Dewch i archwilio potensial creadigol celfyddydau ymdrochol drwy raglen arloesol sy’n cael ei chynnal ar draws gwledydd Prydain.
Hoffech chi archwilio technoleg ymdrochol yn eich ymarfer creadigol?
Rhaglen gyllid a chymorth newydd sbon ar gyfer artistiaid yng ngwledydd Prydain yw Celfyddydau Ymdrochol, sydd wedi’i dylunio i’w helpu i ddatblygu eu celf drwy dechnolegau ymdrochol. Caiff artistiaid ar bob lefel o brofiad eu gwahodd i wneud cais, i archwilio, i arbrofi neu i estyn ar sut maen nhw’n gweithio gyda’r maes ymarfer cyffrous yma.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod rownd derfynol cyllido’r Celfyddydau Ymdrochol bellach ar agor.
Dyma’ch cyfle olaf i wneud cais am gymorth i ddatblygu gwaith gan ddefnyddio technolegau ymdrochol.
Mae’r cyfnod gwneud cais ar agor o heddiw tan ddydd Llun 29 Medi 2025.