Cyffredinol
Beth yw’r rhaglen Celfyddydau Ymdrochol?
Rhaglen uchelgeisiol sy’n cael ei chynnal ar draws gwledydd Prydain dros gyfnod o dair blynedd yw Celfyddydau Ymdrochol, sy’n defnyddio dull sy’n cael ei arwain gan artistiaid o weithio gyda thechnolegau ymdrochol. Mae’r rhaglen gyffrous yma’n annog artistiaid o bob cefndir a phrofiad i archwilio, arbrofi neu estyn sut maen nhw’n gweithio, neu sut hoffen nhw weithio, gyda thechnolegau ymdrochol.
Pwrpas y rhaglen yw:
- Creu cyfleoedd hygyrch a chynhwysol, gan chwalu’r rhwystrau rhag gweithio gydag offer ymdrochol.
- Cefnogi artistiaid i ddatblygu gwaith arloesol, waeth beth yw eu lefel profiad neu eu gwybodaeth dechnegol.
- Meithrin cymuned gref o grewyr ledled gwledydd Prydain i rannu syniadau ac i gydweithio.
- Hyrwyddo dyfodol mwy amrywiol a chynaliadwy i’r celfyddydau ymdrochol drwy darfu ar ddulliau traddodiadol a hyrwyddo lleisiau newydd.
Beth ydych chi’n ei olygu wrth ‘celfyddydau ymdrochol’?
Rydyn ni’n gwybod bod ‘ymdrochol’ yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ac mewn gwahanol gyd-destunau. Ar gyfer y rhaglen yma, rydyn ni’n ei diffinio fel ‘celf sy’n defnyddio technoleg er mwyn mynd ati i gynnwys y gynulleidfa’.
Gallai hyn gynnwys y defnydd o realiti rhithwir, realiti ymestynnol a realiti estynedig wrth greu gwaith celf sy’n pontio rhwng gofodau ffisegol a digidol, yn anelu at sawl synnwyr, ac yn waith celf sy’n cysylltu pobl â’i gilydd a/neu â’u hamgylchedd.
Mae’r diffiniad yma’n eang yn bwrpasol, ac mae’n ceisio cynnig arweiniad heb gyfyngu beth all pobl wneud cais amdano, ac annog arbrofi creadigol.
Pa gyllid sydd ar gael?
Mae tri math o gyllid ar gael:
- Archwilio (£5,000): I gefnogi archwilio cyfnod cynnar a datblygu sgiliau gyda thechnolegau ymdrochol. Mae’r prosiectau’n para 3-6 mis, gyda thri chyfarfod wedi’u hamserlennu gyda Chynhyrchydd o raglen Celfyddydau Ymdrochol.
- Arbrofi (£20,000): I ddatblygu prototeipiau a phrofi cysyniadau gyda chynulleidfaoedd bach. Bydd yn rhedeg am 4-9 mis, gyda chyfleoedd hyfforddiant a mireinio a thri chyfarfod wedi’u hamserlennu gyda Chynhyrchydd o raglen Celfyddydau Ymdrochol.
- Estyn (£50,000): Ar gyfer prosiectau ar gamau datblygedig, i helpu i gynyddu effaith a gwella ymgysylltiad. Bydd yn para 6-12 mis, gyda mentora wedi’i deilwra a chymorth ychwanegol.
Faint o brosiectau fydd yn cael eu hariannu?
Bydd y rhaglen yn ariannu dros 200 o brosiectau ledled gwledydd Prydain rhwng 2024 a 2027. Fe wnaethon ni ariannu 83 o brosiectau yn ystod rownd ariannu 2024 ac rydyn ni’n bwriadu dyfarnu tua dwbl y nifer yna yn rownd ariannu 2025.
Faint o bobl wnaeth gais i'r alwad agored yn 2024?
Fe wnaethon ni dderbyn 2517 o geisiadau gan artistiaid ledled gwledydd Prydain, wedi’u gwasgaru ar draws y tair lefel o arian grant. Gallwch ddarllen ein myfyrdodau ar Rownd 1 yma.
Ble alla i weld adborth cyffredinol ar alwad agored 2024?
Gallwch ddarllen y sylwadau cyffredinol o’r alwad ariannu gyntaf.
Prif feysydd ffocws ein hadborth oedd: pam y barnwyd bod rhai ceisiadau’n anghymwys; a pham y dewiswyd rhai ceisiadau ar gyfer cyllid tra gwrthodwyd rhai eraill.
Ble alla i gael gwybodaeth am y prosiectau sydd eisoes wedi’u hariannu?
Gallwch ddarllen mwy am y prosiectau sydd wedi’u hariannu ac sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn yr adran Prosiectau ar ein gwefan. Gallwch hefyd ddarllen ein cyhoeddiadau newyddion.
Alla i siarad ag aelod o'r tîm am fy nghais?
Os oes gennych gwestiynau am y broses ymgeisio sydd heb eu trafod yn y Cwestiynau Cyffredin yma, gallwch anfon e-bost aton ni yn info@immersivearts.uk neu ddefnyddio ein ffurflen gyswllt.
Os ydych chi’n wynebu rhwystrau i wneud cais, rydyn ni’n cynnig sgyrsiau un i un gyda Chynhyrchwyr rhaglen Celfyddydau Ymdrochol. Bydd y sesiynau yma’n digwydd ym mis Awst a mis Medi 2025. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cymorth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen cymorth hygyrchedd.
Beth os oes gen i gŵyn?
Os oes gennych chi gŵyn am unrhyw agwedd ar y rhaglen neu unigolyn neu sefydliad sy’n rhan o’r rhaglen, cyfeiriwch at y polisi Gwneud Cwyn. Rydyn ni’n cymryd pob adborth o ddifri ac rydyn ni’n ymroddedig i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau.