Newyddion

Newyddion diweddaraf

31 Mawrth

Dros 140 o brosiectau yn cael dros £2 filiwn yn ail rownd ariannu Celfyddydau Ymdrochol

Mae dros £2 filiwn wedi’u dyrannu i 142 o brosiectau dan arweiniad artistiaid ledled gwledydd Prydain yn yr ail rownd o gyllid Celfyddydau Ymdrochol – cynllun sy’n cefnogi artistiaid o bob cefndir a phrofiad i weithio gyda thechnolegau ymdrochol. 

Gyda thri swm gwahanol ar gael o ran grantiau – £5,000, £20,000 a £50,000 – mae’r cyllid yn cefnogi artistiaid ar wahanol gamau o’u datblygiad creadigol: i archwilio, arbrofi neu estyn sut maen nhw’n gwneud gwaith sy’n defnyddio technoleg er mwyn cynnwys cynulleidfa.  

Cafodd Celfyddydau Ymdrochol dros 2700 o geisiadau o bob rhan o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon – hyd yn oed yn fwy na’r nifer a ddaeth i law yn rownd ariannu gyntaf y rhaglen. Mae’r ymateb yn dangos galw cryf a pharhaus gan artistiaid i allu datblygu gwaith dewr, arloesol, sensitif a heriol gan ddefnyddio technolegau ymdrochol fel rhan annatod o’u pecyn creadigol. 

Mae’r 142 o artistiaid llwyddiannus yn garfan sydd wir yn cynrychioli pob rhan o wledydd Prydain. Maen nhw’n byw mor bell i’r gogledd ag Ynysoedd Heledd, i Falmouth yn y de, o Ben Llŷn yn y gorllewin i Margate yn y dwyrain, yn ogystal â rhanbarthau’r ffin yn Swydd Derry a Tyrone yng Ngogledd Iwerddon – gan adlewyrchu ehangder ac amrywiaeth ddaearyddol y doniau ymdrochol sydd i’w gweld ar hyd a lled gwledydd Prydain.

Dyfarnwyd £2,060,000 yn yr ail rownd yma o gyllid grant Celfyddydau Ymdrochol – bron ddwywaith cymaint â’r rownd gyntaf: 

  • 80 × £5,000 – grantiau Archwilio 
  • 48 × £20,000 – grantiau Arbrofi
  • 14 × £50,000 – grantiau Estyn 

Mae’r artistiaid sy’n cael eu hariannu yn gweithio ar draws ystod eang o ffurfiau ar gelf gan gynnwys sain, cerddoriaeth, theatr, dawns, dylunio gemau, celfyddydau gweledol, cerflunwaith, ffotograffiaeth, animeiddio, pensaernïaeth a gwneud ffilmiau. Byddan nhw’n gweithio gydag ystod eang o dechnolegau ymdrochol gan gynnwys realiti rhithwir, estynedig a chymysg, ffilm 360o, sain ofodol, rhyngwynebau haptig a chyffyrddol, deallusrwydd artiffisial, bioadborth ac amgylcheddau ymatebol. 

Meddai Verity McIntosh, Cyfarwyddwr y Celfyddydau Ymdrochol ac Athro mewn Diwylliant a Chelfyddydau Ymdrochol ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr Bryste: 

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gallu cefnogi cymaint o artistiaid a phrosiectau eithriadol yng ngwledydd Prydain drwy’r cyhoeddiad ariannu diweddaraf yma. Diolch yn fawr i’r partneriaid a’r arianwyr anhygoel sy’n dal i’w gwneud hi’n bosib i artistiaid ddatblygu eu harfer a chreu gweithiau newydd beiddgar sy’n cael effaith ddiwylliannol bwerus, gan gysylltu creadigrwydd gwledydd Prydain â chynulleidfaoedd ledled y byd.” 

Wrth wneud sylwadau ar ran arianwyr y rhaglen, sef Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) UKRI, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Alban Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, meddai cadeirydd gweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Christopher Smith: 

“Mae’r garfan gyntaf o artistiaid a gefnogir gan y Celfyddydau Ymdrochol wedi dangos sut gall technoleg ymdrochol hybu twf ac arloesedd yn y sector celfyddydau a diwylliant. Rydyn ni’n falch iawn o allu cefnogi carfan hyd yn oed yn fwy o artistiaid drwy’r rownd ariannu ddiweddaraf yma, ac yn edrych ymlaen yn fawr at ddilyn eu cynnydd wrth i’r gwaith esblygu.” 

Mae rhagor o fanylion am yr holl brosiectau sydd wedi’u hariannu ar gael ar wefan Celfyddydau Ymdrochol. Mae rhai o’r prosiectau sydd wedi’u hariannu yn cynnwys: 

Llundain, Lloegr: Sound and Fury gan Pinny Grylls – wedi ennill grant Estyn (cafodd grant Arbrofi yn 2025).

Mae Sound and Fury yn brofiad theatrig hybrid sy’n ail-ddychmygu Macbeth Shakespeare ym myd rhithwir gêm ar-lein. Wedi’i berfformio ar lwyfan a’r tu mewn i’r gêm ar yr un pryd, mae’n pontio gofodau ffisegol a digidol. Nid dim ond gwylwyr yw’r cynulleidfaoedd ond ‘chwaraewyr’ – yn ymuno â brwydrau fflachdorf yn y gêm, yn siapio golygfeydd, ac yn teimlo’r effaith drwy oleuadau, sain a hapteg ymatebol. Mae integreiddio Iaith Arwyddion Prydain a chapsiynu creadigol yn sicrhau bod hygyrchedd wedi’i blethu i mewn i seiliau’r perfformiad, gan wneud y profiad hybrid yn un cynhwysol, ymdrochol, ac anrhagweladwy.

Gwneuthurwr ffilmiau clodwiw yw Pinny Grylls, sydd wedi ennill Gwobr Torri Trwodd BAFTA 2025. Mae ei ffilm gyntaf, Grand Theft Hamlet, a gyd-gyfarwyddwyd gyda Sam Crane, wedi ennill Gwobr y Rheithgor am y Ffilm Ddogfen Orau yn SXSW, dwy Wobr BIFA, Gwobr Grierson ac enwebiad ar gyfer rhestr hir BAFTA. Mae wedi’i dosbarthu gan MUBI, ac mae’n croniclo eu cynhyrchiad o “Hamlet” a enillodd Wobr Arloesi ar Lwyfan i mewn yn Grand Theft Auto. Mae Pinny yn aelod balch o’r gymuned fyddar. 

Lerpwl / Llundain, Lloegr: The Distance Between Beats Is The Only Distance Between Us gan Myra Appannah – wedi ennill grant Arbrofi.

Gêm rythm hynafol a phersonol yw The Distance Between Beats Is The Only Distance Between Us, sydd wedi’i hadeiladu gyda churiadau a grëwyd gyda chymunedau mudol, lle mae chwaraewyr yn datgloi bydoedd o fudo, atgofion a chwedloniaeth drwy ddal patrymau curiad. Drwy rythm, mae stori sut mae pobl yn cyrraedd ac yn dod o hyd i’w gilydd yng ngwledydd Prydain yn dod yn rhywbeth sy’n cael ei rannu a’i deimlo. Wedi’i greu mewn cydweithrediad ag Asylum Link yn Toxteth gyda chefnogaeth gan Music Futures, Prifysgol John Moores Lerpwl a FACT Lerpwl, bydd sesiynau creadigol gyda chyfranogwyr mudol yn creu curiadau, straeon a chymeriadau chwedlonol fydd yn siapio’r prototeip yn uniongyrchol.

Artist hunanddysgedig yw Myra Appannah, sy’n gyd-gyfarwyddwr BRiGHTBLACK. Mae’n awdur sydd wedi bod ar restr hir BAFTA ac yn Arweinydd Creadigol ar “un o brofiadau ymdrochol mwyaf dylanwadol gwledydd Prydain yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf” (UKRI). Mae ei gwaith yn cwmpasu ac yn cyfuno profiadau ymdrochol ar raddfa fawr, gosodiadau rhyngweithiol, realiti ymestynnol, gemau, ffilm, sain, deallusrwydd artiffisial a pherfformiadau byw.

Belffast, Gogledd Iwerddon: Becoming gan Helena Hamilton – wedi ennill grant Estyn (wedi cael grant Arbrofi yn 2025).

Gosodwaith rhyngweithiol am y trawsnewidiad dwys o ddod yn fam yw Becoming. Mae’n tynnu ar ymchwil ansoddol gyda 25 o famau, gan adlewyrchu themâu sy’n codi dro ar ôl tro gan gynnwys unigedd, gorlethu a llawenydd. Disgrifiodd llawer o gyfranogwyr pa mor amhosib ei hesbonio yw’r broses. Mewn ymateb, mae’r gwaith yn cyfuno sain, hapteg, delwedd a rhyngweithio i gyfleu’r hyn na all iaith ar ei phen ei hunan ei wneud.

Artist sy’n gweithio ar y croesffyrdd rhwng celfyddyd weledol, sain a rhyngweithio digidol yw Helena Hamilton. Mae eu harfer yn archwilio’r perthnasoedd deinamig rhwng sain, delwedd a safle, gan bontio’r digidol a’r ffisegol er mwyn creu profiadau sy’n ennyn ystyr yn hytrach na’i orfodi.

Dundee, yr Alban: The Game gan Biome Collective (Malath Abbas ac Andy Truscott) – wedi ennill grant Estyn.

Gwaith celf ar ffurf taith gerdded sain ymdrochol yn Dundee gan Biome Collective yw The Game. Gwahoddir cynulleidfaoedd i lawrlwytho ap symudol, gwisgo clustffonau, a cherdded drwy’r ddinas. Mae’r llwybr, y cyflymder, a’r seibiannau yn sbarduno sain haenog, siantiau, sgyrsiau, cerddoriaeth, a recordiadau maes. Mae pob taith yn creu cyfansoddiad gwahanol, wedi’i siapio gan sut mae pobl yn symud drwy le.

