CWESTIYNAU CYFFREDIN

Mae’r dudalen yma’n cynnwys y cwestiynau sy’n cael eu gofyn i ni amlaf am y cyllid, a sut i wneud cais. Byddwn yn diweddaru’r Cwestiynau Cyffredin yma wrth i ni ddeall mwy am y cwestiynau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ymgeiswyr.

Cyffredinol

Beth yw’r rhaglen Celfyddydau Ymdrochol?

Rhaglen uchelgeisiol sy’n cael ei chynnal ar draws gwledydd Prydain dros gyfnod o dair blynedd yw Celfyddydau Ymdrochol, sy’n defnyddio dull sy’n cael ei arwain gan artistiaid o weithio gyda thechnolegau ymdrochol. Mae’r rhaglen gyffrous yma’n annog artistiaid o bob cefndir a phrofiad i archwilio, arbrofi neu estyn sut maen nhw’n gweithio, neu sut hoffen nhw weithio, gyda thechnolegau ymdrochol.

Pwrpas y rhaglen yw:

  • Creu cyfleoedd hygyrch a chynhwysol, gan chwalu’r rhwystrau rhag gweithio gydag offer ymdrochol.
  • Cefnogi artistiaid i ddatblygu gwaith arloesol, waeth beth yw eu lefel profiad neu eu gwybodaeth dechnegol.
  • Meithrin cymuned gref o grewyr ledled gwledydd Prydain i rannu syniadau ac i gydweithio.
  • Hyrwyddo dyfodol mwy amrywiol a chynaliadwy i’r celfyddydau ymdrochol drwy darfu ar ddulliau traddodiadol a hyrwyddo lleisiau newydd.

Beth ydych chi’n ei olygu wrth ‘celfyddydau ymdrochol’?

Rydyn ni’n gwybod bod ‘ymdrochol’ yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ac mewn gwahanol gyd-destunau. Ar gyfer y rhaglen yma, rydyn ni’n ei diffinio fel ‘celf sy’n defnyddio technoleg er mwyn mynd ati i gynnwys y gynulleidfa’

Gallai hyn gynnwys y defnydd o realiti rhithwir, realiti ymestynnol a realiti estynedig wrth greu gwaith celf sy’n pontio rhwng gofodau ffisegol a digidol, yn anelu at sawl synnwyr, ac yn waith celf sy’n cysylltu pobl â’i gilydd a/neu â’u hamgylchedd.

Mae’r diffiniad yma’n eang yn bwrpasol, ac mae’n ceisio cynnig arweiniad heb gyfyngu beth all pobl wneud cais amdano, ac annog arbrofi creadigol.

Pa gyllid sydd ar gael?

Mae tri math o gyllid ar gael:

  1. Archwilio (£5,000): I gefnogi archwilio cyfnod cynnar a datblygu sgiliau gyda thechnolegau ymdrochol. Mae’r prosiectau’n para 3-6 mis, gyda thri chyfarfod wedi’u hamserlennu gyda Chynhyrchydd o raglen Celfyddydau Ymdrochol.
  2. Arbrofi (£20,000): I ddatblygu prototeipiau a phrofi cysyniadau gyda chynulleidfaoedd bach. Bydd yn rhedeg am 4-9 mis, gyda chyfleoedd hyfforddiant a mireinio a thri chyfarfod wedi’u hamserlennu gyda Chynhyrchydd o raglen Celfyddydau Ymdrochol.
  3. Estyn (£50,000): Ar gyfer prosiectau ar gamau datblygedig, i helpu i gynyddu effaith a gwella ymgysylltiad. Bydd yn para 6-12 mis, gyda mentora wedi’i deilwra a chymorth ychwanegol.

Faint o brosiectau fydd yn cael eu hariannu?

Bydd y rhaglen yn ariannu dros 200 o brosiectau ledled gwledydd Prydain rhwng 2024 a 2027. Fe wnaethon ni ariannu 83 o brosiectau yn ystod rownd ariannu 2024 ac rydyn ni’n bwriadu dyfarnu tua dwbl y nifer yna yn rownd ariannu 2025.

Faint o bobl wnaeth gais i'r alwad agored yn 2024?

Fe wnaethon ni dderbyn 2517 o geisiadau gan artistiaid ledled gwledydd Prydain, wedi’u gwasgaru ar draws y tair lefel o arian grant. Gallwch ddarllen ein myfyrdodau ar Rownd 1 yma.

Ble alla i weld adborth cyffredinol ar alwad agored 2024?

