Newyddion

Newyddion diweddaraf

16 Ebrill

15 prosiect arloesol o Gymru i elwa o gronfa Immersive Arts gwerth £1.2m

Mae 15 artist a sefydliad celfyddydol o Gymru ymhlith y cyntaf i gael arian gan Immersive Arts.

At ei gilydd mae bron i £1.2 miliwn wedi’i ddyrannu i 83 prosiect dan arweiniad artistiaid ledled Prydain yn rownd ariannu gyntaf Immersive Arts, cynllun sy’n cefnogi artistiaid o bob cefndir a phrofiad i weithio gyda thechnolegau ymgolli.

Mae 3 swm grant ar gael – £5,000, £20,000 a £50,000. Mae’n cefnogi artistiaid ar wahanol gamau o’u datblygiad creadigol: archwilio, arbrofi neu ehangu sut maent yn creu gwaith sy’n defnyddio technoleg i ymgysylltu â chynulleidfa.

Consortiwm Prydeinig yw Immersive Arts, dan arweiniad Stiwdio’r Pervasive Media yn y Watershed, Bryste, gyda phartneriaid ym mhob cenedl. Canolfan Mileniwm Cymru yw’r sefydliad arweiniol yng Nghymru.

Cafodd Immersive Arts 2,517 cais o bob rhan o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr –llawer uwch na’r disgwyl. Roedd yn arwydd am y diddordeb a’r galw ymhlith artistiaid sydd am greu a rhannu gwaith anhygoel. Roedd tua 200 cais o Gymru.

Yn y rownd gyntaf, rhoddwyd £1,180,000 fel a ganlyn:

  • 50 x £5,000 – grantiau archwilio (8 yng Nghymru)
  • 24 x £20,000 – grantiau arbrofi (5 yng Nghymru)
  • 9 x £50,000 – grantiau ehangu (2 yng Nghymru)

Mae arian Immersive Arts ar gael drwy gydweithio rhwng Cyngor Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau Ymchwil ac Arloesedd y DU, Cyngor Celfyddydau Cymru, Yr Alban Greadigol, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Lloegr. Mae’r arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Yr Alban Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon yn dod o’r Loteri Genedlaethol.

Prosiectau dan sylw


Bydd yr artistiaid llwyddiannus yn archwilio gwahanol gelfyddydau gan gynnwys dawns, theatr, y celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, gemau, animeiddio, ffilm, cerfluniau a chelf fyw. Byddant yn gweithio gydag ystod o dechnolegau gan gynnwys rhithwir, realiti estynedig a chymysg, sain lle, tafluniadau rhyngweithiol, golwg peirianyddol, amgylcheddau ymatebol, deallusrwydd artiffisial, hapteg a thecstilau cysylltiedig.

Ymhlith y rhai sy’n cael grant Ehangu yng Nghymru mae Jack Philip ar gyfer ‘We Live In An Old Chaos of the Sun’, gwaith dawns gyfoes sy’n dod â bydoedd coreograffi ynghyd â thechnoleg ddigidol trochi mewn amser real.

"Dwi wrth fy modd ac yn ddiolchgar i fod yn rhan o’r garfan gyntaf i gael arian Immersive Arts. Mae'n tystio i bwysigrwydd cydweithio ledled Cymru a’r tu hwnt. Mae'n anrhydedd imi gyfrannu at y cydweithio. Mae'r cyfle’n fraint ac yn atgoffa pawb o rym cysylltiadau blaengar ac uchelgais creadigol. Mae’n wych gwireddu ein syniadau a dwi'n diolch i Immersive Arts am gredu yn fy ngweledigaeth ac am roi'r cyfle imi ei gwireddu. Mae eu cefnogaeth yn tanio fy uchelgais ac yn fy ysbrydoli i barhau i greu gyda phwrpas a chalon."