Mae’r gwaith yn archwilio pêl-droed fel diwylliant byw, gydag atgof, defod, a hunaniaeth leol yn ganolog yn hytrach na bod yn sioe mewn stadiwm. Mae’n tynnu ar atgofion tad Andy Truscott, un o gefnogwyr gydol oes Dundee United sy’n byw gyda dementia. Mae’n rhoi teithiau bob dydd ac arferion diwrnod gêm ar gadw fel gwaith celf cyhoeddus.

Bydd y prosiect yn ehangu’r prototeip presennol drwy gyd-ddylunio ag Alzheimer Scotland a phartneriaid lleol gan gynnwys Ymddiriedolaeth Gymunedol Dundee United, Dinas Dylunio UNESCO Dundee, a V&A Dundee. Mae’r cam yma’n dyfnhau hygyrchedd ac awduraeth gymunedol, gan symud tuag at ryddhau’n gyhoeddus a digwyddiad lansio ledled y ddinas sydd wedi’i wreiddio yn nhreftadaeth bêl-droed Dundee.

Casnewydd, Cymru: Becoming Monster gan Connor Allen – wedi ennill grant Estyn.

Bydd yr artist amlddisgyblaethol llwyddiannus a’r cyn Children’s Laureate Wales, Connor Allen, yn dod â’r syniad o ddod yn anghenfil yn fyw drwy brofiad clustffonau realiti ymestynnol ymdrochol sy’n gwahodd cynulleidfaoedd i gamu i mewn i gyfres o atgofion cydgysylltiedig sydd wedi’u tynnu o’i gerdd Remove the Knot. 

Mae Allen yn gwahodd pobl yn llwyr i mewn i’w fyd – byd sydd wedi’i siapio gan amddifadedd, dicter a cholled ond sydd yn y pen draw yn trawsnewid yn obaith ac yn hunan-dderbyn. Drwy dechnoleg ymdrochol reddfol, nid yw cynulleidfaoedd yn gwylio’r atgofion hyn o bell; maen nhw’n eu profi o’r tu mewn.

Gan gyfuno’r gair llafar ag amgylcheddau 3D ymdrochol, mae’r darn yn gwthio ei waith adrodd straeon i ddimensiwn newydd – gan archwilio terfynau iaith, grym y cof a sut mae straeon yn esblygu pan fydd technoleg yn agor drysau newydd.

Cryfhau cynrychiolaeth ym maes celfyddydau ymdrochol

Unwaith eto, mae tîm Celfyddydau Ymdrochol yn falch o weld bod artistiaid o ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau bywyd wedi dewis gwneud cais i’r cynllun. Mae dros chwarter y ceisiadau a’r artistiaid llwyddiannus yn y rownd yma yn dod o’r mwyafrif byd-eang, mae dros 55% yn fenywod neu’n arddel hunaniaeth drawsryweddol, anneuaidd, rhywedd cwiar, di-rywedd, neu rywedd arall sydd wedi’i ymyleiddio, ac mae dros 45% yn anabl, yn F/fyddar, yn niwrowahanol neu â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor neu salwch cronig. 

Ychwanegodd yr Athro McIntosh: 

“Mae ymchwil yn awgrymu bod pob un o’r cymunedau yma’n dal i fod heb eu cynrychioli’n ddigonol yn sector y celfyddydau ac yn y sector technoleg, ac rydyn ni wrth ein bodd yn gweld cynrychiolaeth mor gryf gan artistiaid anhygoel ar draws y garfan.” 

Meddai Asha Easton o Fenter Amrywiaeth XR, un o bartneriaid consortiwm Celfyddydau Ymdrochol: 

“Yn fy rôl ddeuol yn cynrychioli Menter Amrywiaeth XR a Rhwydwaith Technoleg Ymdrochol Innovate UK, rwy’n falch iawn o’r ffaith bod rhaglen Celfyddydau Ymdrochol wedi denu ceisiadau gan artistiaid o ystod anhygoel o amrywiol o gefndiroedd a phrofiadau bywyd o bob rhan o wledydd Prydain.

“Rydyn ni’n falch o weld bod amrywiaeth yn dal i gael ei hadlewyrchu yn y garfan yma o brosiectau sydd wedi’u hariannu, gan chwalu pob targed am yr ail dro yn olynol. I fi, mae’r llwyddiant yma’n dod o’r lefel o ofal a manylder mae’r tîm wedi’i roi i wneud y broses o wneud cais a’r ffordd mae’r rhaglen yn cael ei darparu mor gynhwysol â phosib, gan fod yn agored ac yn hyblyg bob amser i adborth y gymuned o artistiaid rydyn ni’n ei gwasanaethu.”

Swyddi perthnasol eraill

Gweld yr holl newyddion