Gallwch ddarllen y sylwadau cyffredinol o’r alwad ariannu gyntaf.

Prif feysydd ffocws ein hadborth oedd: pam y barnwyd bod rhai ceisiadau’n anghymwys; a pham y dewiswyd rhai ceisiadau ar gyfer cyllid tra gwrthodwyd rhai eraill.

Ble alla i gael gwybodaeth am y prosiectau sydd eisoes wedi’u hariannu?

Gallwch ddarllen mwy am y prosiectau sydd wedi’u hariannu ac sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn yr adran Prosiectau ar ein gwefan. Gallwch hefyd ddarllen ein cyhoeddiadau newyddion.

Alla i siarad ag aelod o'r tîm am fy nghais?

Os oes gennych gwestiynau am y broses ymgeisio sydd heb eu trafod yn y Cwestiynau Cyffredin yma, gallwch anfon e-bost aton ni yn info@immersivearts.uk neu ddefnyddio ein ffurflen gyswllt.

Os ydych chi’n wynebu rhwystrau i wneud cais, rydyn ni’n cynnig sgyrsiau un i un gyda Chynhyrchwyr rhaglen Celfyddydau Ymdrochol. Bydd y sesiynau yma’n digwydd ym mis Awst a mis Medi 2025. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cymorth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen cymorth hygyrchedd.

Beth os oes gen i gŵyn?

Os oes gennych chi gŵyn am unrhyw agwedd ar y rhaglen neu unigolyn neu sefydliad sy’n rhan o’r rhaglen, cyfeiriwch at y polisi Gwneud Cwyn. Rydyn ni’n cymryd pob adborth o ddifri ac rydyn ni’n ymroddedig i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau.

Pwy sy’n gymwys

Pwy sy’n gallu gwneud cais?

Rydych chi’n gymwys i wneud cais am grant Celfyddydau Ymdrochol:

  • os ydych chi’n artist unigol, yn ymarferydd creadigol neu’n dechnolegydd creadigol
    (neu)
  • os ydych chi’n sefydliad celfyddydol, yn gasgleb neu’n grŵp bach (deg o bobl neu lai ar gyfer Archwilio ac Arbrofi, hyd at 50 o bobl ar gyfer Estyn)
  • os yw eich cais yn cael ei arwain gan artist a/neu’n canolbwyntio ar y celfyddydau
  • os ydych chi’n byw yng ngwledydd Prydain
  • os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn
  • os oes gennych gyfrif banc yng ngwledydd Prydain yn eich enw eich hunan.

Gallwch enwi sefydliadau mwy fel partner ar y cais, ond nid yw hyn yn ddisgwyliedig nac yn ofynnol.

Beth ydych chi’n ei feddwl wrth ‘artist’?

Unrhyw un sy’n rhan o ymarfer creadigol, gan gynnwys artistiaid, crewyr, technolegwyr, ac ymarferwyr o ystod eang o ddisgyblaethau. Gallai hyn gynnwys unigolion neu grwpiau bach sy’n gweithio mewn meysydd fel y celfyddydau gweledol, y celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, ffilm dylunio, llenyddiaeth, pensaernïaeth a mwy.

Pa ffurfiau ar gelfyddyd sy’n gymwys?

Mae pob ffurf ar gelfyddyd yn gymwys am gyllid, dim ond i’r ymgeisydd allu dangos diddordeb go iawn mewn archwilio, arbrofi, neu estyn eu defnydd o dechnolegau ymdrochol yn eu hymarfer creadigol. 

Oes rhaid fy mod i wedi fy lleoli yng ngwledydd Prydain?

Oes, mae’n rhaid i chi fod wedi’ch lleoli yng ngwledydd Prydain (h.y. y Deyrnas Unedig) i wneud cais am gyllid Celfyddydau Ymdrochol. Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod yn unigolyn, yn ficro-endid, neu’n gwmni bach wedi’i leoli yng ngwledydd Prydain, gyda chyfrif banc yng ngwledydd Prydain o dan eu henw. Mae hyn yn cynnwys artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

A all artistiaid o Ynysoedd y Sianel (e.e., Jersey) wneud cais?

Dydy artistiaid sy’n byw ar Ynysoedd y Sianel ddim yn gymwys i fod yn brif ymgeiswyr, ond mae modd eu henwi fel partneriaid/ cydweithwyr mewn cais sy’n cael ei arwain gan artist sy’n byw yng ngwledydd Prydain.

