Ymchwil

Isadeiledd ac Ecosystem

Isadeiledd ac Ecosystem

Mae Verity McIntosh (Cyfarwyddwr a Phrif Ymchwilydd, Celfyddydau Ymdrochol, UWE Bryste) ac Asha Easton (Arweinydd a chyd-sylfaenydd Rhwydwaith Technoleg Ymdrochol Innovate UK, XR Diversity Initiative) yn edrych ar y darlun ehangach, ar y seilweithiau a’r ecosystemau y mae celfyddyd ymdrochol yn bodoli ynddynt.

Isadeiledd ac Ecosystem

Dyma rai o’r meysydd mae’r tîm hwn yn ymchwilio iddynt:

  • y modelau busnes sy’n bodoli’n fyd-eang sy’n cefnogi datblygiad gweithiau ymdrochol
  • y prif ddulliau a’r dulliau sy’n dod i’r amlwg o ran arddangos, dosbarthu, teithio a rhyddfreinio gweithiau celf
  • y materion a’r heriau parhaus sy’n rhwystro rhwydwaith o ymarferwyr amrywiol a chynaliadwy
  • y bylchau yn yr ecosystem hyfforddi a datblygu sy’n arwain at golli doniau ac arloeswyr, a ddisgrifiwyd yn adroddiad Tŷ’r Arglwyddi ‘At risk: our creative future’
  • yn ogystal â’r ffyrdd y gall rhaglen y Celfyddydau Ymdrochol fynd i’r afael â’r bylchau hyn, a beth arall sydd ei angen, nawr, ac i’r dyfodol

Meet the team

Asha Easton

Asha Easton

Cyd-sylfaenydd (hi)

Menter Amrywiaeth XR

Asha yw Arweinydd Ymdrochol Innovate UK KTN. Mae’n arbennig o angerddol am helpu i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant. Mae’n un o aelodau gwreiddiol cangen Llundain o gymuned Menywod mewn Technoleg Ymdrochol (WiiT), mae’n gyd-sylfaenydd Menter Amrywiaeth XR, ac yn gynghorydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gronfa Metaverse gyntaf Ewrop, FOV Ventures.

Verity McIntosh

Verity McIntosh

Cyfarwyddwr a Phrif Ymchwilydd (hi)

Celfyddydau Ymdrochol

Mae Verity’n gweithio gydag artistiaid, technolegwyr, ymchwilwyr, a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn effaith technoleg ymdrochol ar gymdeithas. Fel Athro Cyswllt yn UWE Bryste, Verity sefydlodd un o raglenni meistr realiti ymestynnol cyntaf Ewrop a chyd-sefydlu’r Bristol VR Lab. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar foeseg realiti ymestynnol, a hawliau dynol mewn amgylcheddau rhithwir.

Amy Densley

Amy Densley

Cydlynydd, Cynhyrchydd ac Ymchwilydd yn y DCRC (hi)

Based at Watershed, Bristol

Mae Amy yn cydlynu’r Ganolfan Ymchwil Diwylliannau Digidol (DCRC) a rhaglenni ymchwil UWE, gan gynnwys Celfyddydau Ymdrochol a MyWorld. Mae hi hefyd yn ymchwilio i ddulliau arddangos a dosbarthu profiadau celfyddydol ymdrochol. Mae Amy wedi gweithio ar brosiectau fel Alternative Technologies, Grounding Technologies, y Cyngor Ffilm Ddogfennol, Spoken Memories, ac wedi cynhyrchu’r 100fed perfformiad o I Am Echoborg.

Orange outline illustration of character with two long legs and a cloudlike head with orange dots for eyes.

Rydyn ni hefyd yn awyddus i ddysgu gan yr ymchwil anhygoel sy’n cael ei gwneud gan eraill ledled y byd ac ymhelaethu arni. Os oes gennych chi rywbeth yr hoffech ei rannu gyda ni, cysylltwch â ni.

Ymchwil berthnasol arall

Gweler yr holl ymchwil