Archwilio

Beth fyddech chi’n ei wneud gyda £5,000 i archwilio celfyddydau ymdrochol?

Os oes gennych ymarfer creadigol ond prin neu ddim profiad o gelfyddydau/technolegau ymdrochol, gallech gael cyllid, cefnogaeth a chyngor i fod yn chwilfrydig ac i sbarduno syniadau newydd.

Yn addas ar gyfer…

Nod ffrwd Archwilio yw cefnogi artistiaid gyda:

  • archwilio technolegau ymdrochol ar gam cynnar
  • datblygu sgiliau a gwybodaeth sylfaenol ym maes celfyddydau ymdrochol
  • profi gweithiau celf ymdrochol
  • cwrdd â chydweithwyr a phartneriaid posib
  • ehangu eu rhwydweithiau

Ffocws

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cymorth am hyd at chwe mis (h.y. am hyd eu prosiectau) gan gynhyrchwyr Celfyddydau Ymdrochol a’r rhwydwaith ehangach.

Llinell Amser

  • 29 Medi 2025 Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
  • Ionawr 2026 Hysbysu ymgeiswyr
  • Chwef - Gorff 2026 Prosiectau Archwilio’n cael eu cynnal

Pam gwneud cais am Archwilio?

Ydych chi’n artist gyda meddwl chwilfrydig sydd eisiau archwilio celfyddydau/technolegau ymdrochol?

Gallech ddefnyddio’r cyllid Archwilio ar gyfer:

  • archwilio sut y gall technolegau ymdrochol wahanol ymgysylltu â chynulleidfa gyda’ch gwaith
  • ymchwilio i neu ddatblygu syniadau ar gyfer prosiect celfyddydau ymdrochol
  • mynychu preswyliadau, digwyddiadau a gweithdai perthnasol
  • cael hyfforddiant a ffurfiau eraill o gefnogaeth
  • prynu deunyddiau, trwyddedau meddalwedd ac offer technegol eraill
  • talu artistiaid, technolegwyr a chydweithwyr eraill
  • llogi stiwdios, mannau ymarfer, arddangosfeydd neu ddigwyddiadau
  • ymchwilio i opsiynau hygyrchedd ar gyfer anghenion mynediad cynulleidfaoedd
  • gwneud profion cynulleidfa neu arddangosfeydd yn fwy hygyrch, amrywiol a chynhwysol (e.e. drwy dalu am gyfieithu BSL, fformatau hygyrch, is-deitlau ac ati)

 

Gweler ein canllawiau cyllido isod am fanylion llawn o’r costau cymwys.

 

Ynghyd â’r cyllid, rydym yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth bwrpasol:

  • 3 x cyfarfod gyda Chynhyrchydd Celfyddydau Ymdrochol
  • Rhwydwaith cyfoedion wedi’i hwyluso
  • Digwyddiadau a chyfleoedd cenedl-benodol

Cymhwyster Archwilio

Rydych chi’n gymwys i wneud cais am gyllid Archwilio os ydych chi:

  • yn artist unigol, ymarferydd creadigol neu dechnolegydd creadigol `
    (neu)
  • yn gwneud cais ar ran sefydliad sy’n seiliedig ar y celfyddydau, grŵp bach neu gasgliad (10 person neu lai)

ac os ydych chi hefyd:

  • yn byw yn y DU
    yn 18 oed neu’n hŷn
  • yn meddu ar gyfrif banc yn y DU yn eich enw eich hun
  • gyda prin neu ddim profiad o gelfyddydau ymdrochol
  • gyda chynnig sy’n cael ei arwain gan artist ac/neu wedi’i ganolbwyntio ar y celfyddydau, ac sy’n archwilio’r defnydd o dechnoleg ymdrochol yn eich ymarfer creadigol
  • yn gwneud cais am y swm llawn
  • gyda’ch cyllideb yn cynnwys taliad am eich amser a’r rhai sy’n ymwneud â’r gweithgaredd, ac heb gynnwys unrhyw gostau anghymwys

 

Mae artistiaid cymwys yn gallu cyflwyno un cais yn unig yn y rownd hon o gyllid — i Archwilio, Arbrofi neu Ehangu. Gallwch wneud cais yn y rownd hon hyd yn oed os gwnaethoch chi wneud cais mewn rownd flaenorol.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais drwy sain, fideo neu destun — yn Gymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain — gan ddefnyddio ein porth cais ar-lein.

Mae ein canllawiau cyllido ar gael i’w lawrlwytho isod yn y ffurfiau canlynol: Cymraeg, Saesneg, print bras, Darllen Hawdd, Iaith Arwyddion Prydain ac sain.

Pryd i wneud cais

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun 29 Medi 2025 am 14:00.

Cefnogaeth mynediad ar gyfer eich cais

Mewn rhai achosion, gallwn eich helpu gyda’ch cais drwy gyfrannu at gostau mynediad (e.e. gweithwyr cymorth neu gyfieithwyr).
Y dyddiad cau i ofyn am gefnogaeth mynediad yw Dydd Llun 1 Medi 2025 am 17:00.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gefnogaeth mynediad a sut i gysylltu â ni ar ein tudalen cefnogaeth mynediad.

Cwestiynau?

Ffrydiau cyllido eraill

Mae tair ffrwd wahanol o gyllid:

  • Archwilio (£5,000)
  • Arbrofi (£20,000)
  • Ehangu (£50,000)

Gallwch ddarganfod mwy ar ein tudalen Cyllid.

Ddim yn siŵr pa ffrwd sy’n iawn i chi?