Oes angen i fi fod yn hunangyflogedig neu fod yn berchen ar gwmni i wneud cais?

Nac oes. Mae croeso i unigolion, boed nhw’n gweithio’n annibynnol neu mewn sefydliad, wneud cais. Y gofyniad allweddol yw bod gennych chi gyfrif banc yng ngwledydd Prydain o dan eich enw chi.

Ydy cwmnïau cyfyngedig ac elusennau yn gymwys?

Gall cwmnïau cyfyngedig ac elusennau wneud cais cyhyd â’u bod nhw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer maint y sefydliad (hyd at 10 o bobl ar gyfer Archwilio ac Arbrofi, a hyd at 50 o bobl ar gyfer Estyn).

All myfyrwyr wneud cais?

Gall myfyrwyr wneud cais os gallan nhw ddangos bod ganddyn nhw ymarfer creadigol sydd ar wahân i’w hastudiaethau, a bod eu prosiect ar wahân i unrhyw gwricwlwm addysg ffurfiol. Does dim modd defnyddio’r cyllid ar gyfer prosiectau sy’n rhan o ofynion gradd neu gwrs, fel ffioedd dysgu neu waith academaidd.

Oes rhaid i fi ddefnyddio realiti estynedig (XR)?

Nac oes, does dim rhaid i chi ganolbwyntio ar XR yn eich prosiect. Rydyn ni’n annog arbrofi gydag ystod o dechnolegau – cyfrifiadura gofodol, fideo 360-gradd, sain ofodol, sain deuglust, adborth cyffyrddiadol a synhwyraidd neu amgylcheddau ymatebol – sy’n cynnwys y gynulleidfa. Ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau sy’n dadlau’r achos dros ddefnyddio technolegau eraill sy’n galluogi cynulleidfa i chwarae rhan weithredol yn y gwaith celf.

Rydyn ni wedi creu canllaw Geiriau Ymdrochol i esbonio rhywfaint o’r iaith gyffredin rydyn ni’n ei defnyddio neu sy’n cael ei defnyddio yn y byd celf ymdrochol a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

All fy mhrosiect i gynnwys partner rhyngwladol neu gostau rhyngwladol?

Oes, ond mae’n rhaid i’r prif ymgeisydd a’r prif weithgarwch fod yng ngwledydd Prydain, gyda’r arian yn mynd i gyfrif banc yn y Deyrnas Unedig.. Yn bennaf, dylid defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgarwch yng ngwledydd Prydain. Gellid ystyried costau rhyngwladol os ydyn nhw’n hanfodol i lwyddiant y prosiect.

Mae eisoes gen i gyllid prosiect, alla i wneud cais am gyllid Celfyddydau Ymdrochol?

Gallwch, gallwch wneud cais am gyllid Celfyddydau Ymdrochol er bod gennych chi gyllid prosiect arall, cyhyd ag nad yw arian Celfyddydau Ymdrochol yn cael ei ddefnyddio i dalu costau sydd eisoes yn cael eu hariannu gan ffynhonnell arall. Dylai eich cais ganolbwyntio ar weithgarwch newydd neu ychwanegol yn ymwneud â thechnolegau ymdrochol, nad ydyn nhw wedi’u cynnwys yn eich cyllid presennol.

Beth os nad ydw i’n adnabod technolegydd neu gydweithredwr o ddisgyblaeth arall?

Rydyn ni’n argymell defnyddio eich rhwydweithiau creadigol, mynd i ddigwyddiadau perthnasol, edrych ar enwau’r bobl sydd wedi creu gwaith rydych chi’n hoff ohono neu archwilio llwyfannau fel LinkedIn a Rhwydwaith Technoleg Ymdrochol Innovate UK i gysylltu â thechnolegwyr neu arbenigwyr eraill y gallai fod eu hangen arnoch chi.

Byddwn ni’n parhau i werthuso’r angen yma wrth i’r rhaglen ddatblygu. Er nad ydyn ni’n cynnig cymorth i gysylltu â phartneriaid posib ar hyn o bryd, gallwch gynnwys yr amser rydych chi’n ei dreulio yn datblygu’r perthnasau yma yng nghyllideb eich prosiect fel gwaith ymchwil a datblygu.

Cymorth Hygyrchedd

Pa gymorth sydd ar gael i fy helpu i wneud cais?

Yn ystod y broses gwneud cais, mae sawl math o gymorth ar gael i’ch helpu chi, gan gynnwys:

Ffurflenni Cais: Gallwch wneud cais drwy sain, fideo neu destun, a gwneud eich cais yn Gymraeg, yn Saesneg neu yn Iaith Arwyddion Prydain gan ddefnyddio ein porth ymgeisio.

