Newyddion

Newyddion diweddaraf

26 Ionawr

Diweddariad Cyllid Celfyddydau Ymdrochol

Ym mis Hydref 2025, fe gaeon ni’r alwad agored olaf ar gyfer Celfyddydau Ymdrochol, gan wahodd artistiaid i wneud cais am gyllid Archwilio (£5,000), Arbrofi (£20,000) neu Estyn (£50,000) er mwyn datblygu eu gwaith gan ddefnyddio technolegau ymdrochol.

Diolch i bawb a wnaeth gais, gan rannu’ch syniadau anhygoel a’ch ymarfer creadigol ysbrydoledig gyda ni. Dros y ddwy alwad agored ddiwethaf fe gawson ni dros 5000 o geisiadau gan artistiaid o bob rhan o wledydd Prydain. Roedd syniadau’n cwmpasu sawl ffurf ar gelf, gan dynnu ar amrywiaeth o themâu a gwneud defnydd o ystod eang o dechnolegau ymdrochol.

Mae ein tîm o adolygwyr wedi bod yn ystyried pob un o’r ceisiadau’n ofalus, ac rydyn ni’n bwriadu hysbysu pob ymgeisydd llwyddiannus ac aflwyddiannus erbyn dydd Gwener 30 Ionawr 2026. Yr eithriad i hynny yw ymgeiswyr ffrwd Estyn a gafodd hysbysiad ym mis Tachwedd yn nodi oedden nhw’n cael eu gwahodd i gyfweliad cam 2 ai peidio.

Os na fyddwch chi wedi cael e-bost erbyn y dyddiad yma:

  • gwiriwch eich ffolder sothach / sbam
  • mewngofnodwch i’ch cyfrif Good Grants i weld statws eich cais
  • os na allwch chi weld diweddariad, cysylltwch â’n tîm drwy info@immersivearts.uk

Rydyn ni’n edrych ymlaen i ariannu tua 140 o artistiaid a phrosiectau yn y rownd yma, ac i gynnig rhaglen gyfoethog o ddigwyddiadau, ymchwil ac adnoddau drwy gydol y flwyddyn i gefnogi’r gymuned ehangach.

Fe hoffen ni gymryd eiliad i nodi’n gwerthfawrogiad o’r holl artistiaid a syniadau anhygoel na fyddwn ni, yn anffodus, yn gallu eu hariannu yn y rownd yma. Rydyn ni’n cydnabod yr amser, y gofal a’r ymdrech sy’n mynd i mewn i gyflwyno cynnig, ac rydyn ni’n ddiolchgar am bob cais rydyn ni wedi’i gael. Er na fyddwn ni’n gallu cynnig adborth unigol, yn fuan byddwn ni’n cyhoeddi sylwadau, yn debyg i’r rhai gafodd eu rhannu yn dilyn y rownd ddiwethaf o gyllid. Bydd y sylwadau yma’n crynhoi gwybodaeth gan aseswyr, yn rhannu tueddiadau welson ni ar draws y ceisiadau, ac yn cynnig adborth manwl ar draws y tair haen o gyllid er mwyn cefnogi’r rhai nad ydyn nhw o bosib wedi llwyddo y tro yma i lwyddo y tro nesaf.

Byddwn yn gweithio gydag artistiaid fydd yn cael eu hariannu er mwyn rhannu manylion eu prosiectau drwy wefan Celfyddydau Ymdrochol, a bydd rhestr lawn o’r dyfarniadau ar gael yn y gwanwyn.

Swyddi perthnasol eraill

Gweld yr holl newyddion