Cymorth Hygyrchedd

Nod Celfyddydau Ymdrochol yw chwalu rhwystrau i artistiaid o bob cefndir greu ac ymgysylltu â thechnolegau ymdrochol. Rydyn ni am ddathlu gwahanol straeon a phrofiadau a herio ffyrdd traddodiadol o feddwl, creu a gweithio.

Mae’r dudalen yma’n esbonio sut rydyn ni’n cefnogi artistiaid yn ystod y broses ymgeisio ac ar ôl iddyn nhw gael cyllid drwy Celfyddydau Ymdrochol.

Cymorth Hygyrchedd

Mae cymorth hygyrchedd ar gael ar gyfer:

  • pobl sy’n Fyddar, yn anabl neu’n niwroamrywiol
  • pobl sy’n profi problemau iechyd corfforol neu feddyliol gwael yn y tymor byr neu’r tymor hir. 

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n partner Unlimited, sefydliad celfyddydau anabledd blaenllaw.

Os na allwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth hygyrchedd sydd ei hangen arnoch ar y dudalen yma, anfonwch e-bost aton ni neu ffoniwch/tecstiwch 07926 699909.

 

Dim ond yn rhan-amser mae staff yn gallu ateb ein ffôn, felly os nad ydyn ni ar gael pan fyddwch yn ffonio gallwch adael neges llais i ni a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cymorth gwneud cais

Ganllawiau

Darllenwch Ganllawiau Celfyddydau Ymdrochol i ddeall y broses ariannu a gwneud cais. Mae’r ddogfen ganllawiau ar gael yn y fformatau canlynol:

Ffurflenni Cais

Gallwch wneud cais i gronfa Celfyddydau Ymdrochol gan ddefnyddio ein porth ymgeisio ar-lein. A gallwch wneud cais drwy sain, fideo neu destun, ac yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn Iaith Arwyddion Prydain. 

Gallwch lawrlwytho rhagolwg o’r ffurflenni cais i weld y cwestiynau a sut maen nhw wedi’u trefnu. Gall hyn eich helpu i baratoi eich atebion a gweithio allan unrhyw gymorth y gallech fod ei angen cyn gwneud cais ar y porth ymgeisio:

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2pm, dydd Llun 29 Medi 2025.

Sut i ofyn am gymorth hygyrchedd

Mewn rhai achosion, gallwn ni helpu gyda chostau’r cymorth hygyrchedd sydd ei angen arnoch i gwblhau cais. Gallai hyn gynnwys:

  • gweithiwr cymorth
  • Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain neu gymerwr nodiadau

Darllenwch ein dogfen Gwybodaeth i Artistiaid a Chyd-weithwyr Cymorth cyn gwneud cais am gefnogaeth.


Llenwch y ffurflen yma i ofyn am gymorth gyda chostau hygyrchedd. Byddwn yn anelu at ymateb a chadarnhau eich cais o fewn pythefnos.

Os oes angen y ffurflen arnoch mewn fformat arall, e-bostiwch ni neu ffoniwch/anfonwch neges destun aton ni i 07926 699909.

Dyddiad cau i ofyn am gymorth hygyrchedd: 5pm, Dydd Llun 1 Medi 2025.

Er mwyn rhoi digon o amser i ni drefnu’r cymorth sydd ei angen arnoch cyn y dyddiad cau ar gyfer y cylch ariannu (29 Medi 2025).

Faint o gymorth alla i ofyn amdano?

Rydyn ni’n deall bod gofynion hygyrchedd yn gallu amrywio, isod mae canllaw yn seiliedig ar y cymorth oedd ei angen ar bobl y llynedd:

  • Archwilio: Hyd at 8 awr o gymorth
  • Arbrofi: 8-16 awr
  • Estyn: Hyd at 8 awr i lenwi’r ffurflen Mynegi Diddordeb.

    Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, gallwch ofyn am fwy o gymorth i baratoi ar gyfer eich cyfweliad.

Mae ganddon ni gyllideb gyfyngedig ar gyfer cymorth hygyrchedd. Gofynnwch am gymorth cyn gynted â phosib.

Trefnu galwad gyda chynhyrchydd

Os ydych chi’n wynebu rhwystrau rhag gwneud cais, gallwch drefnu galwad ar-lein gydag aelod o dîm Celfyddydau Ymdrochol. Bydd y sesiynau yma’n digwydd ym mis Awst a mis Medi 2025. 

