Cyllid
Rhwng 2024 a 2027, mae dros 200 o artistiaid ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu cefnogi i archwilio, i arbrofi ac i estyn eu harfer creadigol drwy dechnolegau ymdrochol.
Rhaglen ariannu a chefnogi ar gyfer artistiaid yng ngwledydd Prydain yw Celfyddydau Ymdrochol, a daeth yr ail rownd ariannu, sef y rownd olaf, i ben ddydd Llun 29 Medi 2025.
Nod y rhaglen yw helpu’r rhai sy’n gwneud cais i ddatblygu eu celf drwy ddefnyddio technolegau ymdrochol. Mae’r rhaglen yn gwahodd artistiaid o bob lefel o brofiad i archwilio, i arbrofi neu i estyn sut maen nhw’n gweithio gyda’r maes cyffrous yma.
Does dim angen i artist fod yn feistr technolegol er mwyn cymryd rhan — y cyfan sydd ei angen yw meddwl chwilfrydig ac arfer creadigol. Y nod yw chwalu rhwystrau a gwneud maes sy’n gallu bod yn gaeedig yn llawer mwy hygyrch i bawb.
Mae pob ffrwd wedi’i chynllunio i gefnogi artistiaid ar wahanol gamau yn eu datblygiad creadigol gyda thechnolegau ymdrochol.
Mae cronfeydd Archwilio (£5,000), Arbrofi (£20,000), ac Estyn (£50,000) yn cefnogi artistiaid ar wahanol gamau o ddatblygu prosiect celfyddydau ymdrochol.
Mae Archwilio yn helpu artistiaid i ymchwilio i dechnolegau ymdrochol ar gam cynnar, i feithrin sgiliau sylfaenol, i brofi gweithiau ymdrochol, ac i gysylltu â chydweithwyr. Mae Arbrofi yn galluogi artistiaid i greu a phrofi gweithiau arbrofol gyda chynulleidfaoedd bach, i fireinio eu defnydd o dechnoleg ymdrochol, ac i roi sylw i fynediad, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae Estyn yn cefnogi ffyrdd o ddatblygu neu gwblhau prosiectau datblygedig, gan wella dulliau o gynnwys, cyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
Pwy sy’n gymwys
Mae artistiaid yn gymwys i wneud cais am grant Celfyddydau Ymdrochol:
- os ydyn nhw’n artist unigol, yn ymarferydd creadigol neu’n dechnolegydd.
- os ydyn nhw’n sefydliad celfyddydol, yn gasgleb neu’n grŵp bach (deg o bobl neu lai ar gyfer Arbrofi/Archwilio, hyd at 50 o bobl ar gyfer Estyn).
- os ydyn nhw’n byw yng ngwledydd Prydain, eu bod yn 18 oed neu’n hŷn, a bod ganddyn nhw gyfrif banc yng ngwledydd Prydain.
Mae’n bosib enwi sefydliadau mwy fel partner ar y cais, ond nid yw hyn yn ddisgwyliedig nac yn ofynnol.
Dyfarniadau Rownd 1
Yn y rownd gyntaf o gyllid, fe gawson ni 2,517 o geisiadau gan artistiaid ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon — llawer mwy na’r disgwyl. Mae’r ymateb yma’n dangos yr awydd cryf ymhlith artistiaid i greu a rhannu gwaith ymdrochol newydd.
Dyfarnwyd cyfanswm o £1,180,000 i 83 o brosiectau, wedi’u dosbarthu ar draws y tair ffrwd fel a ganlyn:
- 50 × £5,000 – grantiau Archwilio
- 24 × £20,000 – grantiau Arbrofi
- 9 × £50,000 – grantiau Estyn
Mae’r prosiectau sy’n cael eu hariannu yn amrywiol iawn o ran ffurfiau ar gelfyddyd, gan gynnwys dawns, theatr, celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, gemau, animeiddio, ffilm, cerflunio a chelf fyw. Mae’r artistiaid yn gweithio gyda thechnolegau fel realiti rhithwir, realiti estynedig, realiti cymysg, sain ofodol, tafluniadau rhyngweithiol, gweld peirianyddol, amgylcheddau ymatebol, deallusrwydd artiffisial, hapteg a thecstilau cysylltiedig.
Dyfarniadau Rownd 2
Daeth yr ail rownd, sef y rownd olaf, o gyllid Celfyddydau Ymdrochol i ben ddydd Llun 29 Medi 2025. Rydyn ni wrthi’n adolygu’r ceisiadau ar hyn o bryd, a bydd yr artistiaid a ddewisir yn cael eu cyhoeddi yn 2026.
Prosiectau sy’n cael eu hariannu
Bydd dros 200 o artistiaid a thimau creadigol yn cael cefnogaeth drwy raglen Celfyddydau Ymdrochol rhwng 2024 a 2027. Gallwch weld yr holl brosiectau a gafodd eu hariannu yn y rownd gyntaf isod.
Adnoddau
Gallwch gael gwybodaeth am y rhaglen, canllawiau, lawrlwythiadau a phecynnau gwybodaeth drwy’r adran Adnoddau isod.