McIntosh fod Celfyddydau Ymdrochol wedi’i hymestyn am dair blynedd arall gyda £8.5m wedi’i sicrhau i barhau i gefnogi artistiaid gwledydd Prydain sy’n gweithio gyda thechnolegau ymdrochol tan 2030.

 

Drwy gydol y dydd roedd digon o gyfleoedd i gysylltu, cydweithio ac, wrth gwrs, cael hwyl – o anerchiad rhyngweithiol gan yr artist Danielle Brathwaite-Shirley, i sesiynau am gael eich gwrthod a gorlethu synhwyraidd, i weithdy ar ddechrau’r prosiect yna sydd wedi bod ar stop yn llawer rhy hir. Fe wnaethon ni hefyd lansio ein hadroddiad newydd, Gwneud y Cysylltiadau a map ledled gwledydd Prydain, gan archwilio’r cysylltiadau, y gweithgarwch a’r seilwaith sy’n siapio celfyddydau ymdrochol ledled gwledydd Prydain. 

Roedden ni hefyd yn cynnal gofod pwrpasol i’n cynulleidfa gael profi ac arbrofi gyda phrosiectau gan artistiaid rydyn ni wedi’u hariannu. Roedd prosiectau mewn gwahanol gamau o ran datblygiad, o waith cynnar ar y gweill i ddarnau a phrototeipiau mwy datblygedig.

Daeth ein sesiwn Sylw ar Gymru ag artistiaid a sefydliadau Cymru ynghyd i siarad am eu gwaith, y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r sector, a sut gallai’r dyfodol edrych. Ochr yn ochr â hyn, roedd Arferion Gwrthsefyll a sesiynau eraill yn creu gofod i ni ystyried sut mae artistiaid ymdrochol yn ymateb i’r byd cythryblus ac anghyfiawn o’u cwmpas.

Tua diwedd y dydd fe wnaeth pawb dorchi llewys a chydweithio mewn perfformiad arbennig o work.txt, cyn cloi’r diwrnod gyda sesiwn swnllyd o rannu methiannau fel grŵp, gwaith perfformio ar y gweill o Pixel Puppets a pharti hwyr gyda DJs, pŵl a dawnsio. 

On a dim theatre stage, a performer in a bright green suit interacts with a woman near a screen reading “Pixel Puppets,” as a musician plays keyboard.

Ar ein diwrnod olaf, cynhaliodd Quinns, “arbenigwr chwarae” sy’n gweithio ar ymylon blêr newyddiaduraeth gemau, ei anerchiad, Tŷ o’r Enw Chwarae, a agorodd ein meddwl ynghylch gemau, chwarae ac ystyron posib ymdrochol. Wedyn fe gawson ni’n cyflwyno i Radius, rhwydwaith newydd o ganolfannau ymdrochol gwledydd Prydain sydd wedi ymroi i feithrin yr ecosystem arddangosfeydd ymdrochol.

Drwy gydol y dydd, fe fuon ni’n archwilio ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd, yn archwilio sut gall technolegau ymdrochol agor posibiliadau ar gyfer perfformio, ac yn gwneud cysylltiadau gyda’n dirprwyaeth o Tsieina oedd yn bresennol gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig. Fe gawson ni glywed hefyd gan ein harianwyr, fuodd yn trafod pam mae eu buddsoddiad yn bwysig, fe gymeron ni ran mewn gweithdy clownio ar gyfer adeiladu bydoedd ac fe gawson ni ychydig o gyfle i gael iachâd fel grŵp mewn sesiwn am chwythu plwc.

Diolch yn fawr iawn i Crossover Labs am gynhyrchu’r Peth Mawr, ac i’n tîm cynhyrchu anhygoel, partneriaid, arianwyr, artistiaid a’n rhwydwaith ehangach am wneud iddo ddigwydd.

Gwyliwch ein fideo o uchafbwyntiau isod.

 

Cydnabyddiaeth fideo: Y Peth Mawr 2026 – Darshan Gajjar – www.darshangajjar.co.uk

Credydau ffotograffiaeth: Y Peth Mawr 2026 – Laura Lee –  www.lauraleephotography.co.uk

Swyddi perthnasol eraill

Gweld yr holl newyddion