Bydd Common/Wealth, cwmni yng Nghaerdydd a Bradford, hefyd yn cael grant Ehangu. Dywedodd Rhiannon White a Camilla Brueton o gwmni Common/Wealth:

"Rydym wrth eu bodd i gael arian Ehangu ac ar dân am archwilio posibiliadau adrodd straeon trochi. Rydym yn edrych ymlaen i ddatblygu y ffordd yr ydym yn gweithio gyda’r celfyddydau trochi gyda’n hartistiaid a'n cynulleidfa. Rydym yn gweld y grym sydd gan dechnoleg trochi wrth lunio ein dyfodol a sut mae straeon yn cael eu hadrodd a chan bwy. Fel theatr, rydym o’r farn y dylent berthyn i bawb.

Bydd ein ffocws ar ein cynhyrchiad yn yr Hydref, lle byddwn yn archwilio realiti digidol sy'n gorgyffwrdd, gwyliadwriaeth amatur a deallusrwydd artiffisial yn gweithio gyda'r Technolegydd Creadigol Nathanial Mason. Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion yn fuan."

Dywedodd Rhys Miles Thomas a gafodd grant Arbrofi:

"Mae'n wych cael grant Immersive Arts! Mae'n ardderchog gallu arddangos fy ngwaith fel person creadigol Byddar, Anabl neu Niwroamrywiol (BAN) o Gymru. Yn aml mae pobl yn dibrisio’r celfyddydau a chyda thoriadau ofnadwy i gefnogaeth i bobl FAN, mae cael cronfa fel hon yn hanfodol. Diolch am y rhyddid i greu. Ymlaen!"

Agor y sector trochi

Nod Immersive Arts yw creu amgylchedd cynhwysol a hygyrch i bobl greadigol ddod i faes y technolegau trochi. Bydd y rhain yn cynnwys artistiaid nad ydynt wedi cael y cyfle i weithio ynddynt o’r blaen a rhai ymylol yn y sector. Mae tystiolaeth glir bod pobl Prydain dan anfantais ar sail rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd (ymhlith ffactorau eraill). Mae’r anghydraddoldeb i’w weld yn glir yn y celfyddydau ac mae’n amlycach fyth ym maes technoleg. Mae tîm Immersive Arts yn gweithio i’w wyrdroi. Rydym yn falch o weld cynifer o geisiadau gan artistiaid amrywiol ac â phrofiad byw o bob cwr o Brydain.

Dyma restr lawn o’r prosiectau a gafodd arian yn y rownd gyntaf gan gynnwys y 15 o Gymru.

Am ragor o wybodaeth am brosiectau Cymru, cysylltwch â: cyfathrebu@celf.cymru

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau am y prosiect ledled Prydain, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg, Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste ar 0117 3282208 neu: pressoffice@uwe.ac.uk

Beth yw Immersive Arts?

Rhaglen ymchwil a datblygu ledled Prydain sy’n cefnogi dros 200 artist a sefydliad i archwilio posibiliadau creadigol technolegau trochi.

Mae consortiwm Immersive Arts dan arweiniad Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste gyda’r ganolfan yn Stiwdio’r Pervasive Media ym Mryste a’r Watershed sy’n ei gynhyrchu.

Mae’n gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bryste a sefydliadau diwylliannol ym Melffast a Derry (Nerve Centre), Caerdydd (Canolfan Mileniwm Cymru), Glaschu/Glasgow (Cryptic) a hefyd  Crossover Labs, Unlimited, XR Diversity Initiative ac Innovate UK Immersive Tech Network. Mae’n cynnwys rhaglen o gyfleoedd cynhwysol a hygyrch i chwalu’r rhwystrau i artistiaid o bob cefndir i ddefnyddio offer ymgolli.

Mae artistiaid yn cael cyfle i gael hyfforddiant, mentora, cyfleusterau arbenigol a grantiau. Rhwng 2024 a 2027 roedd o leiaf £3.6 miliwn mewn grantiau ar gael i ddechrau syniadau a datblygu prosiectau ymhellach.