Alla i wneud fy nghais mewn iaith arall?

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn Iaith Arwyddion Prydain. Os oes angen i chi wneud cais mewn fformat gwahanol neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi (fel dehonglwyr iaith arwyddion neu gymorth sgrifellu er enghraifft), yna cysylltwch â ni. Efallai y byddwn ni’n gallu helpu i dalu’r costau.

Pa gymorth hygyrchedd sydd ar gael i’r artistiaid sy’n cael eu hariannu?

Rydyn ni’n gofyn i’r ymgeiswyr llwyddiannus rannu unrhyw ofynion hygyrchedd sydd ganddyn nhw er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen. Pan fo hynny’n berthnasol, gallwn ddarparu rhywfaint o gyllid ychwanegol i gyfrannu at y cymorth hygyrchedd. Fel arfer bydd costau ar gyfer gweithwyr cymorth, a mynediad at offer neu dechnoleg yn cael eu hariannu drwy raglen Mynediad at WaithRydyn ni’n annog artistiaid sy’n gwneud cais ac sydd â gofynion o’r fath i ddefnyddio rhaglen Mynediad at Waith er mwyn cael cymorth parhaus.

Gallwn deilwra mentora a hyfforddiant i bobl sydd â gofynion hygyrchedd neu ddyletswyddau gofalu.

Mae ein partneriaid Unlimited yn cynnig gweithdai penodol am hygyrchedd a chymorth sy’n seiliedig ar garfan. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen cymorth hygyrchedd.

 

Sut galla i ofyn am gymorth hygyrchedd?

Mewn rhai achosion, gallwn eich helpu gyda’ch cais drwy’ch cefnogi gyda chostau hygyrchedd, fel gweithwyr cymorth neu ddehonglwyr. I ofyn am gymorth gyda chostau hygyrchedd gyda’ch cais, llenwch y ffurflen yma.

Y dyddiad cau i wneud cais am gymorth hygyrchedd yw 17:00, dydd Llun 1 Medi 2025.

Mae rhagor o wybodaeth am gymorth hygyrchedd a sut i gysylltu â ni ar gael ar ein tudalen cymorth hygyrchedd.

Gwneud cais

Sut mae gwneud cais?

Dylech gyflwyno ceisiadau drwy’r porth ymgeisio swyddogol.

Rydyn ni’n argymell darllen y canllawiau ariannu a’r canllaw cam wrth gam cyn i chi ddechrau ar eich cais.

Sut ydw i’n dewis pa ffrwd ariannu i wneud cais amdani?

Mae tair ffrwd ariannu i ddewis ohonynt. Mae pob ffrwd wedi’i chynllunio i gefnogi artistiaid ar wahanol gamau yn eu datblygiad creadigol gyda thechnolegau ymdrochol. Dewiswch y ffrwd sy’n rhoi’r gefnogaeth fwyaf perthnasol i chi ar gyfer cam eich prosiect(au) a/neu ymarfer creadigol ar hyn o bryd.

Meddyliwch am beth fyddech chi’n ei wneud gyda’r arian a beth yw eich meysydd blaenoriaeth i’w datblygu, yna edrychwch ar sut mae’r rhain yn cyd-fynd â’r meini prawf ar gyfer pob cronfa.

Gallwch ddarllen y manylion a’r meini prawf ar gyfer pob ffrwd yma:

Os ydych chi’n ansicr pa un i wneud cais amdano, gallwch chi wneud ein cwis ar-lein.

Pa gostau alla i wneud cais amdanyn nhw?

Mae costau cymwys yn cynnwys:

  • datblygu prosiect
  • deunyddiau ac offer
  • ffioedd proffesiynol
  • ffioedd hyfforddi
  • teithio, llety a chynhaliaeth
  • marchnata/datblygu cynulleidfa: (Archwilio ac Arbrofi yn unig).
  • llogi safleoedd
  • hygyrchedd a chynhwysiant


Does dim angen arian cyfatebol, a does dim angen cynnwys costau hygyrchedd ar gyfer artistiaid/timau o artistiaid ar y cam yma. 

I gael rhagor o fanylion am beth all gael ei ariannu ai peidio, darllenwch y meini prawf ar gyfer y ffrwd berthnasol yn y canllawiau ariannu.

 

Ar gyfer beth na ellir defnyddio'r arian?