Mae’r cymorth yma ar gyfer pobl:

  • sy’n niwroamrywiol
  • sy’n profi problemau iechyd corfforol neu feddyliol (yn y tymor byr neu’r tymor hir)
  • sy’n rhan o’r Mwyafrif Byd-eang
  • sy’n arddel hunaniaeth rhywedd leiafrifedig


Yn y sesiynau hanner awr yma gallwn wneud y canlynol:

  • Eich arwain drwy’r broses ymgeisio a chymhwysedd
  • Ateb cwestiynau am beth mae’r rhaglen yn ei gynnig a pha gymorth hygyrchedd sydd ar gael
  • Eich cyfeirio at adnoddau defnyddiol


Fyddwn ni ddim yn gallu:

  • Rhoi adborth manwl ar eich cais drafft
  • Rhoi cyngor i chi ar ba ffrwd ariannu i’w ddewis
  • Sgwrsio’n gyffredinol

Mae croeso i weithwyr cymorth ymuno â’r alwad ar-lein. 


Sut i drefnu

Gallwch drefnu galwad hanner awr gan ddefnyddio’r ddolen yma.
Byddwn yn rhyddhau slotiau bob pythefnos, felly dewch yn ôl i wirio os nad oes rhai ar gael.

 

Gyda phwy allwch chi siarad

Byddwch chi’n siarad ag un o Gynhyrchwyr Celfyddydau Ymdrochol sydd wedi’u lleoli ledled gwledydd Prydain. Gallwch ddewis siarad â Chynhyrchydd o’ch gwlad—neu gyda Chynhyrchydd o wlad wahanol os yw hynny’n teimlo’n fwy defnyddiol ar gyfer eich cwestiynau.

Gallwch ddarllen mwy am bob Cynhyrchydd ar ein tudalen Amdanon ni.

Cymorth i artistiaid sy'n derbyn cyllid

Rydyn ni am i bob artist sy’n derbyn cyllid drwy Celfyddydau Ymdrochol allu cymryd rhan mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw.

Os byddwch yn derbyn cyllid, byddwn yn gofyn am unrhyw ofynion hygyrchedd a allai fod gennych chi. Mae hyn yn ein helpu i ddeall pa addasiadau rhesymol y gallwn eu cynnig i’ch cefnogi.

Ein nod yw bod yn hyblyg ac yn agored. Er na allwn warantu y gellir bodloni pob cais, byddwn yn gwrando’n ofalus ac yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i atebion o fewn yr adnoddau sydd ganddon ni.

Mynediad at Waith

Fel arfer bydd costau ar gyfer gweithwyr cymorth a/neu offer neu dechnoleg hygyrchedd yn cael eu hariannu drwy gynllun Mynediad at Waith Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Rydyn ni’n annog artistiaid yn gryf i wneud cais i gynllun Mynediad at Waith – yn enwedig nawr, gan fod y cynllun dan fygythiad. Mae’r cynllun wedi bod yn darparu’r cymorth hygyrchedd mwyaf cyson a phellgyrhaeddol ers tro byd, sy’n ymestyn ymhell tu hwnt i brosiectau unigol yn aml. Er bod Celfyddydau Ymdrochol yn cynnig addasiadau rhesymol i fodloni gofynion hygyrchedd, Mynediad at Waith sydd wedi darparu’r cymorth mwy cynhwysfawr erioed – sy’n fuddiol drwy gydol eu prosiect a thu hwnt.

Cymorth Hyblyg

Rydyn ni’n deall nad yw gofynion hygyrchedd pawb yr un peth. Rydyn ni’n mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn ceisio gweithio gyda phob artist i leihau neu ddileu rhwystrau lle bynnag y gallwn.

