Newyddion
Newyddion diweddaraf
29 Ebrill
Helpwch ni i lunio map o gyfleusterau cynhyrchu ymdrochol ledled gwledydd Prydain
Ydych chi’n rhedeg cyfleuster neu ofod sy’n cefnogi gwaith cynhyrchu ymdrochol? Os felly, rydyn ni eisiau clywed gennych!
Rydyn ni’n dylunio adnodd rhad ac am ddim fydd yn cefnogi pobl greadigol i gael gwybod beth sydd ar gael, i godi ymwybyddiaeth o gyfleusterau ymhlith y rhai sy’n awyddus i gynyddu eu defnydd – ac i’n helpu ni i gyd i eiriol dros y pethau sydd ar goll.
Mae Celfyddydau Ymdrochol yn deall y gall fod yn anodd gwybod pa gyfleusterau sydd ar gael i gefnogi prosiectau ymdrochol gydag adnoddau cyfyngedig. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod bylchau yn y ddarpariaeth a bylchau o ran hygyrchedd ac o ran trosi rhwng gwahanol fathau o waith creadigol.
Er mwyn helpu i ddeall yr heriau yma, rydyn ni wedi cael cyllid gan Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chyngor Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau UKRI (yr AHRC) i lunio map rhyngweithiol o gyfleusterau cynhyrchu ymdrochol gwledydd Prydain.
Rydyn ni’n gofyn i ddarparwyr mawr a bach sy’n darparu cyfleusterau cynhyrchu ymdrochol yng ngwledydd Prydain gwblhau’r ffurflen fer yma (sy’n cymryd tua 10 munud) erbyn dydd Gwener 22 Mai 2026 er mwyn ein helpu i lenwi’r map: Mapio cyfleusterau cynhyrchu ymdrochol gwledydd Prydain – Llenwch y ffurflen
Does dim cost am ymddangos ar y map a bydd mynediad am ddim drwy ein gwefan. Noder mai mater o ddisgresiwn ein tîm ymchwil yw beth sy’n cael ei gynnwys ar y map.
Fe fydden ni’n ddiolchgar petaech yn gallu rhannu’r alwad yma’n eang i ledaenu’n cyrhaeddiad ar draws y sector ymdrochol.