Mae costau nad ydyn nhw’n gymwys yn cynnwys:

  • gwariant cyfalaf
  • gorbenion / costau rhedeg cyffredinol sydd ddim yn gysylltiedig â’r prosiect
  • ad-dalu dyledion
  • gweithgarwch sydd ddim yn artistig
  • digwyddiadau codi arian
  • offer sydd ddim yn uniongyrchol gysylltiedig â’r prosiect
  • ffioedd dysgu ac addysg ffurfiol
  • prosiectau mewn lleoliadau addysg ffurfiol (e.e. gweithgarwch gan fyfyrwyr fel rhan o’u cwricwlwm academaidd) 
  • costau sydd wedi’u talu eisoes gydag incwm neu gyllid arall
  • alcohol.

A ddylai fy nghyllideb gynnwys TAW?

Fel grant, mae’r cyllid yma’n cynnwys unrhyw dreth ar werth (TAW) a allai fod yn berthnasol. Felly dylech gyllidebu ar gyfer unrhyw dreth ar werth berthnasol sy’n gysylltiedig â chynnig eich prosiect. Os nad ydych chi’n siŵr am TAW ar gyfer eich prosiect, mae’n syniad da gofyn am gyngor wrth i chi baratoi eich cyllideb.

Alla i fod yn rhan o fwy nag un cais?

Cewch fod yn brif ymgeisydd ar un cais ym mhob rownd ariannu. Gallwch gael eich enwi fel cydweithiwr neu bartner ar geisiadau eraill.

Alla i wneud cais i fwy nag un ffrwd ariannu?

Gall artistiaid cymwys gyflwyno un cais yn y rownd ariannu yma, sef ar gyfer Arbrofi, Archwilio neu Estyn. Gallwch wneud cais yn y rownd ariannu yma p’un a ydych chi wedi gwneud cais mewn rownd flaenorol ai peidio.

Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais?

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yn y rownd ariannu bresennol yw 14:00, dydd Llun 29 Medi 2025. Cofiwch gyflwyno eich cais cyn y dyddiad yma, gan na fyddwn ni’n derbyn ceisiadau hwyr.

Pryd galla i ddechrau fy mhrosiect?

Gall prosiectau ddechrau unwaith y bydd yr ymgeiswyr wedi clywed bod eu cais yn llwyddiannus ac wedi llofnodi eu cytundeb ariannu. Fodd bynnag, cofiwch y bydd yr arian yn cyrraedd hyd at fis ar ôl y contract.

Ar gyfer y rownd yma, byddwch chi’n cael gwybod os ydych chi’n llwyddiannus ym mis Ionawr 2026, a bydd amserlenni’r prosiect yn dechrau ym mis Chwefror 2026.

Alla i ddefnyddio'r arian i weithio gyda Sefydliad Addysg Uwch?

Rydyn ni’n deall y gallai cyweithiau academaidd ac ymchwil fod yn rhan o’ch ymarfer creadigol. Gall artistiaid wneud cais gyda phrosiect sy’n cynnwys partner academaidd, ond ni all sefydliadau academaidd fod yn brif ymgeisydd.

Gellir defnyddio’r cyllid i dalu am gostau cael mynediad at gyfleusterau’r brifysgol (e.e. benthyg offer, rhentu labordai neu ofodau profi, cymorth technegydd, ac ati). Ni ellir ei ddefnyddio i dalu am weithgarwch academaidd ffurfiol (e.e. gwaith a wneir fel rhan o gwrs prifysgol, neu addysgu neu ymchwil). Os yw ymchwilydd academaidd yn rhan o’ch prosiect, byddem yn disgwyl i’w costau, gan gynnwys eu hamser ac unrhyw Gostau Economaidd Llawn cysylltiedig, gael eu talu drwy ddulliau eraill.

Os nad ydych yn siŵr am gostau sydd ddim yn gymwys, cysylltwch â ni.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng offer ac asedau cyfalaf yn y gyllideb?

Yng nghyd-destun canllawiau ariannu’r Celfyddydau Ymdrochol:

  • Mae offer yn cyfeirio at eitemau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gweithgareddau eich prosiect, fel penwisg VR, trwyddedau meddalwedd neu offer technegol. Mae’r rhain yn cael eu hystyried yn gostau cymwys gan eu bod yn benodol i ddatblygu a gweithredu eich prosiect.
  • Ar y llaw arall, mae asedau cyfalaf fel arfer yn fuddsoddiadau ar raddfa fwy a fwriadwyd ar gyfer defnydd hirdymor neu seilwaith parhaol, fel adeiladau, uwchraddio cyfleusterau mawr neu adnewyddiadau sylweddol. Nid yw’r rhain yn gymwys oherwydd bod y cyllid wedi’i gynllunio i gefnogi anghenion penodol i brosiectau yn hytrach na buddsoddiadau cyfalaf ehangach neu hirdymor.