Unwaith y byddwch chi’n rhan o’r rhaglen, gallwch chi wneud y canlynol:

  • Rhannu eich gofynion yn y fformat sydd fwyaf addas i chi, gan gynnwys drwy Ddogfen Hygyrchedd
  • Siarad â Chynhyrchydd o raglen Celfyddydau Ymdrochol am beth fyddai o gymorth i chi, gan gynnwys:
    • Cyfathrebu mewn fformat ac ar adegau sy’n addas i chi
    • Gwneud addasiadau o ran lefelau egni, niwroamrywiaeth, cyfrifoldebau gofalu, neu iechyd

Mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb, efallai y byddwn yn gallu cynnig:

  • Seddi cadw
  • Gofodau gorffwys neu dawel
  • Mynediad cynnar i leoliadau neu seibiannau o sesiynau hir

 

Rydyn ni hefyd yn ymgorffori hyblygrwydd yn strwythur y rhaglen lle gallwn ni. Er enghraifft, mae’r ffrwd Arbrofi yn cynnig dau opsiwn hyblyg o ran ei Labordy Datblygu:

  • Preswyl (Mawrth 2026)
    Un wythnos (pum diwrnod) wyneb yn wyneb
  • Tracio ar-lein hamddenol (Mawrth-Ebrill 2026)
    Deg hanner diwrnod dros gyfnod hirach mewn ymateb i’r garfan. Wedi’i ddylunio ar gyfer artistiaid sydd â gofynion hygyrchedd a/neu swyddogaethau gofalu lle nad yw’r model preswyl o bosib yn addas ar eu cyfer.

Ein nod yw creu amgylchedd cefnogol – os byddwch yn derbyn cyllid, byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i’r ffyrdd gorau i chi gymryd rhan.

Adnoddau a dolenni defnyddiol

Sut i gysylltu â ni

Os na allwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth hygyrchedd sydd ei hangen arnoch ar y dudalen yma, anfonwch e-bost aton ni neu ffoniwch/tecstiwch 07926 699909.

Dim ond yn rhan-amser mae staff yn gallu ateb ein ffôn, felly os nad ydyn ni ar gael pan fyddwch yn ffonio gallwch adael neges llais i ni a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Digwyddiad Gwybodaeth am Gyllid

Dyddiad: Dydd Mercher 24 Gorffennaf 2025
Amser: 16:00 –17:00
Lleoliad: Ar-lein (Zoom)

Mae’r sesiwn yma ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais i’r rhaglen Celfyddydau Ymdrochol. Byddwn yn egluro sut mae’r broses gwneud cais yn gweithio, pa gefnogaeth sydd ar gael, a beth i’w ddisgwyl gan bob ffrwd ariannu.

 

Nodweddion hygyrchedd:

  • Dehongli Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • Disgrifiad sain (byddwn yn disgrifio unrhyw beth sy’n cael ei ddangos ar y sgrin)
  • Capsiynau caeedig
  • Bydd trawsgrifiad ar gael ar gais ar ôl y digwyddiad
  • Bydd recordiad o’r sesiwn ar gael ar YouTube gyda chapsiynau a dehongliad Iaith Arwyddion Prydain. 

Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio a’i uwchlwytho i’n sianel YouTube gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain a chapsiynau. 

Archebwch eich lle

Sesiwn hygyrchedd

Dyddiad: Dydd Llun 28 Gorffennaf 2025
Amser: 16:00 –17:00
Lleoliad: Ar-lein (Zoom)

Mae’r sesiwn ar-lein hamddenol yma ar gyfer unrhyw un sy’n wynebu rhwystrau rhag gwneud cais ac sydd eisiau deall sut gall Celfyddydau Ymdrochol gefnogi gofynion hygyrchedd yn ystod y broses gwneud cais ac ar ôl hynny.

Mae’r sesiwn yma ar gyfer:

  • Artistiaid sy’n Fyddar, yn anabl neu’n niwroamrywiol
  • Artistiaid sydd â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol
  • Unrhyw un sydd â chwestiynau am hygyrchedd yn y rhaglen

Nodweddion hygyrchedd:

  • Disgrifiad sain (byddwn yn disgrifio unrhyw beth sy’n cael ei ddangos ar y sgrin)
  • Dehongli Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • Capsiynau byw (heb eu creu gan Ddeallusrwydd Artiffisial)

Ni fydd y sesiwn yma’n cael ei recordio

Os oes gennych ofynion hygyrchedd ychwanegol, rhowch wybod i ni drwy’r ffurflen archebu. Er mwyn ein helpu i fodloni ceisiadau, gofynnwn i chi eu cyflwyno erbyn 21 Gorffennaf 2025.

Archebwch eich lle

Adborth

Rydyn ni’n gwerthfawrogi adborth er mwyn helpu i wella ein prosesau. Os oes gennych awgrymiadau neu os hoffech rannu eich profiad, llenwch y ffurflen adborth fer yma.