Dewch i archwilio potensial creadigol celfyddydau ymdrochol drwy raglen arloesol sy’n cael ei chynnal ar draws gwledydd Prydain.

Hoffech chi archwilio technoleg ymdrochol yn eich ymarfer creadigol?

Rhaglen gyllid a chymorth newydd sbon ar gyfer artistiaid yng ngwledydd Prydain yw Celfyddydau Ymdrochol, sydd wedi’i dylunio i’w helpu i ddatblygu eu celf drwy dechnolegau ymdrochol. Caiff artistiaid ar bob lefel o brofiad eu gwahodd i wneud cais, i archwilio, i arbrofi neu i estyn ar sut maen nhw’n gweithio gyda’r maes ymarfer cyffrous yma.

Y Peth Mawr

Mae’n digwyddiad blynyddol cyntaf ni, Y Peth Mawr yn dod ag artistiaid, pobl greadigol, ymchwilwyr a thechnolegwyr ynghyd o bob rhan o wledydd Prydain a thu hwnt sydd eisiau siapio dyfodol celf ymdrochol.

Dros 3 diwrnod yn Bradford, cewch y cyfle i gysylltu, cael eich ysbrydoli ac esblygu eich gwaith.

Darganfod mwy am

Ein meysydd Ariannu

Archwilio

Beth fyddech chi’n ei wneud gyda £5,000 i archwilio’r celfyddydau ymdrochol?

Os oes gennych chi ymarfer creadigol ond dim llawer o brofiad gyda thechnolegau neu gelfyddydau ymdrochol, gallech chi gael arian, cymorth a chyngor i fod yn chwilfrydig ac i sbarduno gwaith meddwl newydd. 

Dysgu mwy am Archwilio

Arbrofi

Ydych chi’n barod i roi eich syniadau ar waith a chreu rhywbeth y gallwch ei brofi gyda chynulleidfa?

Gwnewch gais am £20,000 a chael mynediad at weithdai a chymorth wedi’u teilwra i arbrofi gyda syniad a datblygu prosiect.

Dysgu mwy am Arbrofi

Estyn

Ydych chi eisoes yn datblygu prosiect celfyddydau ymdrochol?

Gwnewch gais am £50,000 yn ogystal â mentora pwrpasol a chymorth arbenigol i estyn eich gwaith a’i gyflwyno i gynulleidfa.

Dysgu mwy am Estyn

Newyddion Diweddaraf

Gweld yr holl newyddion