Y gwahaniaeth allweddol yw bod rhaid i gostau offer cymwys fod yn gysylltiedig â chyflawniad uniongyrchol eich prosiect a’i ganlyniadau, tra bod asedau cyfalaf yn cynrychioli buddsoddiadau ehangach, parhaol.

Defnyddio’r Porth Ymgeisio

Sut ydw i'n creu cyfrif?

Ewch i borth cyllid Celfyddydau Ymdrochol a rhowch eich cyfeiriad e-bost i mewn er mwyn dechrau. Bydd cod dilysu yn cael ei anfon atoch drwy e-bost. Rhowch y cod yma i mewn i brofi pwy ydych chi, ac yna gallwch greu cyfrinair diogel.

Rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair, sut alla i fewngofnodi i fy nghyfrif i barhau gyda fy nghais?

Gallwch ei ailosod yn hawdd drwy glicio ar y ddolen ‘wedi anghofio’ch cyfrinair?’ ar y dudalen mewngofnodi. Yna, bydd angen i chi nodi’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi gofrestru ag e, a bydd cyfrinair dros dro yn cael ei anfon atoch. Ar ôl mewngofnodi gallwch newid eich cyfrinair yn eich ‘Proffil’, sydd wedi’i leoli yn y gornel dde uchaf.

Wnes i ddim cael e-bost cofrestru

Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer cyfrif ond heb gael e-bost cadarnhau, gwiriwch eich ffolder sothach neu sbam. Weithiau mae’r e-bost yn mynd i’r ffolderi hynny drwy gamgymeriad.

Chwiliwch eich mewnflwch am e-byst gan y cyfeiriad: no-reply@app.goodgrants.com

Dal dim e-bost?

Rhowch gynnig arall ar gofrestru gan ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost. Os yw eich cyfrif eisoes wedi’i greu, bydd yn dweud wrthoch chi. Os nad yw hynny’n gweithio, cysylltwch â ni am gymorth. E-bostiwch: info@immersivearts.uk

Nid yw'r porth ymgeision/ nodweddion yn gweithio'n iawn.

Os nad yw’r cwymplenni, neu’r nodweddion eraill yn gweithio, mae’n bosib bod problem gyda’ch porwr. Rydyn ni o’r farn mai porwyr fel Chrome, Firefox, Safari neu Edge sy’n gweithio orau. Gallwch hefyd geisio clirio’ch storfa yn ngosodiadau eich porwr. Fel arall, mae atalyddion hysbysebion ac estyniadau porwr yn gallu achosi problemau gyda’r porth ymgeisio. Gall analluogi’r rhain dros dro ddatrys rhai problemau.

Alla i olygu fy nghais ar ôl i fi ei gyflwyno?

Unwaith y bydd cais wedi’i gyflwyno, does dim modd ei olygu. Os oes angen brys i wneud newidiadau, cysylltwch â ni.

Pam na alla i ddod o hyd i fy nghais drafft/cais a gyflwynwyd o 2024 ar y porth ymgeisio?

Mae ceisiadau o 2024 yn dal i fod ar gael, ond bydd angen i chi lywio atyn nhw drwy ‘My applications’, yna dewis 2024 o’r gwymplen ‘Active Season (2025)’.

Dw i'n dal i gael neges gwall wrth geisio cyflwyno fy nghais

Fwy na thebyg bod cwestiwn gofynnol heb ei ateb. Edrychwch drwy’r ffurflen gais i wneud yn siŵr nad ydych wedi methu cwestiwn gofynnol.

Dydw i ddim yn cael negeseuon e-bost/hysbysiadau o'r porth ymgeisio

Dydw i ddim yn cael negeseuon e-bost/hysbysiadau o’r porth ymgeisio

Efallai eich bod wedi diffodd rhybuddion e-bost wrth sefydlu eich cyfrif. 

  • Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar borth Celfyddydau Ymdrochol.
  • Cliciwch eich enw ar ochr dde uchaf y sgrin.
  • Dewiswch “Profile” o’r gwymplen.
  • Bydd tudalen newydd yn llwytho gyda phedwar tab ar y brig. Cliciwch y tab olaf o’r enw “Preferences”.
  • Yn yr adran yma, fe welwch opsiynau ar gyfer “Subscriptions”. Ticiwch y blychau i ganiatáu hysbysiadau a chyhoeddi negeseuon e-bost.
  • Ar ôl gwneud eich dewis, cliciwch y botwm “Save” ar waelod y dudalen.
  • Os yw’n llwyddiannus, bydd neges yn ymddangos ar frig y dudalen. “User profile successfully updated.”

Dylai hyn eich helpu i gael diweddariadau a negeseuon ganddon ni.

Dewis/ Asesu

Sut mae’r ceisiadau’n cael eu hasesu?

Rydyn ni’n dilyn proses sawl cam i wneud yn siŵr bod pob cais yn cael ei adolygu’n deg:

  • Gwiriad Cymhwysedd: Bydd eich cais yn cael ei adolygu i sicrhau ei fod wedi’i gwblhau’n gywir a’i fod yn bodloni’r meini prawf i fod yn gymwys (e.e. byw yng ngwledydd Prydain ac yn canolbwyntio ar y celfyddydau ymdrochol).Bydd ceisiadau sy’n bodloni’r meini prawf ariannu’n symud ymlaen i’r cam nesaf.
  • Sgorio a Gwerthuso yn ôl y Meini Prawf: Nesaf, bydd panel o arbenigwyr ym maes y celfyddydau ymdrochol o gefndiroedd amrywiol yn adolygu eich cais yn ofalus yn erbyn y meini prawf ariannu.

Bydd ceisiadau Archwilio sy’n bodloni’r meini prawf yn cael eu hargymell ar gyfer cyllid. Os oes mwy o geisiadau cymwys nag sydd o arian ar gael, bydd rhestr hir o bob gwlad yn cael ei chreu gan ddefnyddio samplu ar hap. Bydd y dewis yna’n symud ymlaen i gam cydbwyso portffolios.
Bydd ceisiadau Arbrofi ac Estyn yn cael eu hadolygu a’u sgorio yn erbyn eu meini prawf perthnasol, gyda’r rhai sy’n sgorio uchaf yn symud ymlaen i’r cam cyfweliad a/neu gydbwyso portffolios.

  • Cyfweliadau (ar gyfer ffrwd Estyn yn unig): Bydd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer ffrwd Estyn yn cael gwybod hynny ddiwedd mis Tachwedd/ddechrau mis Rhagfyr 2025 ac yn cael eu gwahodd i gyfweliadau ym mis Rhagfyr 2025.
  • Cydbwyso Portffolios: Bydd proses derfynol o guradu a chydbwyso’n cael ei chynnal gan bartneriaid cenedlaethol Celfyddydau Ymdrochol, gan sicrhau bod ystod o syniadau, ffurfiau ar gelfyddyd, lleoliad daearyddol a phrofiad byw.

Beth mae ‘cydbwyso portffolios’ yn ei olygu?

Rydyn ni’n disgwyl derbyn llawer mwy o geisiadau sy’n bodloni ein meini prawf ariannu nag y byddwn ni’n gallu eu hariannu. Bydd y ceisiadau sy’n sgorio uchaf ar sail ein proses adolygu yn cael eu symud ymlaen i restr fer. Yna bydd y rhestr fer yn cael ei hystyried gan banel cydbwyso portffolios sy’n cynnwys partneriaid Celfyddydau Ymdrochol a fydd yn gwneud penderfyniad terfynol ar gyllid. Mae hon yn broses a ddefnyddir gan lawer o gyllidwyr a’i nod yw sicrhau ein bod yn cefnogi carfannau gydag amrywiaeth o syniadau, ffurfiau ar gelfyddyd, lleoliad daearyddol a phrofiad byw.

  • Syniadau a ffurfiau ar gelfyddyd: bydd y panel yn ystyried cynnwys y ceisiadau i sicrhau ein bod yn cefnogi amrywiaeth eang o’r mathau o waith sy’n ffurfio celfyddydau ymdrochol.  
  • Daearyddiaeth: Caiff Celfyddydau Ymdrochol ei gefnogi gan gonsortiwm o bum cyllidwr, ac mae pedwar ohonyn nhw’n gyfrifol am gefnogi artistiaid mewn gwledydd penodol ym Mhrydain; Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd y panel yn sicrhau bod arian yn cael ei ddyrannu’n briodol ym mhob un o’r pedair gwlad, yn ogystal ag ystyried daearyddiaeth y gwledydd hynny. 
  • Profiad byw: credwn y bydd carfannau’n fwy deinamig os byddan nhw’n dwyn amrywiaeth o brofiadau byw at ei gilydd, a bod anghydraddoldeb strwythurol ym Mhrydain yn golygu nad yw prosesau ariannu ar hyn o bryd yn cynhyrchu’r canlyniadau hynny’n awtomatig.  

Bydd y panel yn cyfeirio at wybodaeth ddemograffig a gaiff ei rhannu gan ymgeiswyr yn ystod y cam ymgeisio na fydd adolygwyr allanol wedi’i gweld. Yn ymarferol mae hyn yn golygu, lle mae dau gais wedi derbyn sgoriau uchel iawn, y gall y penderfyniad terfynol flaenoriaethu’r rhai sy’n cael eu harwain gan ymgeiswyr ag un neu fwy o dair nodwedd warchodedig (mwyafrif byd-eang, anabledd, menywod/rhywedd lleiafrifol). Mae hyn oherwydd bod tystiolaeth yn dweud wrthon ni (gweler isod) eu bod yn debygol o fod wedi profi rhwystrau strwythurol sylweddol mewn mannau eraill. Darllenwch fwy am ein dull o ymdrin â demograffeg.

Pryd bydda i’n clywed os yw fy mhrosiect wedi bod yn llwyddiannus?

Byddwch chi’n gael gwybod am ganlyniad eich cais ym mis Ionawr 2026. Bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu, boed nhw’n llwyddiannus ai peidio. Bydd hyn yn cael ei anfon drwy’r Porth Ymgeisio.

Os na fydd fy nghais i’n llwyddiannus, a fydda i’n cael adborth?

Gan ein bod yn disgwyl nifer fawr o geisiadau, fyddwn ni ddim yn gallu rhoi adborth unigol, ond rydyn ni’n ymroddedig i rannu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu o’r rhaglen. Byddwn yn ysgrifennu adroddiad byr yn myfyrio ar y rownd gyntaf o geisiadau a pham y dewiswyd yr ymgeiswyr oedd ar y rhestr fer.

 

Gallwch ddarllen yr adborth o’r rownd gyntaf yma.

 

Os ydw i’n aflwyddiannus mewn un rownd—alla i wneud cais eto?

Gallwch, gallwch gyflwyno un cais ym mhob rownd ariannu, naill ai ar gyfer Archwilio, Arbrofi neu Estyn. 

Os bydda i’n llwyddiannus yn y rownd gyntaf, alla i wneud cais i’r rowndiau dilynol?

Gallwch, gallwch gyflwyno un cais ym mhob rownd ariannu, naill ai ar gyfer Archwilio, Arbrofi neu Estyn. Fodd bynnag, bydden ni’n disgwyl i chi wneud cais i ffrwd wahanol i’r un y gwnaethoch gais llwyddiannus iddi o’r blaen. Er enghraifft, os cawsoch grant Archwilio o’r blaen, gallech wneud cais i ffrwd Arbrofi, neu Estyn. Ar wahân i hyn, ni fydd llwyddiant mewn rownd flaenorol yn cael effaith gadarnhaol na negyddol ar eich cymhwysedd.

Sut fydd fy mhrosiect yn cael ei gontractio?

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu contractio’n uniongyrchol gan y partner cynhyrchu yn eu gwlad eu hunain (Cryptic yn yr Alban, Nerve Centre yng Ngogledd Iwerddon, Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghymru a Watershed yn Lloegr). Bydd pob grant yn cael ei gontractio yn unol â thelerau ac amodau ariannu safonol UKRI neu debyg.

Beth fydd yn digwydd yn Labordai Datblygu cronfa Arbrofi?

Bydd y labordai datblygu yn darparu lle ar gyfer sesiynau i ganolbwyntio ar y prosiect arfaethedig o dan arweiniad Crossover Labs a thîm o fentoriaid arbenigol yn y diwydiant.

Byddwn ni’n datblygu pob prosiect ar sail naratif, profiad y defnyddiwr a strategaeth cynulleidfa yn ogystal ag elfennau ymarferol fel cynlluniau cyllid, amserlenni a chynllunio prototeipiau.

Bydd pob tîm prosiect yn gadael y labordy gyda strategaeth glir ar gyfer eu prototeip a chyflwyniad/cynnig wedi’i ddatblygu er mwyn gwneud cais am gyllid yn y dyfodol.